Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai y byddwch yn penderfynu mai symud i gartref gofal yw'r dewis gorau i chi wrth adael yr ysbyty. Gall eich cyngor lleol eich helpu i wneud y trefniadau gofynnol.
Os ydych yn byw mewn cartref gofal, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i aros mewn ysbyty rywbryd.
Os ydy'ch amgylchiadau wedi newid neu os ydych newydd ddod yn anabl - a bod angen cefnogaeth arnoch a gofal nyrsio o bosib - efallai mai symud i gartref gofal ydy'r ateb.
Bydd angen i'r cyngor lleol wneud asesiad i ganfod faint o gefnogaeth y byddwch ei hangen. Dylai staff yr ysbyty allu cysylltu â'ch cyngor lleol a threfnu asesiad ar eich cyfer.
Ni ellir eich rhyddhau o ysbyty i gartref gofal heb eich caniatâd ac mae gennych hawl dewis i ba gartref gofal yr ydych am fynd iddo. Gall eich cyngor lleol wneud asesiad ariannol a byddant yn helpu gyda'r ffioedd os nad oes gennych ddigon o gynilion.
Rhaid i'r cartref gofal allu bodloni eich anghenion asesedig. Os oes gennych anghenion cymhleth neu os oes angen gofal penodol arnoch sy'n gysylltiedig â'ch anabledd, salwch neu oed, gall hyn gymryd amser. Ni ddylid rhoi pwysau arnoch i ddod i benderfyniad yn sydyn.
Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn cyllid gofal parhaus llawn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) os bydd eich anghenion meddygol yn bodloni meini prawf eich awdurdod iechyd. Gallwch ofyn i'ch cyngor am gopi o'r rhain. Os bydd y GIG yn ariannu'ch gofal, hwy fydd yn dewis lle bydd y gofal yn cael ei ddarparu. Rhaid iddynt ystyried eich barn chi.
Dylai fod yn bosibl i chi gadw'ch ystafell yn ystod eich cyfnod yn yr ysbyty.
Os yw eich cyngor lleol yn helpu i dalu'ch ffioedd, dylent roi gwybod i chi am ba hyd y byddant yn parhau i dalu am eich ystafell yn y cartref gofal. Gyhyd ag y bo hyn yn digwydd ac nad yw'n effeithio ar eich budd-daliadau, disgwylir i chi dalu eich cyfraniad asesedig.
Os ydych yn ariannu'ch lle eich hun, bydd eich cartref gofal yn gallu dweud wrthych beth yw eu polisi talu yn ystod cyfnodau mewn ysbyty - dylai hyn fod yn y telerau ac amodau a dderbyniasoch pan symudoch i'r cartref.
Os ydych yn byw mewn cartref gofal ac yn cael eich anfon i ysbyty, dylech gysylltu â'r swyddfa sy'n talu eich Lwfans Byw i'r Anabl neu eich Lwfans Gweini. Bydd y lwfansau hyn fel arfer yn parhau i gael eu talu os ydych yn yr ysbyty am lai na 28 diwrnod ond nid felly mo'r achos os byddwch yn mynd i'r ysbyty o gartref gofal a bod y lwfansau eisoes wedi stopio.