Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Nid ydych wedi cael eich taliad Budd-dal Plant arferol

Mae’n bosib fod rheswm syml pam nad ydych wedi cael eich taliad Budd-dal Plant. Yma cewch wybod beth y gallwch chi ei wneud os nad yw eich taliad wedi cyrraedd neu os nad yw wedi ei dalu i’ch cyfrif banc.

Pam na fyddech wedi cael eich taliad arferol

Mae'n bosib na chawsoch eich taliad Budd-dal Plant oherwydd:

  • bod y Swyddfa Budd-dal Plant wedi anfon y siec i'r cyfeiriad anghywir - gallai hyn fod wedi digwydd os ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar ac wedi anghofio dweud wrthynt beth yw'ch cyfeiriad newydd
  • bod manylion eich cyfrif banc, eich cymdeithas adeiladu neu’ch cyfrif cerdyn Swyddfa’r Post® wedi newid ac nad ydych wedi dweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant
  • bod y Swyddfa Budd-dal Plant wedi atal eich taliad

Taliadau dros ddyddiau gŵyl banc

Os yw'ch taliad yn ddyledus ar ŵyl y banc dylech chi gael y taliad ychydig yn gynt na'r arfer, gan amlaf y diwrnod gwaith olaf cyn gŵyl y banc.

Mae'n werth edrych i weld a yw'r taliad wedi'i dalu i'ch cyfrif eisoes.

Olrhain eich taliad

Mae'n bosib fod eglurhad syml pam nad ydych wedi cael eich taliad. Dylech edrych eto i weld a yw’r taliad bellach yn eich cyfrif. Weithiau nid yw systemau bancio electronig yn cael ei diweddaru’n syth. Mae’n bosib bod eich taliad yn eich cyfrif, ond ddim yn dangos ar eich cyfriflen eto.

Os nad yw'r taliad yn eich cyfrif, cysylltwch â'r Swyddfa Budd-dal Plant. Byddan nhw’n edrych i weld a yw'r taliad wedi'i wneud a bod ganddynt y manylion cyfrif cywir ar eich cyfer. Os nad ydynt wedi eich talu, byddant yn rhoi'r rheswm dros hynny i chi ac yn datrys y mater cyn gynted â phosib.

Os yw’r Swyddfa Budd-dal Plant wedi anfon siec a chithau heb ei chael, byddant yn cymryd bod y taliad ar goll, wedi'i ddwyn neu heb ei dderbyn. Bydd angen iddynt gadarnhau eich cyfeiriad hefyd.

Gallwch olrhain eich taliad drwy gysylltu â nhw ar-lein, gan ddilyn y ddolen isod.

Neu, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth y Swyddfa Budd-dal Plant.

Os yw’r Swyddfa Budd-dal Plant wedi atal eich taliadau

Mae’n bosib bod y Swyddfa Budd-dal Plant wedi atal eich taliadau.

Gallai hyn, er enghraifft, fod oherwydd na allan nhw gysylltu â chi. Neu gallai fod oherwydd nad ydych chi wedi dweud wrthynt fod eich plentyn yn aros mewn addysg neu hyfforddiant sy'n gymwys ar gyfer Budd-dal Plant.

Os yw’r Swyddfa Budd-dal Plant wedi gwneud camgymeriad

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn dweud wrthych os ydynt wedi gwneud camgymeriad a byddant yn unioni'r sefyllfa.

Os byddant yn penderfynu gwneud y taliad eto, byddant yn gwneud un o’r canlynol:

  • ei dalu i'ch cyfrif o fewn pedwar diwrnod gwaith
  • anfon siec atoch drwy'r post dosbarth cyntaf, a dylech ei gael ar y diwrnod canlynol

A allwch gael taliad yn lle’r un gwreiddiol?

Os nad yw’r taliad wedi mynd i'ch cyfrif, dim ond os bydd y taliad gwreiddiol wedi cael ei ddychwelyd y gallwch gael un arall yn ei le.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Swyddfa Budd-dal Plant

Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant am unrhyw newidiadau ym manylion eich cyfrif neu'ch cyfeiriad cyn gynted â phosib.

Os na wnewch chi hynny, mae'n bosib y bydd oedi cyn i chi gael eich taliadau Budd-dal Plant neu y dônt i ben yn gyfan gwbl.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU