Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall eich cyngor lleol roi gwybod i chi am ei wasanaethau ac am gartrefi gofal a thai â chefnogaeth neu dai gwarchod yn eich ardal.
Dylai swyddfa dai eich cyngor lleol hefyd fod â rhestr o eiddo cymdeithasau tai yn eich ardal, a gallant roi cyngor ynghylch pa rai fyddai'n addas.
Fel arfer, mae tai gwarchod wedi cael eu hadeiladu ar gyfer pobl hwn a/neu bobl anabl. Gan amlaf, mae'r llety'n cynnwys fflatiau neu fyngalos ollgynhwysol. Yn aml mae ganddynt system alw a system larwm a warden sy'n ymweld yn rheolaidd, neu sy'n byw ar y safle.
Mae cymdeithasau tai'n cynnig tai cymdeithasol 'di-elw' ac fel arfer mae ganddynt amrywiaeth o dai. Mae rhai wedi'u cynllunio'n arbennig ar gyfer pobl ag anableddau corfforol. Efallai y gall cymdeithasau tai hefyd addasu'u heiddo i ddiwallu anghenion tenantiaid, gan gynnwys yr angen am dai gwarchod.
Dylai eich cyngor lleol fod yn berchen ar stoc o dai wedi'u haddasu i ddiwallu anghenion penodol. Lle bynnag y bo modd, mae'r cyngor yn ceisio gosod y tai hyn i bobl sydd eu hangen ar ôl iddynt gael eu hasesu gan therapydd galwedigaethol.
Efallai y gall eich cyngor lleol hefyd addasu eiddo'r cyngor i ddiwallu anghenion tenantiaid a'u teuluoedd.
Os nad yw eich cartref yn addas i'ch anghenion bellach, efallai y byddwch yn penderfynu symud i gartref mwy addas. Os ydych yn rhentu'n breifat neu'n byw yn un o dai'r cyngor, efallai y bydd swyddog tai eich cyngor lleol yn gallu cynnig eich ailgartrefu. Mae gwybodaeth am addasu eich cartref, a mwy, yn yr adran 'cartrefi a thai'.