Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaeth Profedigaeth

Mae gan yr Adran Gwaith a Phensiynau Wasanaeth Profedigaeth dros y ffôn sy'n gallu cymryd manylion am farwolaeth rhywun. Bydd y llinell gymorth yn gweld a all y gŵr, gwraig neu bartner sifil sy’n goroesi gael help gyda chostau angladd neu fudd-daliadau eraill. Dewch i gael gwybod mwy, gan gynnwys sut i gysylltu â'r Gwasanaeth Profedigaeth.

Beth yw’r Gwasanaeth Profedigaeth?

Gwasanaeth ffôn yw’r Gwasanaeth Profedigaeth sy’n eich galluogi i:

  • dweud wrth adrannau gwahanol o’r llywodraeth bod rhywun wedi marw drwy wneud un alwad yn unig
  • dod â hawliad budd-dal rhywun sydd wedi marw i ben
  • gweld a ydych yn gymwys i gael budd-daliadau oherwydd bod eich gŵr, gwraig neu bartner sifil wedi marw
  • gwneud cais am fudd-daliadau profedigaeth neu gais am help gyda chostau angladd, sef Taliad Angladd

Gwirio eich budd-daliadau

Mae'r Gwasanaeth Profedigaeth yn gweld pa fudd-daliadau y gallai fod gennych hawl i’w cael. Os yn briodol, byddant yn cymryd eich cais am fudd-daliadau profedigaeth neu Daliad Angladd dros y ffôn. Mae budd-daliadau profedigaeth yn cynnwys y budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Profedigaeth
  • Taliad Profedigaeth
  • Lwfans Rhiant Gweddw

Nid oes raid i chi anfon copi o ffurflen BD8 (tystysgrif cofrestru marwolaeth) i’r Adran Gwaith a Phensiynau. Dylech ei chadw’n ddiogel rhag ofn y bydd ei hangen arnoch yn y dyfodol.

Rhoi gwybod am farwolaeth

Mae rhai awdurdodau lleol yn cynnal gwasanaeth sy'n galluogi i bobl ddweud wrth y llywodraeth dim ond unwaith am farwolaeth rhywun. Rhennir y wybodaeth hon wedyn gydag adrannau a gwasanaethau eraill y mae angen iddynt gael gwybod.

Pan fyddwch yn cofrestru marwolaeth, gofynnwch i'r cofrestrydd os yw ar gael yn eich ardal.

Os ydych yn defnyddio'r gwasanaeth hwn lleol, ni fydd angen i chi ffonio'r Gwasanaeth Profedigaeth yn yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Cysylltu â’r Gwasanaeth Profedigaeth

Caiff llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth ei rhedeg gan y Gwasanaeth Pensiwn ond mae’n ymdrin â galwadau am bobl o bob oedran sydd wedi marw.

Dewiswch opsiwn dau 'Os ydych yn ein ffonio i roi gwybod i ni bod rhywun wedi marw, neu i weld pa help y gallai fod ar gael yn dilyn profedigaeth'.

Ffôn (Welsh): 0845 606 0275
Ffôn (Saesneg): 0845 606 0265

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.00 am i 8.00 pm.

Os oes gennych nam ar eich lleferydd neu ar eich clyw, mae gwasanaeth ffôn testun ar gael.

Ffôn testun (Welsh): 0845 606 0295
Ffôn testun (Saesneg): 0845 606 0285

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.00 am i 8.00 pm.

Allweddumynediad llywodraeth y DU