Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Grant gan y cyngor lleol yw'r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl i gynorthwyo gyda chost gwneud addasiadau i'ch cartref er mwyn i chi allu parhau i fyw yno. Telir y grant pan fo'r cyngor o'r farn fod y newidiadau'n angenrheidiol er mwyn diwallu'ch anghenion - ac yn fodlon fod y gwaith yn rhesymol ac yn ymarferol.
Gallwch hawlio os ydych chi, neu rywun sy'n byw yn eich eiddo, yn anabl a hefyd:
Gall landlord wneud cais ar ran tenant anabl.
Gellir defnyddio grant i wneud addasiadau hanfodol er mwyn i chi allu symud yn fwy hwylus o amgylch eich cartref ac i mewn ac allan o'ch cartref a/neu ddarparu cyfleusterau hanfodol yn y cartref.
Os ydych chi'n anabl, mae'r mathau derbyniol o waith yn cynnwys:
Bydd therapydd galwedigaethol yn edrych ar eich amgylchiadau a gall argymell beth y mae angen ei wneud.
Gall adran dai neu adran iechyd yr amgylchedd yn eich cyngor lleol roi gwybodaeth fanwl i chi wrth i chi wneud cais am Grant Cyfleusterau i bobl Anabl.
Mae'r swm a delir fel arfer yn seiliedig ar asesiad ariannol (a 'phrawf modd') o'ch incwm wythnosol cyfartalog mewn perthynas â'ch alldaliadau - neu'r 'anghenion a aseswyd'. Fodd bynnag, nid oes prawf modd ar gyfer teuluoedd plant anabl sydd dan 19 oed.
Bydd profion modd yn ystyried cynilon sy’n uwch na’r terfyn penodol, ond caiff rhai budd-daliadau - gan gynnwys Lwfans Byw i'r Anabl a/neu Gymhorthdal Incwm - eu hanwybyddu yn gyffredinol.
Os oes gennych bartner, asesir eich incwm cyfunol ar y cyd. Caiff cyfalaf yn ei gynnwys yn y prawf modd. Anwybyddir y £6,000 cyntaf o gynilion.
Defnyddir amrywiaeth o bremiymau a lwfansau ar gyfer pob alldaliadau hanfodol, er enghraifft, rhent/morgais a gwariant personol. Ni ystyrir alldaliadau gwirioneddol.
Yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad hwn, gall swm y cymorth ariannol a gynigir amrywio rhwng 0 a 100 y cant o'r gost.
Sut y cyfrifir y dyfarniad
Mae'r dyfarniad yn gweithio fel hyn:
£25,000 yw uchafswm y Grant Cyfleusterau i bobl Anabl y mae'n rhaid i gyngor ei dalu ar gyfer cais yn Lloegr - llai unrhyw gyfraniad asesedig oddi wrthych chi.
Os yw cost y gwaith cymwys yn fwy, gall y cyngor ddefnyddio pwerau dewisol i godi'r grant.
Ni fydd Grant Cyfleusterau i bobl Anabl yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu cael.