Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd rhai pobl yn gorfod cyfrannu at ffioedd eu cartref gofal. Bydd eich cyngor lleol yn cyfrifo faint y bydd angen i chi ei dalu drwy gynnal asesiad ariannol.
Cyn i chi symud i gartref gofal, bydd eich cyngor lleol yn cynnal asesiad ariannol. Bydd y cyngor yn ystyried eich incwm a'ch cyfalaf ac yn penderfynu faint y bydd angen i chi ei dalu tuag at ffioedd eich cartref gofal.
Dyma enghreifftiau o incwm:
Gall eich cyfalaf gynnwys:
Cyn eich asesiad ariannol, sicrhewch eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Mae hyn yn bwysig oherwydd cyfrifir eich cyfraniad at ffioedd eich cartref gofal fel petaech yn derbyn yr holl fudd-daliadau perthnasol.
Ni waeth faint y byddwch yn gorfod ei dalu tuag at ffioedd eich cartref gofal, rhaid i chi gael £21.15 yr wythnos (£21.38 os ydych chi’n byw yng Nghymru) i'w wario fel y dymunwch. Os ydych yn cael elfen symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl, byddwch yn dal i gael hyn. Fe gewch hefyd hyd at £5.25 yr wythnos o unrhyw gredyd cynilion os ydych dros 65.
Os oes gennych dros £22,250 o gyfalaf (£22,000 os ydych chi’n byw yng Nghymru), bydd yr asesiad yn tybio y byddwch yn gallu talu cost lawn eich gofal.
Ystyrir bod eich cyfalaf yn cynhyrchu incwm yn ôl y tabl canlynol:
Maint y cyfalaf sydd gennych | Sut y defnyddir eich cyfalaf i gyfrifo eich cyfraniad at ffioedd eich cartref gofal |
---|---|
Dros £22,250 | Bydd yr asesiad yn tybio y byddwch yn gallu talu cost eich gofal yn llawn |
Rhwng £13,500 a £22,250 |
Cyfrifir bod y cyfalaf rhwng y symiau hyn yn darparu incwm i chi o £1 am bob £250 o'ch cynilion |
£13,500 neu lai |
Anwybyddir eich cyfalaf wrth gyfrifo faint mae'n rhaid i chi ei gyfrannu at gost eich gofal |
Os ydych yn berchen ar eich cartref, fel arfer bydd yn cael ei ystyried yn gyfalaf 12 wythnos ar ôl i chi symud yn barhaol i gartref gofal. Ni fydd gwerth eich cartref yn cael ei ystyried yn gyfalaf os oes perthnasau agos penodol yn dal yn byw ynddo.
Fel arfer byddwch yn cael asesiad o anghenion cyn cael asesiad ariannol. Gall eich cyngor lleol ddweud wrthych faint y maent yn ei dalu fel arfer am gartref gofal a fydd yn diwallu'ch anghenion.
Gallant wedyn drefnu cartref gofal i chi neu gallwch chi ddewis un ar eich cyfer sy'n codi pris tebyg i'r un y maent hwy fel arfer yn ei dalu. Mae hyn yn bwysig os ydych yn talu eich ffioedd eich hun i ddechrau ond yn meddwl y bydd yn rhaid i chi ofyn i'ch cyngor am help yn ddiweddarach.
Gallwch ddewis cartref gofal sy'n costio mwy na'r swm y mae eich cyngor lleol yn ei dalu fel arfer ar gyfer person gyda'ch anghenion asesedig chi, ond efallai y bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i ffordd o dalu'r gwahaniaeth.
Os gall y cyngor awgrymu lle sy'n diwallu'ch anghenion a'ch bod chithau'n dymuno symud i gartref gofal drutach, gall y cyngor wedyn ofyn i drydydd parti (perthynas neu ffrind fel arfer) dalu'r gwahaniaeth. Gelwir hyn yn 'ffi atodol'. Ni fyddwch yn gallu talu hwn eich hun gan eich bod wedi'ch asesu'n ariannol i dalu'r hyn y gallwch ei fforddio.
Os na all eich cyngor lleol awgrymu lle sy'n diwallu'ch anghenion yn eich ardal leol, dylent fod yn barod felly i dalu mwy na'r swm arferol.
Os ydych chi'n byw mewn cartref gofal sy'n darparu gofal nyrsio, bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel arfer yn cyfrannu £101 yr wythnos at y ffioedd i dalu am yr elfen nyrsio. Telir cost gofal rhai pobl yn llawn gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol; gelwir hyn yn 'ofal iechyd parhaus'.
Mae'r bobl sy'n gymwys i dderbyn y math hwn o ofal fel arfer angen triniaeth feddygol arbenigol barhaus a rheolaidd.
Gall staff yr ysbyty, neu eich meddyg lleol (GP), helpu i drefnu asesiad os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys. Os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad a wnaed ar ôl eich asesiad, gallwch apelio. Os yw'r asesiad yn nodi bod angen rhywfaint o ofal nyrsio rheolaidd arnoch, gallech dderbyn cyfraniad tuag at ffioedd eich cartref gofal gan y GIG.
Bwriad y taliadau uniongyrchol gan eich cyngor lleol yw cefnogi oedolion i fyw'n annibynnol ac nid i ariannu gofal preswyl parhaol. Fodd bynnag, efallai y gallwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer cyfnodau byr achlysurol mewn llety preswyl, os yw'ch cyngor lleol yn cytuno bod angen hynny.
Mewn rhai amgylchiadau, gall pobl sy'n byw mewn gofal preswyl dderbyn taliadau uniongyrchol dros dro. Er enghraifft, gallai eu galluogi i roi cynnig ar drefniadau byw'n annibynnol cyn penderfynu gadael gofal preswyl.