Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut mae cwyno wrth y Swyddfa Budd-dal Plant

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich ymwneud â'r Swyddfa Budd-dal Plant yn syml, ac ni ddylai achosi dim anawsterau nac anghyfleustra i chi. Fodd bynnag, gellir cael cyfnodau o oedi a chamgymeriadau, neu efallai y byddwch yn anhapus â'r ffordd y cawsoch eich delio ag. Beth bynnag y bo'r broblem, mae gennych hawl i gwyno am wasanaeth gwael.

Pryd i gwyno

Os ydych wedi cael profiad gwael, rhowch wybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted ag y bo modd. Efallai y byddwch am gwyno am y pethau hyn:

  • oedi afresymol
  • camgymeriad y gellid bod wedi’i osgoi yn eich barn chi
  • y ffordd y cawsoch eich trin

Mae'r Swyddfa Budd-dal Plant yn awyddus i ddysgu o gamgymeriadau ac i gywiro pethau cyn gynted â phosib.

Sut mae cwyno – y camau cyntaf

Gallwch gwyno:

  • ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod – rhowch y gair ‘Cwyn/Complaint’ fel y peth cyntaf yn y blwch sy’n gofyn am eich cwestiwn
  • drwy ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant
  • drwy ysgrifennu at y Swyddfa Budd-dal Plant/Child Benefit Office – rhowch y gair ‘Cwyn/Complaint’ ar frig y llythyr

Pan fyddwch yn cwyno, gwnewch yn siwr eich bod yn darparu, neu’n fodlon rhoi:

  • eich enw a'ch cyfeiriad llawn
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • y rhif cyfeirnod diwethaf a ddefnyddiodd y Swyddfa Budd-dal Plant wrth gysylltu â chi
  • rhif ffôn cyswllt a'r amser gorau i gysylltu â chi os yw'n bosib, neu gyfeiriad e-bost

Dywedwch bopeth y gallwch am eich cwyn wrth y Swyddfa Budd-dal Plant, gan gynnwys:

  • beth aeth o'i le
  • pryd y digwyddodd
  • gyda phwy y gwnaethoch ddelio
  • sut yr hoffech ddatrys y gŵyn

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn ystyried eich pryderon ac yn cysylltu â chi - fel arfer o fewn 15 diwrnod gwaith. Maent yn ceisio datrys y rhan fwyaf o gwynion ar y cam hwn.

Os ydych am fynd â’ch cwyn ymhellach

Os ydych yn anhapus ag ymateb y Swyddfa Budd-dal Plant, gallwch ofyn i Dîm Cwynion y Cyfarwyddwr ailedrych ar eich cwyn. Gallwch wneud hyn drwy:

  • anfon y gŵyn ar-lein at y Tîm Cwynion dan y pennawd 'Cwyn at sylw'r Cyfarwyddwr/Complaint for the Director' yn y blwch sy’n gofyn am eich cwestiwn
  • drwy ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant
  • ysgrifen at y Cyfarwyddwr yn y Swyddfa Budd-dal Plant - rhowch ‘Cwyn/Complaint’ ar frig y llythyr

Bydd angen i chi ddarparu'r canlynol:

  • eich enw a'ch cyfeiriad llawn
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • y rhif cyfeirnod diwethaf a ddefnyddiodd y Swyddfa Budd-dal Plant wrth gysylltu â chi
  • rhif ffôn cyswllt a'r amser gorau i gysylltu â chi os yw'n bosib, neu gyfeiriad e-bost
  • y rhesymau pam nad ydych yn hapus â'r ymateb rydych wedi'i gael hyd yn hyn

Os ydych dal yn anhapus

Os ydych yn anhapus â phenderfyniad y Cyfarwyddwr, gallwch ofyn i'r Dyfarnwr ymchwilio i'ch cwyn. Mae'r Dyfarnwr yn ganolwr teg a diduedd ac mae ei argymhellion yn annibynnol.

Bydd y Dyfarnwr yn edrych ar eich cwyn dim ond ar ôl i chi’n gyntaf geisio ei datrys gyda’r Swyddfa Budd-dal Plant.

Gallwch hefyd ofyn i unrhyw AS gyfeirio’ch achos at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.

Bydd yr Ombwdsmon fel arfer yn disgwyl bod eich cwyn wedi cael ei hystyried gan y Swyddfa Budd-dal Plant a’r Dyfarnwr, cyn iddynt hwy ystyried eich achos.

Gallwch hefyd ofyn i'ch AS godi'ch achos gyda'r Swyddfa Budd-dal Plant neu Weinidogion y Trysorlys.

Beth i’w ddisgwyl gan y Swyddfa Budd-dal Plant pan fyddwch chi'n cwyno

Mae'r Swyddfa Budd-dal Plant yn awyddus i'ch helpu os ydych am wneud cwyn, a byddant yn eich trin mewn modd cyfeillgar a phroffesiynol.

Byddant:

  • yn rhoi gwybod i chi eu bod wedi cael eich cwyn, pwy fydd yn delio â hi a phryd y byddant yn ymateb
  • yn cymryd eich cwyn o ddifrif ac yn ei thrin yn gyfrinachol
  • ddim yn eich trin chi'n wahanol i bobl eraill am eich bod wedi cwyno
  • ddim yn gwahaniaethu yn eich erbyn am unrhyw reswm

Hawlio costau yn ôl

Efallai y gallwch adhawlio costau rhesymol a achoswyd gan gamgymeriadau y Swyddfa Budd-dal Plant, megis:

  • postio
  • galwadau ffôn
  • costau teithio
  • ffioedd proffesiynol
  • taliadau ariannol

Mae'n bosib y bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn rhoi taliad bach i chi:

  • os gwnaethant achosi llawer o boen meddwl neu drallod i chi
  • os deliwyd â'ch cwyn mewn ffordd annerbyniol
  • os gwnaethant gymryd gormod o amser i ddelio â'ch cwyn

Cysylltiadau defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU