Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Lwfans Gwarcheidwad

Taliad di-dreth ar gyfer pobl sy'n magu plant y mae eu rhieni wedi marw yw’r Lwfans Gwarcheidwad. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Gwarcheidwad pan mai dim ond un rhiant sydd wedi marw.

Ydych chi'n gymwys?

I gael Lwfans Gwarcheidwad mae’n rhaid i bob un o’r canlynol fod yn berthnasol:

  • eich bod yn magu plentyn neu blant rhywun arall
  • bod un - neu dau - riant y plentyn (neu blant) wedi marw
  • eich bod yn gymwys i gael Budd-dal Plant ar gyfer y plentyn neu'r plant rydych yn eu magu

Ar ben y rheolau hyn, mae’n rhaid i un o’r canlynol fod yn berthnasol i’r rhieni:

  • bod un ohonynt wedi cael ei eni yn y DU
  • ar y dyddiad y bu’r rhiant (neu’r rhieni) farw, roedd un ohonynt wedi bod yn y DU am o leiaf 52 wythnos yn ystod unrhyw gyfnod o ddwy flynedd ers iddo fod yn 16 mlwydd oed

Os byddwch yn mabwysiadu plentyn gallwch gael Lwfans Gwarcheidwad o hyd ar yr amod eich bod wedi bod yn ei gael cyn i chi fabwysiadu'r plentyn.

Os oes un rhiant wedi marw

Weithiau gallwch gael Lwfans Gwarcheidwad os mai dim ond un rhiant sydd wedi marw, er enghraifft:

  • os nad ydych yn gwybod ymhle mae'r rhiant arall
  • os oedd y rhieni wedi ysgaru neu os oedd eu partneriaeth sifil wedi ei diddymu – ar yr amod nad oes gan y rhiant arall gystodaeth o’r plentyn ac nad yw’n ei gynnal (ac nad oes gorchymyn llys ar waith sy’n dweud y dylai hyn fod yn digwydd)
  • os nad oedd y rhieni wedi priodi a bod y fam wedi marw ond nid yw'n hysbys pwy yw'r tad
  • os yw’r rhiant sy'n dal yn fyw yn y carchar, gydag isafswm o ddwy flynedd eto i’w bwrw o'r dyddiad y bu farw'r rhiant arall – neu os yw wedi'i ddal mewn ysbyty yn unol â gorchymyn llys

Faint o Lwfans Gwarcheidwad fyddwch chi'n ei gael?

Mae'r Lwfans Gwarcheidwad yn £15.55 yr wythnos am bob plentyn yn ychwanegol i'r hyn a gewch fel Budd-dal Plant.

Sut caiff y Lwfans Gwarcheidwad ei dalu

Caiff y Lwfans Gwarcheidwad ei dalu gyda'ch taliadau Budd-dal Plant. Fel arfer caiff ei dalu bob pedair wythnos yn uniongyrchol i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.

A fydd y Lwfans Gwarcheidwad yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill?

Nid fydd y Lwfans Gwarcheidwad yn cael ei ystyried fel incwm os byddwch yn hawlio credydau treth, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm. Caiff ei dalu ar ben y budd-daliadau hyn.

Hawlio Lwfans Gwarcheidwad

Fel arfer, gellir ôl-ddyddio eich Lwfans Gwarcheidwad am hyd at dri mis o’r dyddiad y caiff yr Uned Lwfans Gwarcheidwad eich hawliad. Ond weithiau gallant ei ôl-ddyddio at yr adeg pan wnaethoch ddechrau bod yn gymwys i gael Budd-dal Plant.

Pryd i wneud hawliad

Byddai'n well gwneud eich cais ar unwaith er mwyn osgoi colli arian. Dylech hawlio Lwfans Gwarcheidwad cyn gynted ag y bydd y plentyn dan sylw yn dod i fyw gyda chi.

Ceisiwch hawlio'r Lwfans Gwarcheidwad a'r Budd-dal Plant yr un pryd fel y gall yr Uned Lwfans Gwarcheidwad ddelio â'r ddau hawliad gyda'i gilydd. Os na allwch wneud hawliad am Lwfans Gwarcheidwad ar unwaith, sicrhewch eich bod yn gwneud hawliad am Fudd-dal Plant.

Y gwaith papur sydd eu hangen

Pan fyddwch yn gwneud hawliad, bydd angen i chi ddarparu’r canlynol:

  • tystysgrif geni wreiddiol y plentyn
  • tystysgrif marwolaeth wreiddiol y rhiant neu'r rhieni

Fel arfer, ni fydd yr Uned Lwfans Gwarcheidwad yn gallu derbyn llungopïau.

Lle i gael ffurflen hawlio

Gallwch chi wneud y canlynol:

  • argraffu ffurflen hawlio Lwfans Gwarcheidwad wag a'i llenwi â llaw
  • gofyn am becyn hawlio drwy gysylltu â'r Uned Lwfans Gwarcheidwad

Cyn i chi lenwi’r ffurflen hawlio, darllenwch y nodiadau ategol.

Ar ôl i chi lenwi eich ffurflen, anfonwch hi yn ôl at yr Uned Lwfans Gwarcheidwad yn y cyfeiriad a ddangosir isod.

Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt

Mae llawer o newidiadau y gallent effeithio ar eich hawl i gael Lwfans Gwarcheidwad, a Budd-dal Plant, neu oedi’ch taliadau

Er enghraifft, mae’n rhaid i chi dweud wrth yr Uned Lwfans Gwarcheidwad:

  • os bydd y plentyn yr ydych yn cael Lwfans Gwarcheidwad ar ei gyfer yn mynd i fyw at rywun arall
  • os byddwch yn mynd dramor
  • os bydd eich plentyn yn gadael addysg llawn amser neu hyfforddiant cymeradwy
  • os daw lleoliad y rhiant arall yn hysbys
  • os ydych yn newid y cyfrif y telir eich Lwfans Gwarcheidwad a Budd-dal Plant iddo – fel arall efallai y bydd eich taliadau yn mynd i'r lle anghywir
  • os ydych yn newid eich cyfeiriad – gall eich taliadau ddod i ben os na fydd yr Uned Lwfans Gwarcheidwad gysylltu â chi

Os ydych yn cael Lwfans Gwarcheidwad oherwydd bod un rhiant wedi marw a bod y rhiant arall yn y carchar neu yn yr ysbyty, mae'n rhaid i chi roi gwybod i’r Uned Lwfans Gwarcheidwad os bydd y rhiant hwnnw:

  • yn gadael y carchar neu’r ysbyty
  • wedi cael dedfryd lai
  • yn dechrau cyfrannu tuag at gostau cynnal ei blentyn

Am restr fwy cyflawn o newidiadau a fyddai'n effeithio ar eich Lwfans Gwarcheidwad a'ch Budd-dal Plant, dilynwch y ddolen isod.

Sut i roi gwybod am y newidiadau

Gallwch roi gwybod am y newidiadau drwy:

  • gysylltu â’r Uned Lwfans Gwarcheidwad – manylion i’w cael ar ddiwedd yr erthygl hon
  • ddefnyddio ffurflenni ar-lein ‘newid mewn amgylchiadau’ Budd-dal Plant

Os nad ydych chi’n hapus gyda phenderfyniad ynghylch eich hawliad

Os bydd yr Uned Lwfans Gwarcheidwad wedi ystyried eich hawliad am Lwfans Gwarcheidwad neu’ch manylion, ac wedi dod i benderfyniad nad ydych yn cytuno ag ef, cysylltwch â’r Uned cyn pen mis ar ôl dyddiad y penderfyniad. Gallwch ofyn iddynt wneud y canlynol:

  • egluro sut y daethant i'r penderfyniad
  • ystyried eich hawliad eto i sicrhau eu bod wedi gwneud y penderfyniad cywir

Mae gennych yr hawl i gael eglurhad llawn am benderfyniad ynghylch Lwfans Gwarcheidwad.

Os bydd yr Uned Lwfans Gwarcheidwad yn ail ystyried eich hawliad, byddant un ai’n newid eu penderfyniad os oedd y penderfyniad yn anghywir, neu’n cadw at y penderfyniad gwreiddiol.

Os ydych chi’n anhapus o hyd, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad. Os byddwch yn bwrw ymlaen â'r apêl, bydd yr Uned yn ei throsglwyddo at y Gwasanaeth Apeliadau, er mwyn iddi gael ei hystyried gan y corff annibynnol hwn.

Mae'r broses apeliadau ar gyfer y Lwfans Gwarcheidwad yr un fath â'r broses ar gyfer Budd-dal Plant.

Cysylltu â'r Uned Lwfans Gwarcheidwad

Gallwch gysylltu â'r Uned Lwfans Gwarcheidwad mewn sawl ffordd. Gallwch:

  • anfon eich ymholiad ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod
  • ffonio'r Llinell gymorth Lwfans Gwarcheidwad

Neu, gallwch ysgrifennu at:

Yr Uned Lwfans Gwarcheidwad / The Guardian’s Allowance Unit

Y Swyddfa Budd-dal Plant / Child Benefit Office
PO Box 1
Newcastle upon Tyne
NE88 1AA

Cysylltiadau defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU