Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Budd-dal Plant i’r rheini dan 18 oed sy'n gadael addysg neu hyfforddiant

Yn aml, gall eich Budd-dal Plant gael ei ymestyn am hyd at 20 wythnos os yw'ch plentyn wedi gadael addysg neu hyfforddiant a'i fod yn 16 neu 17 oed. Mae angen iddynt fod wedi’i gofrestru ar gyfer gwaith, addysg neu hyfforddiant gyda ‘chorff cymwys’. I gael yr estyniad bydd angen i chi wneud cais amdano.

Pwy sy’n gymwys i gael yr estyniad?

Os yw eich plentyn yn 16 neu 17 oed, ac wedi gadael addysg neu hyfforddiant a oedd yn cyfri ar gyfer Budd-dal Plant, efallai y gallech chi gael yr wythnosau ychwanegol hyn. I fod yn gymwys, mae angen i’ch plentyn fod wedi’i gofrestru ag unrhyw un o’r canlynol – a elwir yn ‘cyrff cymwys’:

  • yn Lloegr - y gwasanaeth gyrfaoedd lleol neu Connexions
  • yng Nghymru neu'r Alban - y gwasanaeth gyrfaoedd lleol
  • yng Ngogledd Iwerddon – gwasanaeth gyrfaoedd yr Adran Cyflogaeth a Dysgu, neu Fwrdd Addysg a Llyfrgelloedd
  • y Weinyddiaeth Amddiffyn, er enghraifft os yw eich plentyn yn aros i ymuno â Lluoedd EM
  • sefydliad tebyg i'r gweddill yn y rhestr mewn unrhyw wlad yn Ardal Economaidd Ewrop

Mae angen i chi fod wedi cael hawl i Fudd-dal Plant ar gyfer eich plentyn yn union cyn dechrau cyfnod yr estyniad.

Ni fyddwch chi’n gymwys ar gyfer yr estyniad os oes 20 wythnos eisoes wedi mynd heibio ers i’ch plentyn adael addysg neu hyfforddiant a oedd yn cyfri ar gyfer Budd-dal Plant.

Gwledydd yn Ardal Economaidd Ewrop

Gwledydd Ardal Economaidd Ewrop yw'r Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Groeg, Gwlad Belg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Romania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden a'r Weriniaeth Tsiec.

Sut mae gwneud cais am estyniad

Gallwch chi wneud cais am estyniad mewn un o’r ffyrdd canlynol:

  • ar-lein – dilynwch y ddolen isod
  • drwy ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant
  • drwy anfon llythyr i’r Swyddfa Budd-dal Plant

Bydd angen i chi wneud cais cyn pen tri mis ar ôl y dyddiad y bydd eich plentyn yn gorffen ei addysg neu hyfforddiant a oedd yn cyfri ar gyfer Budd-dal Plant.

Am faint mae'r estyniad yn para?

Fel rheol, mae'r estyniad yn para hyd at 20 wythnos ac yn dechrau ar y dydd Llun cyntaf ar ôl i'ch plentyn roi'r gorau i'r addysg neu'r hyfforddiant a oedd yn cyfri ar gyfer Budd-dal Plant.

Rhesymau pam y gallai estyniad ddod i ben yn gynnar

Bydd yr estyniad yn dod i ben os bydd eich plentyn yn gwneud unrhyw un o'r canlynol:

  • yn cael ei ben-blwydd yn 18 oed
  • yn dechrau gweithio 24 awr neu fwy'r wythnos am dâl
  • yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu gredydau treth ei hun
  • yn rhoi’r gorau i fod yn gofrestredig ar gyfer gwaith, addysg neu hyfforddiant gyda chorff cymwys

Bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw un o’r newidiadau hyn i’r Swyddfa Budd-dal Plant.

Os bydd eich plentyn yn rhoi'r gorau i weithio neu gael budd-daliadau

Mae'n bosib bod y Swyddfa Budd-dal Plant eisoes wedi rhoi'r gorau i dalu Budd-dal Plant i chi oherwydd bod eich plentyn:

  • wedi dechrau gweithio amser llawn
  • yn cael budd-daliadau ei hun

Efallai fod eich plentyn wedi newid ei feddwl wedyn, gan benderfynu ei fod am roi'r gorau i weithio neu gael budd-daliadau. Os digwyddodd hyn cyn diwedd cyfnod yr estyniad o 20 wythnos, cofiwch roi gwybod i'r Swyddfa Budd-dal Plant, oherwydd efallai y gallech ad-hawlio Budd-dal Plant hyd at ddiwedd cyfnod yr estyniad. Ond mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud cais am yr estyniad o fewn tri mis o’ch plentyn yn gadael yr addysg neu hyfforddiant a oedd yn cyfri ar gyfer Budd-dal Plant.

Gallwch gysylltu â’r swyddfa Budd-dal Plant ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod. Neu, gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Swyddfa Budd-dal Plant

Rhaid i chi roi gwybod am unrhyw newidiadau yn amgylchiadau eich plentyn cyn gynted â phosib. Os na wnewch chi hynny, mae'n bosibl y bydd eich taliadau Budd-dal Plant yn dod i ben neu efallai y byddant yn talu gormod i chi. Gallwch roi gwybod am newidiadau drwy wneud unrhyw un o’r canlynol:

  • ar-lein – dilynwch y ddolen ‘Rhoi gwybod am newidiadau Budd-dal Plant ar-lein’
  • drwy ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant
  • drwy ysgrifennu at y Swyddfa Budd-dal Plant

Os yw eich plentyn yn 19 oed ac yn dychwelyd i addysg neu hyfforddiant sy’n cyfri ar gyfer Budd-dal Plant, gallwch chi wneud cais arall am Fudd-dal Plant. Mae’n rhaid i’ch plentyn fod wedi dechrau, neu wedi cofrestru neu gael ei dderbyn ar gyfer yr addysg neu’r hyfforddiant sy’n cyfri ar gyfer Budd-dal Plant cyn ei ben-blwydd yn 19.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU