Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd y rhan fwyaf o ofalwyr yn cael llawer o fwynhad o ddilyn cyrsiau addysg a dysgu a'r rhyddid a gânt wrth gael amser i'w hunain. Mae cymorth ar gael - o ddod o hyd i'r cwrs iawn i nawdd a sut i drefnu gofal amgen.
Mae rhai colegau yn cynnal cyrsiau yn arbennig ar gyfer gofalwyr. Yn aml iawn, bydd amgylcheddau'r cyrsiau hyn yn anffurfiol ac yn gyfeillgar lle byddwch yn cael eich annog i astudio rhaglen arbennig a fydd yn gweddu i'ch arddulliau dysgu chi, eich dyletswyddau gofalu a'ch amcanion personol.
Gofynnwch i’r adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol a oes unrhyw nawdd i'w gael i ddysgu drwy gyfrwng Grant Gofalwyr yr Awdurdod Lleol.
Bydd rhai colegau yn rhoi gostyngiadau i ofalwyr ar fudd-daliadau a bydd rhai yn darparu nawdd ar gyfer costau teithio a ffioedd cwrs.
Cysylltwch â’r coleg sy’n cynnig cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo am fwy o wybodaeth.
Mae'r Coleg Estyn Cenedlaethol yn darparu cyrsiau astudio gartref. Mae'n bosib i chi gael ffioedd gostyngol ar gwrs gan y Coleg Estyn Cenedlaethol os ydych:
Mae'n bosib y byddwch yn gymwys ar gyfer cynllun Mynediad Cyfartal i Ddysgu Agored (EATOL) y Coleg Estyn Cenedlaethol. Golyga Mynediad Cyfartal i Ddysgu Agored y gallech dalu £50 ac unrhyw ffioedd arholiadau. Byddwch hefyd yn cael cymorth gan fentor personol trwy gydol y cwrs.
Nifer gyfyngedig o lefydd sydd ar gael.
Mae'n bosib y gallwch wneud cais am ysgoloriaeth Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr.
Mae arian ar gael ar gyfer gofalwyr sy'n gofalu ar hyn o bryd neu sydd wedi rhoi'r gorau i ofalu yn ystod y chwe mis diwethaf.
Gellir ei ddefnyddio ar gyfer ffioedd cwrs, llyfrau a chyfarpar. Nid yw hyn yn cynnwys cyfrifiaduron na gofal seibiant.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â chanolfan leol Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr.
Rhaglen 'Dysgu ar gyfer Byw' City & Guilds
Cyfuniad o raglen ddysgu ar-lein i ofalwyr a chymhwyster yw Dysgu ar gyfer Byw.
Mae wedi cael ei datblygu gan City & Guilds, y prif ddarparwr o gymwysterau galwedigaethol yn y DU.
Efallai bydd angen i chi ddod o hyd i rywun i ymgymryd â'ch dyletswyddau gofalu wrth i chithau astudio.
Wrth wneud asesiad gofalwr, dylai'r gwasanaethau cymdeithasol ystyried a oes arnoch eisiau astudio a sut y byddwch am i rywun arall gymryd eich rôl fel gofalwr tra'ch bod yn dysgu.
Efallai bydd gan eich cyngor lleol gynlluniau ar gael i'ch cynorthwyo i gymryd seibiant dros dro o ofalu tra'ch bod yn astudio.
Os nad ydych wedi cael yr asesiad, cysylltwch adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol er mwyn trefnu un.
Sefydliad sy'n darparu gofal seibiant er mwyn i chi gael amser i'ch hun yw Crossroads.
Mae llawer o gynlluniau ar gael yng Nghymru a Lloegr.