Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Problemau gyda'ch Budd-dal Plant – ble i ddechrau

Os ydych yn credu bod rhywbeth wedi mynd o'i le gyda'ch Budd-dal Plant, mae digon o gymorth a chyngor ar gael i helpu i weld beth sydd wedi digwydd ac i ddatrys unrhyw broblemau.

Methu dod o hyd i'ch ffurflen hawlio?

Os oedd gennych ffurflen hawlio Budd-dal Plant ond nad ydych yn gallu dod o hyd iddi bydd angen i chi gael un arall a'i hanfon at y Swyddfa Budd-dal Plant.

Y ffordd hawsaf o gael ffurflen hawlio Budd-dal Plant newydd yw ar-lein. Gallwch lenwi’r ffurflen ar y sgrîn a’i hargraffu. Bydd dal eisiau i chi ei phostio i’r Swyddfa Budd-dal Plant at y cyfeiriad sydd wedi’i nodi ar y ffurflen.

Gallwch hefyd gael ffurflen hawlio gan y Llinell Gymorth Budd-dal Plant os:

  • oes gwell gennych i lenwi’r ffurflen hawlio â llaw, ac nid ar y sgrin
  • oes gennych broblemau’n cael gafael ar ffurflen hawlio am unrhyw reswm

Gallwch hefyd argraffu ffurflen hawlio Budd-dal Plant Welsh gwag, os dyna yw eich iaith ddewisol, a’i llenwi â llaw.

Problemau gyda’ch taliadau?

Weithiau efallai na gewch daliad Budd-dal Plant er eich bod yn disgwyl un. Neu efallai y cewch lai na'r oeddech yn ei ddisgwyl heb rybudd.

Er enghraifft, efallai eich bod:

  • yn disgwyl am daliad i'ch cyfrif ond nid yw wedi cyrraedd
  • yn poeni bod siec wedi mynd ar goll
  • yn dal i aros am eich taliad Budd-dal Plant cyntaf
  • yn meddwl pam fod eich taliadau wedi lleihau
  • ddim yn deall pam fod eich taliadau wedi dod i ben

Os yw’r Swyddfa Budd-dal Plant fel arfer yn gwneud taliadau'n uniongyrchol i'ch cyfrif, efallai nad ydynt wedi dangos yno eto. Neu efallai nad oes ganddynt fanylion cywir am eich cyfrif.

Efallai nad ydych yn siŵr pryd mae eich taliad Budd-dal Plant yn ddyledus. Os nad ydych yn siŵr, gallwch edrych ar ddyddiad y taliad ar-lein.

Os ydych yn credu bod y swm y mae’r Swyddfa Budd-dal Plant yn ei dalu i chi yn anghywir

Mae faint o Fudd-dal Plant a gewch chi'n dibynnu ar:

  • faint o blant cymwys yr ydych yn eu magu
  • cyfraddau presennol y Budd-dal Plant

Nid ydych yn cael yr un faint am bob plentyn. Byddwch yn cael mwy o arian am eich plentyn hynaf neu eich unig blentyn nag am unrhyw un o'ch plant eraill.

Os ydych wedi edrych ar y cyfraddau presennol a'ch bod yn credu eich bod yn cael y swm anghywir o hyd, rhowch wybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant cyn gynted â phosib. Gallwch gysylltu â hwy ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod, neu gallwch ffonio’r Llinell gymorth Budd-dal Plant.

Dywedwch wrth y Swyddfa Budd-dal Plant pam eich bod yn credu bod y swm yn anghywir, er enghraifft, efallai bod eich amgylchiadau wedi newid. Byddant yn edrych ar eich manylion ac yn sicrhau y cewch y swm cywir cyn gynted â phosibl.

Ydych chi'n anfodlon gyda phenderfyniad y Swyddfa Budd-dal Plant?

Os bydd y Swyddfa Budd-dal Plant wedi dod i benderfyniad nad ydych yn cytuno ag ef, dylech gysylltu â nhw. Mae angen i chi wneud hyn o fewn mis i ddyddiad y llythyr a anfonwyd atoch ynglŷn â'r penderfyniad. Gallwch ofyn i’r Swyddfa Budd-dal Plant i:

  • egluro sut y daethant i'r penderfyniad
  • ystyried eich cais eto a sicrhau eu bod wedi gwneud y penderfyniad cywir

Mae gennych hawl i gael eglurhad priodol am benderfyniad ar Fudd-dal Plant.

Os edrychir ar eich cais eto, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant naill ai'n newid y penderfyniad os oedd yn anghywir, neu'n cadw at y penderfyniad gwreiddiol.

Os nad ydych yn hapus o hyd, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad. Os byddwch yn bwrw ymlaen â'r apêl, byddant y Swyddfa Budd-dal Plant ei throsglwyddo at gorff annibynnol i'w hystyried.

Ydych chi'n anfodlon gyda'r ffordd y mae eich cais am Fudd-dal Plant wedi'i drin?

Os ydych yn anfodlon gyda'r ffordd y deliodd Cyllid a Thollau EM gyda'ch cais am Fudd-dal Plant, gallwch gwyno. Gallwch gwyno wrthynt dros y ffôn neu'n ysgrifenedig. Byddant yn gwneud eu gorau i ddelio â'ch cwyn cyn gynted â phosibl

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU