Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Deall eich Hysbysiad Dyfarniad Budd-dal Plant

Pan fydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn penderfynu eich bod am gael Budd-dal Plant, byddant yn anfon llythyr atoch o'r enw 'Hysbysiad Dyfarniad' sy'n egluro faint sy'n ddyledus i chi. Tarwch olwg dros yr Hysbysiad Dyfarniad a'i gadw er mwyn sicrhau eich bod wastad yn cael faint sy'n ddyledus i chi.

Beth mae'ch Hysbysiad Dyfarniad yn ei ddangos

Mae sawl adran i'ch Hysbysiad Dyfarniad yn dangos:

  • gwybodaeth am eich Budd-dal Plant - faint gewch chi, ar ran pwy y caiff ei dalu, pryd fydd eich taliadau'n dechrau a sut cânt eu talu
  • manylion am sut y cyfrifir eich Budd-dal Plant
  • unrhyw wybodaeth bwysig arall am eich dyfarniad, er enghraifft a yw'n cynnwys unrhyw swm ychwanegol ar gyfer Lwfans Gwarcheidwad.
  • beth i'w wneud os oes gennych gwestiwn am eich dyfarniad, neu os ydych chi'n anghytuno â rhywbeth

Mae'r Hysbysiad Dyfarniad yn cynnwys dalen ymateb y gallwch ei defnyddio i ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant am unrhyw newid yn eich amgylchiadau.

Mae'r wybodaeth ganlynol hefyd ar eich Hysbysiad Dyfarniad:

  • rhif cyfeirnod eich Budd-dal Plant
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • manylion cysylltu'r Swyddfa Budd-dal Plant

Os hoffech gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant, gwnewch yn siŵr bod gennych eich cyfeirnod Budd-dal Plant a'ch rhif Yswiriant Gwladol wrth law.

Sut mae'r Swyddfa Budd-dal Plant yn cyfrifo eich Budd-dal Plant

Mae dwy gyfradd wahanol o Fudd-dal Plant:

  • cyfradd uwch ar gyfer eich plentyn hynaf neu'ch unig blentyn
  • cyfradd is ar gyfer pob un o'ch plant eraill

Mae'r Swyddfa Budd-dal Plant yn cyfrifo'ch dyfarniad ar sail faint o blant yr ydych chi'n hawlio drostynt.

Mae Lwfans Gwarcheidwad ychwanegol hefyd efallai y gallech ei gael os ydych chi’n gofalu am blentyn rhywun arall, oherwydd bod un neu’r ddau riant wedi marw.

Am faint allwch chi gael Budd-dal Plant?

Fel arfer, gallwch gael Budd-dal Plant nes bod eich plentyn yn 16 oed. Mae taliadau fel arfer yn parhau hyd at 31 Awst sy’n dilyn eu pen-blwydd yn 16.

Os yw’ch plentyn yn dal ati gydag addysgu neu hyfforddiant sy’n gymwys ar gyfer Budd-dal Plant efallai y byddwch yn ei dderbyn am hirach. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod pa hyfforddiant neu addysg sy'n gymwys.

Allwch chi ôl-ddyddio cais am Fudd-dal Plant?

Gall eich cais am Fudd-dal Plant dim ond cael ei ôl-ddyddio am i fyny at dri mis o’r dyddiad y mae’r Swyddfa Budd-dal Plant yn ei dderbyn. I osgoi colli unrhyw arian, y peth gorau i’w wneud yw hawlio Budd-dal Plant mor gynted ag y mae unrhyw un o’r canlynol yn digwydd:

  • mae’ch plentyn yn cael ei eni
  • mae plentyn yr ydych chi’n gofalu amdano yn dod i fyw atoch
  • rydych chi’n mabwysiadu plentyn sy’n byw gyda chi
  • rydych yn dechrau talu tuag at y gost o ofalu am blentyn (onid ydynt yn byw gyda rhywun arall sydd eisoes yn cael Budd-dal Plant)

Y dyddiad fwyaf cynnar y gall eich cais cael ei ôl-ddyddio yw’r dydd Llun yn dilyn dyddiad geni eich plentyn.

Enghraifft

Os gwnaethoch chi gais am Fudd-dal Plant ddeufis ar ôl i'ch plentyn gael ei eni, gallai'r Swyddfa Budd-dal Plant ôl-ddyddio'ch dyfarniad o’r dydd Llun yn dilyn dyddiad geni’ch plentyn. Ond os na wnaethoch gais tan y pedwerydd mis ar ôl y geni, byddant ond yn gallu ôl-ddyddio’ch dyfarniad am dri mis. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n colli allan ar fis o daliad.

Manylion cyfrif banc

Gwnewch yn siŵr bod y Swyddfa Budd-dal Plant yn talu'ch Budd-dal Plant i'r cyfrif banc cywir - yr un a nodwyd gennych chi i'w ddefnyddio.
Os ydych chi'n dymuno newid hwn, bydd angen i chi roi gwybod iddynt cyn gynted â phosib.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eich taliadau gan gynnwys:

  • babi newydd
  • symud tŷ
  • byw gyda rhywun gwahanol

Defnyddiwch y ddolen isod i gael rhestr lawn.

Cadw'ch Hysbysiad Dyfarniad

Cadwch eich Hysbysiad Dyfarniad yn rhywle diogel oherwydd efallai y bydd ei angen arnoch os byddwch yn gwneud cais am gymorth ariannol a bod angen i chi:

  • roi tystiolaeth eich bod yn derbyn Budd-dal Plant
  • rhoi rhif cyfeirnod eich Budd-dal Plant

Os nad ydych chi'n hapus â phenderfyniad y Swyddfa Budd-dal Plant

Gallwch ofyn i'r Swyddfa Budd-dal Plant egluro sut daethant i benderfyniad ynghylch eich Budd-dal Plant.

Bydd angen i chi wneud hyn o fewn mis i'r dyddiad sydd ar eich Hysbysiad Dyfarniad.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU