Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Budd-dal Plant os yw eich plentyn mewn addysg bellach neu hyfforddiant

Mae’n dal yn bosib i chi gael Budd-dal Plant i’ch plant pan fyddant yn cyrraedd 16 oed. Ond bydd angen iddynt barhau mewn addysg llawn amser ‘nad yw’n addysg uwch’ yn yr ysgol neu goleg, neu’n dechrau cwrs hyfforddiant ‘cymeradwy’. Yma cewch wybod beth mae hyn yn ei olygu a pha fathau o gyrsiau sy’n cyfri.

Pa fath o addysg sy’n cyfri ar gyfer Budd-dal Plant?

Mae addysg yn cyfri ar gyfer Budd-dal Plant os yw’n addysg amser llawn, ‘nad yw’n addysg uwch’. Bydd angen i’ch plentyn fod wedi dechrau, wedi ei gofrestru neu wedi cael ei dderbyn ar gwrs sy’n cyfri cyn ei ben-blwydd yn 19 oed. Mae 'amser llawn' yn golygu treulio mwy na 12 awr yr wythnos ar gyfartaledd yn ystod y tymor ar y canlynol:

  • gwersi
  • gwaith ymarferol
  • astudio dan oruchwyliaeth
  • sefyll arholiadau

Nid yw'n cynnwys seibiant ar gyfer prydau bwyd a gwaith cartref.

Mae addysg 'nad yw'n addysg uwch' yn cynnwys y canlynol:

  • TGAU
  • Safon Uwch
  • NVQ/SVQ lefel 1, 2 neu 3
  • Diploma Cyntaf, Tystysgrif Genedlaethol a Diploma Genedlaethol BTEC
  • gradd uwch neu debyg mewn SCE

Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Os nad ydych yn siŵr a yw addysg eich plentyn yn cyfri, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant i gael rhagor o gyngor.

Cyrsiau nad ydynt yn cyfri ar gyfer Budd-dal Plant

Allwch chi ddim cael Budd-dal Plant os yw eich plentyn yn dilyn cwrs addysg ‘uwch’. Dyma enghreifftiau o rai cyrsiau addysg uwch:

  • gradd
  • Diploma Addysg Uwch
  • NVQ lefel 4 neu uwch
  • Tystysgrif Genedlaethol Uwch BTEC (HNC) neu Ddiploma Genedlaethol Uwch (HND)
  • hyfforddiant i athrawon

Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Os nad ydych yn siŵr a yw eich plentyn yn dilyn cwrs addysg uwch, gallwch gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant i gael rhagor o gyngor.

Cwrs drwy'r post

Fel rheol, allwch chi ddim cael Budd-dal Plant os yw'ch plentyn yn dilyn cwrs drwy'r post. Y rheswm dros hyn yw oherwydd ei bod yn anhebygol y byddant yn gwneud mwy na 12 awr yr wythnos o astudio dan oruchwyliaeth.

Cyrsiau brechdan

Ceir dau fath o gwrs brechdan:

  • cyrsiau yn y coleg – pan fydd eich plentyn yn treulio cyfnodau i ffwrdd o'r coleg yn dilyn hyfforddiant ymarferol gyda'i gyflogwr
  • cyrsiau yn y gwaith – pan gaiff eich plentyn ei gyflogi fel prentis neu hyfforddai, ac y bydd yn dilyn cwrs amser llawn mewn ysgol neu goleg

Efallai y gallwch gael Budd-dal Plant os yw'ch plentyn yn dilyn cwrs yn y coleg, ond byddai angen iddo fod yn gwrs amser llawn nad yw'n gwrs addysg uwch. Ni fyddwch chi’n gymwys os yw eich plentyn yn dilyn cwrs yn y gwaith.

Astudio dramor

Fel rheol, dim ond am y 12 wythnos gyntaf y bydd eich plentyn dramor y byddwch yn gallu cael Budd-dal Plant. Ond byddwch yn parhau i'w cael ar ôl hynny os mai’r unig reswm y maen nhw dramor yw oherwydd ei fod nhw:

  • mewn addysg sy’n cyfri ar gyfer Budd-dal Plant mewn gwlad sy'n rhan o Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir
  • ar daith gyfnewid neu ymweliad addysgol, ar yr amod bod gan eich plentyn ganiatâd ysgrifenedig ei ysgol neu ei goleg

Pa fath o hyfforddiant sy’n cyfri ar gyfer Budd-dal Plant?

Gallwch gael Budd-dal Plant os yw'ch plentyn yn hŷn nag 16 oed ac yn dilyn cwrs hyfforddiant ‘cymeradwy’. Bydd angen i’ch plentyn fod wedi dechrau, wedi ei gofrestru neu wedi cael ei dderbyn ar gwrs cymeradwy digyflog cyn ei ben-blwydd yn 19 oed.

Dyma rai cyrsiau cymeradwy:

  • Cymru – Prentisiaethau Sylfaenol, Swyddi dan Hyfforddiant ac Adeiladu Sgiliau/Adeiladu Sgiliau+ (os dechreuwyd cyn 1 Awst 2011)
  • Lloegr - Rhaglenni Dysgu Sylfaen (a elwir yn ‘Entry to Employment’ yn flaenorol) neu Fynediad at Brentisiaethau
  • yr Alban – Get Ready for Work a Skillseekers
  • Gogledd Iwerddon – Jobskills a Training for Success, gan gynnwys Programme Led Apprenticeships

Nid yw cwrs a ddarperir gan gyflogwr fel rhan o gytundeb swydd yn cael ei ystyried yn hyfforddiant cymeradwy.

Os yw’ch plentyn yn iau 18 oed ac yn gadael addysg neu hyfforddiant perthnasol

Yn aml gallwch ymestyn eich Budd-dal Plant am hyd at 20 wythnos os yw’r canlynol yn gymwys:

  • mae eich plentyn dan 18 oed ac yn gadael addysg neu hyfforddiant sy’n cyfri ar gyfer Budd-dal Plant
  • mae eich plentyn yn cofrestru ar gyfer gwaith, hyfforddiant neu addysg

Bydd angen iddynt fod wedi ei gofrestru gyda ‘chorff cymwys’ megis gwasanaeth gyrfaoedd neu Connexions.

Os bydd toriad yn addysg neu hyfforddiant eich plentyn

Bydd yn rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant os bydd toriad yn addysg neu hyfforddiant eich plentyn. Mae angen iddynt wybod er mwyn gallu canfod a yw’n dal yn bosib i chi gael Budd-dal Plant. Fel arfer byddant yn gallu parhau i dalu Budd-dal Plant am hyd at chwe mis os oes rheswm da dros y toriad, er enghraifft:

  • mae eich plentyn yn sâl
  • mae'r coleg ar gau dros dro
  • mae'ch plentyn yn symud i goleg arall
  • os oes rhywun sy'n annwyl i'ch plentyn yn sâl neu wedi marw
  • mae'ch plentyn yn feichiog

Fel arfer, allwch chi ddim cael Budd-dal Plant os yw'ch plentyn wedi cymryd toriad gwirfoddol o'i addysg neu hyfforddiant sy’n cyfri ar gyfer Budd-dal Plant, er enghraifft i deithio dramor am resymau personol.

Mae’n bosib na fydd eich plentyn yn ailafael yn ei addysg neu ei hyfforddiant sy’n cyfri ar gyfer Budd-dal Plant. Os nad ydynt yn, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi ad-dalu rhywfaint o’r Budd-dal Plant a gawsoch yn ystod y toriad. Bydd y swm yn dibynnu ar bryd y penderfynodd eich plentyn beidio â mynd yn ôl.

Efallai y bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn gallu talu Budd-dal Plant am fwy na chwe mis. Gall hwn fod os yw'ch plentyn yn yr ysbyty, mewn gofal preswyl neu'n cael triniaeth feddygol dramor a'ch bod yn dal i wario arian arnynt.

Mae eich plentyn yn ailafael yn ei addysg neu hyfforddiant

Efallai y bydd eich plentyn yn ailafael mewn addysg neu ddechrau cwrs hyfforddi ar ôl toriad - er enghraifft ar ôl cyfnod o fod yn ddi-waith. Cyn belled bod yr addysg neu hyfforddiant yn cyfri ar gyfer Budd-dal Plant, fel arfer byddwch chi’n gallu cael Budd-dal Plant iddynt.

Bydd angen i chi wneud hawliad arall os oedd eich Budd-dal Plant wedi dod i ben eisoes oherwydd nad oeddech yn gymwys ar ei gyfer mwyach.

Bydd angen i’ch plentyn fod wedi dechrau, wedi ei gofrestru neu wedi cael ei dderbyn ar gwrs sy’n cyfri ar gyfer Budd-dal Plant cyn ei ben-blwydd yn 19 oed i chi fod yn gymwys.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Swyddfa Budd-dal Plant

Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant am unrhyw newidiadau yn addysg neu hyfforddiant eich plentyn cyn gynted â phosib. Os na wnewch chi hynny, mae'n bosib y bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben neu efallai y byddant yn talu gormod i chi. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant os bydd eich plentyn:

  • yn dechrau neu'n gadael addysg neu hyfforddiant sy’n cyfri ar gyfer Budd-dal Plant yn gynharach neu'n hwyrach na'r hyn a ddywedasoch
  • yn dechrau addysg a ddarperir gan ei gyflogwr fel rhan o'i swydd, neu'n dechrau cael cyflog ar gyfer ei hyfforddiant cymeradwy
  • yn rhoi'r gorau i un cwrs ac yn dechrau un arall
  • yn mynd i astudio dramor am hwy na 12 wythnos
  • yn lleihau eu hamser astudio dan oruchwyliaeth i 12 awr neu lai'r wythnos ar gyfartaledd yn ystod y tymor
  • yn dechrau cwrs addysg uwch

Cysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant

Gallwch gysylltu â'r Swyddfa Budd-dal Plant drwy sawl ffordd.

Gallwch roi gwybod iddynt am unrhyw newidiadau neu gofynnwch am gyngor:

  • ar-lein, drwy ddefnyddio dolenni perthnasol isod
  • drwy ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant
  • drwy ysgrifennu at y Swyddfa Budd-dal Plant

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU