Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Cewch Fudd-dal Plant cyfradd uwch ar gyfer eich plentyn hynaf neu'ch unig blentyn, a chyfradd is ar gyfer unrhyw blant ychwanegol. Mae Lwfans Gwarcheidwad yn swm ychwanegol y gall rhai pobl ei gael ar ben y Budd-dal Plant.
Bydd swm eich Budd-dal Plant yn dibynnu ar:
Pan fyddwch yn dechrau cael Budd-dal Plant byddwch yn cael eich talu'r gyfradd am y flwyddyn bresennol.
Mae'r cyfraddau cyfredol fel a ganlyn:
Ar gyfer pwy mae’r lwfans |
Swm wythnosol presennol |
---|---|
Y plentyn hynaf neu'r unig blentyn |
£20.30 |
Plant ychwanegol - fesul plentyn | £13.40 |
Gwarcheidwad - fesul plentyn |
£15.55 |
O 6 Ebrill 2011, bydd y cyfraddau Budd-dal Plant yn aros yr un peth am dair blynedd.
Dim ond un plentyn yn eich teulu sy'n gymwys ar gyfer y Budd-dal Plant cyfradd uwch. Os bydd dau deulu yn uno gyda'i gilydd, y plentyn hynaf sy'n gymwys i gael y gyfradd uwch. Os oes gennych yr hawl i gael Budd-dal Plant ar gyfer unrhyw un o'r plant eraill yn y teulu newydd, byddwch yn cael cyfradd is ar gyfer pob un ohonynt.
Os bydd teulu’n chwalu gallwch gael cyfradd uwch ar gyfer y plentyn hynaf, ar yr amod eich bod yn gymwys i gael Budd-dal Plant ar ei gyfer.
Er enghraifft, mae gennych dau o blant ac y mae un yn aros gyda chi, a’r llall yn mynd i fyw gyda’ch cyn-bartner. Byddwch yn derbyn y gyfradd uwch am y plentyn sy’n byw gyda chi. Wedyn os yw’ch cyn-bartner yn hawlio am y plentyn arall, byddant yn derbyn y gyfradd uwch am y plentyn hwnnw. Ond os mae’r ddau ohonoch yn penderfynu hawlio am yr un plentyn, dim ond un ohonoch bydd yn gallu hawlio Budd-dal Plant ar ei gyfer.
Os ydych yn credu bod faint o Fudd-dal Plant yr ydych yn ei gael yn anghywir, naill ai yn ormod neu nad yw'n ddigon, rhowch wybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant ar unwaith. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.
Fel arall, gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant.
Gall y Swyddfa Bull-dal Plant ateb mewn fformat arbennig os gofynnwch iddynt, fel Braille, tâp sain neu brint bras.
Os na fydd y Swyddfa Budd-dal Plant wedi talu digon i'ch cyfrif, byddant yn rhoi taliad arall i chi neu'n ychwanegu'r arian sy'n ddyledus i chi at eich taliad nesaf. Y naill ffordd neu'r llall, byddant yn cysylltu â chi i adael i chi wybod beth maent yn mynd i'w wneud.
Os na fyddwch yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant am newid yn eich amgylchiadau, efallai y byddant yn talu gormod o arian i chi. Os digwydd hyn, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r arian ychwanegol yn ôl.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs