Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-dal Plant os yw eich plentyn yn 16 oed neu’n hŷn

Gall eich Budd-dal Plant barhau ar ôl i’ch plentyn gael ei ben-blwydd yn 16 oed, os yw’n aros mewn addysg amser llawn nad yw’n ‘addysg uwch’ mewn ysgol neu goleg, neu’n dechrau ar gwrs hyfforddi ‘cymeradwy’. Yma, cewch wybod beth mae hyn yn ei olygu, pryd y bydd eich taliadau’n dod i ben, ac ym mha achosion gewch chi estyniad ar eich Budd-dal Plant os yw’ch plentyn yn iau na 18 oed.

Beth sy’n digwydd cyn i’ch plentyn gael ei ben-blwydd yn 16 oed

Bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn ysgrifennu atoch chi yn ystod blwyddyn olaf eich plentyn yn yr ysgol, er mwyn eich holi am ei gynlluniau. Byddant yn cysylltu â chi rhwng mis Ionawr a mis Mehefin – neu, os ydych chi’n byw yn yr Alban, naill ai ganol mis Mehefin neu ganol mis Tachwedd.

Nid oes angen i chi ymateb i’r llythyr nes eich bod yn gwybod os yw’ch plentyn yn aros mewn addysg neu hyfforddiant.

Gallwch roi’r wybodaeth angenrheidiol i'r Swyddfa Budd-dal Plant yn un o’r ffyrdd canlynol:

  • llenwi’r ffurflen y maen nhw wedi anfon i chi a’i dychwelyd iddynt
  • llenwi ffurflen ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod
  • ffonio Llinell Gymorth y Swyddfa Budd-dal Plant

Plentyn yn aros mewn addysg neu hyfforddiant

Gallwch barhau i gael Budd-dal Plant ar gyfer eich plentyn hyd at ei ben-blwydd yn 20 oed, os yw mewn addysg neu hyfforddiant sy’n cyfrif at ddibenion Budd-dal Plant. Bydd addysg neu hyfforddiant yn cyfrif ar gyfer Budd-dal Plant os yw’n:

  • addysg amser llawn heb fod yn addysg uwch (er enghraifft, lefel A)
  • hyfforddiant ‘cymeradwy’

Mae gofyn bod eich plentyn wedi cychwyn, cofrestru neu cael ei dderbyn ar un o’r cyrsiau canlynol cyn y bydd yn 19 oed.

Ni allwch gael Budd-dal Plant os yw’r canlynol yn wir:

  • mae eich plentyn yn dilyn cwrs addysg uwch, megis cwrs ar lefel prifysgol
  • mae’r addysg y mae eich plentyn yn ei chael yn cael ei darparu gan gyflogwr
  • mae eich plentyn yn cael addysg drwy ei swydd – er enghraifft, os oes gan eich plentyn rôl swyddogol megis arweinydd sgowtiaid neu gynghorwr, a bod yr addysg yn cael ei darparu fel rhan o'r rôl honno
  • mae eich plentyn yn cael hyfforddiant sy’n rhan o gontract swydd

Plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant – ac yn iau na 18 oed

Os yw’ch plentyn yn iau na 18 oed a ddim yn bwriadu aros mewn addysg na hyfforddiant sy'n cyfrif ar gyfer Budd-dal Plant, fel rheol, bydd eich taliadau'n parhau am sbel.

Os yw’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant yn y flwyddyn y mae’n cael ei ben-blwydd yn 16 oed

Os bydd eich plentyn yn gadael yn y flwyddyn y mae'n cael ei ben-blwydd yn 16 oed, fel rheol, bydd eich taliadau'n parhau o'r adeg y mae'n gadael tan 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed. Os yw'ch plentyn yn cael ei ben-blwydd yn 16 oed ar 31 Awst, bydd eich taliadau'n dod i ben bryd hynny.

Os yw’ch plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant ar ôl 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed

Os bydd eich plentyn yn gadael ar ôl 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed, fel rheol, bydd eich taliadau’n dod i ben ar ddyddiad gwahanol. Fel rheol, bydd eich taliadau'n parhau o’r diwrnod y bydd eich plentyn yn gadael hyd at yr wythnos sy’n cynnwys y cynharaf o blith y dyddiadau hyn:

  • y diwrnod olaf ym mis Chwefror
  • 31 Mai
  • 31 Awst
  • 30 Tachwedd

Ond os bydd un o’r canlynol yn digwydd, bydd eich taliadau’n dod i ben ar unwaith:

  • mae eich plentyn yn dechrau gwneud gwaith cyflogedig am 24 awr yr wythnos neu ragor
  • mae eich plentyn yn dechrau cael budd-daliadau penodol, megis Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, neu'n dechrau cael credydau treth ei hun

Bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw un o’r newidiadau hyn i’r Swyddfa Budd-dal Plant.

Mae’n werth gwybod bod modd i’ch Budd-dal Plant, yn aml iawn, gael ei ymestyn am hyd at 20 wythnos ychwanegol. I hyn ddigwydd:

  • mae’n rhaid i’r plentyn fod yn 16 neu’n 17 oed
  • mae’n rhaid bod y plentyn wedi gadael addysg neu hyfforddiant sy’n cyfrif ar gyfer Budd-dal Plant
  • mae’n rhaid bod y plentyn wedi cofrestru ar gyfer gwaith, addysg neu hyfforddiant gyda ‘chorff cymwys’

Bydd yr estyniad yn dechrau ar y dyddiad y gadawodd eich plentyn yr addysg neu’r hyfforddiant a oedd yn cyfrif ar gyfer Budd-dal Plant. Ceir amodau eraill y mae’n rhaid i chi eu bodloni er mwyn cael yr estyniad – dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant – ac yn 18 oed neu’n hŷn

Fel rheol, bydd eich taliadau’n parhau o’r dyddiad y mae eich plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant sy’n cyfrif ar gyfer Budd-dal Plant, tan yr wythnos sy’n cynnwys y cynharaf o blith y dyddiadau hyn:

  • y diwrnod olaf ym mis Chwefror
  • 31 Mai
  • 31 Awst
  • 30 Tachwedd

Ond os bydd un o’r canlynol yn digwydd, bydd eich taliadau’n dod i ben ar unwaith:

  • mae eich plentyn yn dechrau gwneud gwaith cyflogedig am 24 awr yr wythnos neu ragor
  • mae eich plentyn yn cael budd-daliadau penodol, megis Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, neu'n dechrau cael credydau treth ei hun
  • pan fydd eich plentyn yn cyrraedd 20 oed

Bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw un o’r newidiadau hyn i’r Swyddfa Budd-dal Plant.

Plentyn yn dychwelyd i'r ysgol neu’r coleg i sefyll arholiadau

Fel rheol, bydd dal yn bosib i chi gael Budd-dal Plant ar ôl i’ch plentyn adael yr ysgol neu’r coleg os oedd wedi cofrestru i sefyll arholiadau cyn iddo adael. Mae’n rhaid i’r arholiadau fod yn berthnasol i’r cwrs yr oedd yn ei wneud cyn iddo adael – ac mae’n rhaid bod y cwrs yn cyfrif ar gyfer Budd-dal Plant.

Pan fydd eich plentyn wedi gorffen ei arholiad olaf, fel rheol, byddwch yn parhau i gael Budd-dal Plant o ddyddiad yr arholiad olaf tan yr wythnos sy'n cynnwys y dyddiad cynharaf o blith y canlynol:

  • y diwrnod olaf ym mis Chwefror
  • 31 Mai
  • 31 Awst
  • 30 Tachwedd

Bydd eich Budd-dal Plant yn dod i ben ar unwaith os bydd unrhyw un o’r canlynol yn digwydd ar ôl i’ch plentyn adael yr ysgol neu’r coleg:

  • mae eich plentyn yn dechrau gwneud gwaith cyflogedig am 24 awr yr wythnos neu ragor
  • mae eich plentyn yn cael budd-daliadau penodol, megis Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, neu'n dechrau cael credydau treth ei hun
  • pan fydd eich plentyn yn cyrraedd 20 oed

Bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw un o’r newidiadau hyn i’r Swyddfa Budd-dal Plant.

Plentyn yn newid ei feddwl am aros ym myd addysg neu hyfforddiant

Efallai fod eich plentyn wedi bwriadu aros ym myd addysg neu ddilyn hyfforddiant sy’n cyfrif ar gyfer Budd-dal Plant, ond ei fod wedi newid ei feddwl. Er enghraifft, efallai nad oedd canlyniadau ei arholiadau yn ddigon da iddo ddilyn y cwrs.

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant os yw’ch plentyn wedi newid ei feddwl. Byddant yn ystyried y dyddiad y newidiodd eich plentyn ei feddwl fel y dyddiad y rhoddodd y gorau i'r cwrs addysg neu'r hyfforddiant yr oedd am ei ddilyn. Fel rheol, bydd y Swyddfa Budd-dal Plant yn parhau i dalu'r Budd-dal Plant hyd at y dyddiad cynharaf o blith y rhai a welir yn yr adran ‘Os bydd eich plentyn yn dychwelyd i'r ysgol neu’r coleg i sefyll arholiadau’, uchod.

Os yw eich plentyn yn iau na 18 oed, efallai y gallwch hefyd ymestyn eich Budd-dal Plant am hyd at 20 wythnos.

Plentyn yn dechrau gweithio

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant os yw’ch plentyn yn dechrau gwneud gwaith cyflogedig am 24 awr yr wythnos neu ragor ar ôl iddo gael ei ben-blwydd yn 16 oed. Fel rheol, bydd eich taliadau'n dod i ben ar y dydd Llun ar ôl i'ch plentyn ddechrau gweithio.

Ond os bydd eich plentyn hefyd yn aros mewn addysg neu hyfforddiant sy'n cyfrif ar gyfer Budd-dal Plant, mae'n bosib y bydd eich taliadau'n parhau. Nid oes gwahaniaeth faint o oriau y bydd yn eu gweithio. Bydd gofyn bod eich plentyn wedi dechrau, wedi cael ei dderbyn neu wedi’i gofrestru ar gyfer un o'r cyrsiau sy'n cyfrif ar gyfer Budd-dal Plant cyn y bydd yn 19 oed.

Plentyn yn dechrau cael budd-daliadau ei hun

Allwch chi ddim cael Budd-dal Plant os yw’ch plentyn yn cael:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • credydau treth
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant os bydd eich plentyn yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau hyn. Mae hyn yn wahanol i'r budd-daliadau rydych chi'n eu cael. Bydd eich Budd-dal Plant yn dod i ben ar y diwrnod o'r wythnos y dechreuodd eich plentyn gael ei fudd-daliadau ei hun. Er enghraifft, os dechreuodd eich plentyn gael budd-daliadau:

  • ar ddydd Llun, bydd eich taliadau'n dod i ben ar y dydd Llun hwnnw
  • ar unrhyw ddiwrnod arall o'r wythnos, bydd eich taliadau'n dod i ben ar y dydd Llun canlynol

Gall eich plentyn hawlio’r budd-daliadau canlynol heb iddynt effeithio ar eich taliadau chi:

  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu Hyfforddiant

Plentyn yn priodi neu'n dechrau byw gyda phartner

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Budd-dal Plant os bydd eich plentyn yn priodi neu’n dechrau byw gyda phartner. Fel rheol, gallwch barhau i gael Budd-dal Plant os yw’ch plentyn a’i bartner mewn addysg neu hyfforddiant sy’n cyfrif ar gyfer Budd-dal Plant.

Rhoi gwybod am newidiadau i’r Swyddfa Budd-dal Plant

Gallwch roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant am unrhyw newidiadau neu ofyn am gyngor:

  • ar-lein, drwy ddefnyddio’r ddolen isod sy’n berthnasol i chi
  • drwy ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant

Gallwch hefyd ysgrifennu at y cyfeiriad isod:

Child Benefit Office/Swyddfa Budd-dal Plant
PO Box 1
Newcastle-upon-Tyne
NE88 1AA

Allweddumynediad llywodraeth y DU