Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Apelio yn erbyn penderfyniad ynghylch Budd-dal Plant

Os ydych yn anfodlon â phenderfyniad yn ymwneud â'ch Budd-dal Plant, mae'n bosib y gallwch apelio. Fel rheol, bydd yn rhaid i chi apelio o fewn mis ar ôl i chi gael gwybod beth yw penderfyniad y Swyddfa Budd-dal Plant.

Cyn i chi apelio

Os byddwch yn anfodlon ag unrhyw un o benderfyniadau'r Swyddfa Budd-dal Plant, yn aml gallwch ddatrys hyn heb orfod gwneud apêl ffurfiol. Gallwch wneud hyn drwy:

  • ofyn i’r Swyddfa Budd-dal Plant roi eglurhad o’r penderfyniad
  • ofyn iddynt ailedrych ar eu penderfyniad, os ydych yn dal yn anfodlon gyda’u heglurhad,

Os ydych wedi dilyn y camau hyn ac yn dal i anghytuno â phenderfyniad y Swyddfa Budd-dal Plant, fel arfer gallwch wneud cwyn ffurfiol. Mae’n rhaid i hyn fel arfer fod o fewn un mis o ddyddiad ei penderfyniad.

Sut ydych chi'n gwybod a allwch chi apelio?

Nid yw bob amser yn bosib apelio yn erbyn penderfyniad y Swyddfa Budd-dal Plant. Er enghraifft, ni allwch apelio yn erbyn ar ba ddiwrnod o’r wythnos y telir eich Budd-dal Plant.

Bydd y llythyr a gewch gan y Swyddfa Budd-dal Plant ynghylch eu penderfyniad yn dweud wrthych a yw’n bosib i chi apelio. Er enghraifft, gallai fod yn benderfyniad ynghylch:

  • y dyddiad y dechreuwyd rhoi budd-dal i chi
  • a yw'r Swyddfa Budd-dal Plant yn credu eich bod chi a'ch plentyn yn byw yn y DU fel rheol

Os ydych yn dymuno apelio ond eich bod yn ansicr a allwch wneud hynny ar ôl darllen y llythyr ynghylch y penderfyniad, cysylltwch â'r Swyddfa Budd-dal Plant. Gallwch wneud hyn drwy ffonio’r Llinell gymorth Budd-dal Plant.

Hyd yn oed os na allwch apelio, gallwch ddal ofyn i'r Swyddfa Budd-dal Plant roi eglurhad o'u penderfyniad.

Pwy all apelio

Fel arfer, y sawl sy'n cael y Budd-dal Plant fydd yn apelio. Gallwch ofyn i gynghorydd annibynnol wneud hynny ar eich rhan, cyn bellech â’ch bod wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig iddo weithredu ar eich rhan.

Os ydych wedi cael eich penodi i hawlio Budd-dal Plant ar ran rhywun arall, gallwch chi apelio ar eu rhan.

Terfyn amser ar gyfer apeliadau

Fel rheol, bydd yn rhaid i chi apelio o fewn mis ar ôl i chi gael gwybod beth yw penderfyniad y Swyddfa Budd-dal Plant. Byddant yn fodlon rhoi mwy o amser mewn achosion arbennig, ond bydd yn rhaid i chi ddweud wrthynt pam eich bod yn hwyr yn apelio.

Ni allant dderbyn apêl a gyflwynir 13 mis neu ragor ar ôl eu penderfyniad. Os nad ydynt yn gallu derbyn eich apêl hwyr, byddant yn pasio’ch cais at dribiwnlys annibynnol.

Sut mae apelio

Mae angen i chi gyflwyno'ch apêl yn ysgrifenedig a’i llofnodi.

Gallwch wneud hyn drwy un o’r ffyrdd canlynol:

  • anfon llythyr i'r Swyddfa Budd-dal Plant
  • llenwi Ffurflen Apelio CH24A a'i hanfon i'r Swyddfa Budd-dal Plant

Rhaid i chi ddweud yn eich apêl pam ydych chi’n credu iddynt wneud y penderfyniad anghywir.

Bydd angen i chi anfon eich llythyr neu'ch ffurflen CH24A wedi'i llenwi i'r cyfeiriad canlynol:

Swyddfa Budd-dal Plant/Child Benefit Office
PO Box 1
Newcastle upon Tyne
NE88 1AA

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi apelio

Cam 1

Os nad yw'r Swyddfa Budd-dal Plant wedi ei wneud yn barod, byddant yn sicrhau bod y penderfyniad yn gywir ac yn rhoi eglurhad i chi. Os ydych yn fodlon â'u heglurhad bydd angen i chi dynnu eich apêl yn ôl.

Cam 2

Os ydych yn anghytuno, neu nid ydych yn credu bod yr holl bwyntiau yn eich apêl wedi cael eu hateb, gall eich achos fynd i dribiwnlys annibynnol.

Caiff y tribiwnlys ei gynnal gan un o'r canlynol, gan ddibynnu ar ble rydych chi'n byw:

  • Cymru, Lloegr a'r Alban – y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd
  • Gogledd Iwerddon – y Gwasanaeth Apeliadau Gogledd Iwerddon

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn nodi eu hymateb i'ch apêl yn ysgrifenedig, gan egluro'r gyfraith a'r ffeithiau a ddefnyddiwyd i wneud eu penderfyniad. Byddant hefyd yn anfon copi o'u hymateb atoch chi neu at y sawl sy'n eich cynrychioli.

Os ydych am gael gwybod beth sy'n digwydd ar ôl i chi anfon eich apêl i'r tribiwnlys, gallwch gael mwy o wybodaeth ar y gwefannau perthnasol drwy ddilyn y dolenni isod.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Os ceir unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich taliadau, rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant yn ddi-oed. Peidiwch ag aros am wrandawiad yr apêl.

Tynnu eich apêl yn ôl

Efallai y byddwch yn penderfynu tynnu eich apêl yn ôl:

  • oherwydd eich bod yn fodlon ag eglurhad y Swyddfa Budd-dal Plant o'r penderfyniad
  • oherwydd eich bod yn cytuno â phenderfyniad newydd
  • oherwydd bod eich amgylchiadau wedi newid a bod hyn yn effeithio ar eich Budd-dal Plant

Gallwch dynnu’ch apêl yn ôl ar unrhyw adeg drwy:

  • lenwi ffurflen CH29 a'i chyflwyno
  • ysgrifennu i’r Swyddfa Budd-dal Plant
  • cysylltu â'r Gwasanaeth Apeliadau neu'r Gwasanaeth Tribiwnlysoedd sy'n delio â'ch apêl, os yw'ch apêl wedi cael ei hanfon atynt

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU