Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Eich cartref, eich asedau a ffioedd eich cartref gofal

Nid oes yn rhaid i rywun werthu ei gartref i dalu am ffioedd cartrefi gofal bob amser. Yn y fan hon, cewch wybod beth yw’r dewisiadau eraill. Cewch hefyd wybod sut mae’r cyngor lleol yn asesu faint ddylech chi ei gyfrannu at ffioedd eich cartref gofal.

Sut yr asesir eich cyfraniad at ffioedd cartref gofal

Os ydych chi’n byw yn Lloegr a bod gennych dros £23,000 mewn cyfalaf, bydd eich cyngor lleol yn asesu eich bod yn gallu talu ffioedd eich cartref gofal yn llawn. Gallai’r cyfalaf hwn fod yn gynilion, yn fuddsoddiadau neu’n eiddo, a allai gynnwys gwerth eich cartref. Yng Nghymru, £22,000 yw’r ffigur.

Dilynwch y ddolen isod i ganfod sut mae’r cyngor lleol yn asesu a ddylech chi dalu ffioedd eich cartref gofal yn llawn ai peidio.

Asesu ffioedd cartrefi gofal ar gyfer perchnogion tai

Os byddwch yn mynd i gartref gofal yn barhaol, mae'n bosib y bydd eich cyngor lleol yn cyfrif eich cartref fel cyfalaf ar ôl i chi fod yno am 12 wythnos. Ond ni fydd eich cartref yn cael ei gyfrif fel cyfalaf os oes un o'r canlynol yn dal i fyw yno:

  • eich gŵr, eich gwraig, eich partner sifil neu rywun yr ydych yn byw gyda nhw fel partner
  • perthynas agos sy'n 60 oed neu drosodd, neu gydag analluogrwydd
  • un o’ch plant (gan gynnwys plant mabwysiedig) sy’n iau na 18 oed
  • eich cyn ŵr, cyn wraig, cyn bartner sifil neu gyn bartner os ydynt yn rhiant sengl

Mae’n bosib y bydd eich cyngor yn dewis peidio â chyfrif eich cartref fel cyfalaf os yw'ch gofalwr yn byw yno.

Eich cartref a chyfnodau dros dro mewn cartref gofal

Os byddwch yn mynd i gartref gofal dros dro, ni chewch asesiad ariannol am yr wyth wythnos gyntaf y byddwch yno. Bydd y cyngor lleol yn dweud pa swm, yn eu tyb hwy, sy’n deg i chi ei dalu am y cyfnod hwn.

Os byddwch yn aros am gyfnod hwy nag wyth wythnos, bydd y cyngor lleol yn asesu faint ddylech chi ei dalu o wythnos naw ymlaen. Ni fydd eich cartref yn cael ei gyfrif fel cyfalaf gan mai dros dro yr ydych yn aros yn y cartref gofal.

Cewch wybodaeth am dalu am aros mewn cartref gofal dros dro drwy ddilyn y ddolen isod.

Cadw'ch cartref a'ch asedau

Efallai y byddwch am osgoi gwerthu eich cartref i dalu ffioedd eich cartref gofal fel bod modd i chi symud yn ôl yno pan fyddwch yn gwella.

Gwneud ‘cytundeb taliadau gohiriedig’ gyda’ch cyngor lleol

Efallai y bydd eich cyngor lleol yn gwneud cytundeb taliadau gohiriedig gyda chi:

  • i geisio osgoi gwerthu eich cartref i dalu ffioedd eich cartref gofal yn ystod eich oes
  • os oes yn rhaid i chi dalu ffioedd eich cartref gofal yn llawn gan fod eich cartref yn cael ei gyfrif fel cyfalaf
  • os nad oes gennych ddigon o incwm neu gyfalaf arall i dalu'r ffioedd

Mae’r cytundeb yn golygu bod y cyngor lleol yn cyfrifo faint ddylech chi ei gyfrannu at ffioedd eich cartref gofal ar y sail nad yw’ch cartref yn cael ei gyfrif fel cyfalaf.

Mae’r cyngor yn cadw cofnod o’r gwahaniaeth rhwng y swm hwn a'r swm y byddai'n rhaid i chi ei dalu pe byddai'ch cartref yn cyfrif fel cyfalaf. Bydd y swm hwn yn dal yn ddyledus gennych, ond ni fydd yn cael ei gasglu tan ddyddiad o'ch dewis chi, neu pan fyddwch yn marw. Bydd y cyngor yn casglu’r hyn sy’n ddyledus gennych o’r swm a geir am werthu eich cartref neu gan bwy bynnag sy’n etifeddu eich eiddo.

Sefydlu ymddiriedolaeth deulu

Mae sefydlu ymddiriedolaeth deulu yn un ffordd o drosglwyddo perchnogaeth eich cartref neu asedau eraill i rywun arall a chithau'n dal yn fyw. Dylech gael cyngor gan dwrnai am hyn gan fod y gyfraith sy'n gysylltiedig ag ymddiriedolaethau'n gymhleth.

Rhoi arian neu eiddo i bobl eraill

Efallai y byddwch yn dewis rhoi arian neu asedau i berthnasau. Does dim terfyn ar werth y rhoddion hyn, ond efallai y bydd yn rhaid i’ch perthnasau dalu treth ar unrhyw log neu incwm a gânt.

Os byddwch yn rhoi arian neu asedau i rywun yn y saith mlynedd cyn eich marwolaeth, mae'n bosib y bydd y Dreth Etifeddu’n ddyledus ar eich rhodd.

Ceisio osgoi talu ffioedd cartrefi gofal

Weithiau, bydd pobl yn mynd ati o fwriad i drosglwyddo perchnogaeth eu hasedau i rywun arall er mwyn talu llai o ffioedd cartref gofal. Os yw’r cyngor lleol yn credu bod hyn wedi digwydd efallai y byddan nhw’n defnyddio dull gwahanol i’r arfer o’ch asesu;

  • os trosglwyddwyd asedau yn y chwe mis cyn i chi fynd i gartref gofal, gall y cyngor adennill cost eich arhosiad gan bwy bynnag a gafodd y rhodd
  • os digwyddodd y trosglwyddiad fwy na chwe mis cyn i chi symud i gartref gofal, gallant eich asesu fel pe baech chi’n dal yn berchen ar yr asedau

Nid oes terfyn amser o ran pa mor bell yn ôl y caiff y cyngor fynd i ganfod a ydych wedi rhoi asedau i ffwrdd er mwyn osgoi ffioedd gofalu.

Rhentu'ch cartref i rywun arall

Yn hytrach na gwerthu'ch cartref, efallai y gallwch ei rentu a defnyddio'r arian i dalu ffioedd y cartref gofal.

Gwneud ewyllys

Cyn i chi symud i gartref gofal yn barhaol, dylech wneud ewyllys.

Allweddumynediad llywodraeth y DU