Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Mae eich plentyn yn troi'n 16 oed - allwch chi gael Credyd Treth Plant o hyd?

Pan fydd eich plentyn yn troi'n 16 oed - gallwch gael Credyd Treth Plant ar ei gyfer o hyd. Ond bydd angen iddo fod yn aros mewn addysg llawn amser nad yw'n addysg uwch mewn ysgol neu goleg, neu'n dechrau ar gwrs hyfforddi 'cymeradwy'. Er mwyn helpu i sicrhau eich bod yn cael y taliadau cywir, mae angen i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth beth yw cynlluniau eich plentyn.

Os yw eich plentyn yn aros mewn addysg

Gallwch gael Credyd Treth Plant ar gyfer eich plentyn hyd at ei ben-blwydd yn 20 oed, os yw mewn addysg sy'n cyfrif ar gyfer Credyd Treth Gwaith.

Mae addysg yn cyfrif ar gyfer Credyd Treth Gwaith cyhyd â'i bod yn addysg llawn amser nad yw'n addysg uwch. Mae angen i'ch plentyn fod wedi dechrau ar gwrs sy'n cyfrif neu wedi cofrestru neu gael ei dderbyn ar gwrs sy'n cyfrif cyn iddo gael ei ben-blwydd yn 19 oed.

Fel arfer, bydd addysg llawn amser nad yw'n addysg uwch mewn ysgol neu goleg, yn astudio ar gyfer cymwysterau fel:

  • Safon Uwch
  • Scottish Highers
  • NVQ ar Lefel 3

Ni allwch gael Credyd Treth Plant os yw eich plentyn mewn:

  • addysg uwch, fel cwrs ar lefel prifysgol
  • addysg a ddarperir gan ei gyflogwr
  • addysg a ddarperir drwy unrhyw swydd a ddelir ganddo - er enghraifft os oes gan eich plentyn rôl swyddogol fel arweinydd sgowtiaid neu gynghorydd, a bod yr addysg yn cael ei darparu fel rhan o'r rôl honno

Mae 'llawn amser' yn golygu ei fod yn cael ei addysgu neu ei oruchwylio am fwy na 12 awr yr wythnos ar gyfartaledd yn ystod y tymor.

Os bydd eich plentyn yn mynd ar gwrs hyfforddi

Gallwch gael Credyd Treth Plant ar gyfer eich plentyn hyd at ei ben-blwydd yn 20 oed o hyd os yw'n cael hyfforddiant 'cymeradwy'. Mae angen i'ch plentyn fod wedi dechrau ar gwrs cymeradwy neu wedi cofrestru neu gael ei dderbyn ar gwrs cymeradwy digyflog cyn iddo gael ei ben-blwydd yn 19 oed.

Er mwyn i gwrs hyfforddi gael ei gymeradwyo dylai fod yn un o'r canlynol:

  • Cymru - Prentisiaethau Sylfaenol, Hyfforddeiaethau neu Adeiladu Sgiliau/Adeiladu Sgiliau+ (os dechreuodd y cwrs cyn 1 Awst 2011)
  • Lloegr - Foundation Learning Programmes (a elwid yn 'Entry to Employment' yn flaenorol) neu Access to Apprenticeships
  • Yr Alban - Get Ready for Work neu Skillseekers
  • Gogledd Iwerddon - Jobskills neu Training for Success, yn cynnwys Programme Led Apprenticeships

Nid yw cwrs a ddarperir gan gyflogwr fel rhan o gontract swydd yn cyfrif fel un a gaiff ei gymeradwyo.

Os bydd eich plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant

Mae eich plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant yn y flwyddyn y caiff ei ben-blwydd yn 16 oed

Efallai na fydd eich plentyn yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant sy'n cyfrif ar gyfer Credyd Treth Plant ar ôl iddo gael ei ben-blwydd yn 16 oed. Os felly, fel arfer bydd eich taliadau Credyd Treth Plant ar ei gyfer yn dod i ben ar 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed.

Mae eich plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant ar ôl 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed

Efallai y bydd eich plentyn yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant, ond yn gadael yn ddiweddarach - er enghraifft pan fydd yn 18 neu'n 19 oed. Bydd eich taliadau'n dod i ben pan fydd eich plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant sy'n cyfrif ar gyfer Credyd Treth Plant.

Os yw eich plentyn o dan 18 oed o hyd, gallech gael hyd at 20 wythnos ychwanegol o Gredyd Treth Plant ar ei gyfer ar ôl iddo adael. Am ragor o wybodaeth, gweler yr adran nesaf.

Pobl ifanc o dan 18 oed sy'n gadael addysg neu hyfforddiant - Credyd Treth Plant estynedig

Os bydd eich plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant cyn iddo gael ei ben-blwydd yn 18 oed, gallech gael cyfnod ychwanegol o Gredyd Treth Plant ar ei gyfer.

Mae'r cyfnod ychwanegol yn para hyd at 20 wythnos. Mae'n dechrau o'r dyddiad y bydd eich plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant sy'n cyfrif ar gyfer Credyd Treth Plant.

I fod yn gymwys ar gyfer yr wythnosau ychwanegol hyn, mae angen i'ch plentyn fod yn 16 neu'n 17 oed ac wedi cofrestru ag un o'r rhain:

  • yng Nghymru neu'r Alban - y gwasanaeth gyrfaoedd lleol
  • yn Lloegr - y gwasanaeth gyrfaoedd lleol neu Connexions
  • yng Ngogledd Iwerddon - gwasanaeth gyrfaoedd yr Adran Cyflogaeth a Dysgu neu Fwrdd Addysg neu Fwrdd Llyfrgelloedd
  • y Weinyddiaeth Amddiffyn - os yw eich plentyn wedi gwneud cais i ymuno â'r Lluoedd Arfog ac yn aros i gael ymuno
  • sefydliad tebyg i'r rhai yn y rhestr hon mewn unrhyw wlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd

Mae'n rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth o fewn tri mis i'r adeg y bydd eich plentyn yn gadael addysg neu hyfforddiant ei fod wedi cofrestru ag unrhyw un o'r sefydliadau hyn.

Os na fyddwch yn cysylltu o fewn tri mis, ni fyddwch yn gallu cael yr arian ychwanegol.

Os bydd cofrestriad eich plentyn gyda'r sefydliad yn dod i ben cyn diwedd yr 20 wythnos, mae'n rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth ar unwaith.

Gwledydd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd

Mae'r gwledydd canlynol yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd: Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, Estonia, Ffrainc, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gwlad Pwyl, Gwlad yr Iâ, Hwngari, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithiwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Rwmania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden, yr Almaen, y DU, yr Eidal, y Ffindir, yr Iseldiroedd a'r Weriniaeth Tsiec.

Os bydd eich plentyn yn dechrau gweithio neu'n cael budd-daliadau

Bydd eich taliadau Credyd Treth Plant yn dod i ben ar unwaith os bydd eich plentyn:

  • yn gadael addysg neu hyfforddiant sy'n cyfrif ar gyfer Credyd Treth Gwaith, yn gweithio 24 awr neu fwy yr wythnos ac yn cael ei dalu
  • yn dechrau cael budd-daliadau neu gredydau treth

Ond gall eich taliadau barhau os bydd eich plentyn yn gweithio a'i fod hefyd yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant sy'n cyfrif ar gyfer Credyd Treth Plant.

Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen i'r addysg neu'r hyfforddiant fodloni'r amodau a gaiff eu hegluro yn y ddwy adran gyntaf uchod.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Swyddfa Credyd Treth

Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt o fewn mis

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth o fewn mis os bydd eich plentyn:

  • yn gadael addysg neu hyfforddiant sy'n cyfrif ar gyfer Credyd Treth Plant
  • yn dechrau addysg uwch - fel cwrs ar lefel prifysgol
  • yn dechrau addysg a ddarperir gan ei gyflogwr fel rhan o'i swydd, neu'n dechrau cael cyflog ar gyfer ei hyfforddiant cymeradwy
  • yn dechrau addysg a ddarperir drwy unrhyw swydd a ddelir ganddo - er enghraifft os oes gan eich plentyn rôl swyddogol fel arweinydd sgowtiaid neu gynghorydd, a'i fod yn dechrau addysg a ddarperir fel rhan o'r rôl honno
  • yn cael swydd â thâl a'i fod fel arfer yn cael ei dalu i weithio am 24 awr neu fwy yr wythnos - a'i fod wedi gadael addysg neu hyfforddiant sy'n cyfrif ar gyfer Credyd Treth Plant
  • yn dechrau cael budd-daliadau neu gredydau treth yn ei rinwedd ei hun
  • yn rhoi'r gorau i fod yn gofrestredig gyda gwasanaeth gyrfaoedd fel Connexions - lle rydych yn cael y cyfnod ychwanegol o gredydau treth (o hyd at 20 wythnos) ar ei gyfer
  • yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil - neu'n dechrau byw gyda phartner fel pe bai'n briod neu mewn partneriaeth sifil

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am y newidiadau hyn, efallai y telir gormod o gredydau treth i chi. Os bydd y Swyddfa Credyd Treth yn talu gormod i chi, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu'r arian yn ôl. Gall hefyd godi tâl arnoch.

Taliadau y dylech roi gwybod amdanynt cyn gynted â phosibl

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosibl os bydd eich plentyn yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant sy'n cyfrif ar gyfer Credyd Treth Plant ar ôl iddo gael ei ben-blwydd yn 16 oed. Os na wnewch hyn, dim ond hyd at 31 Awst ar ôl iddo gael ei ben-blwydd yn 16 oed y byddwch yn cael Credyd Treth Plant ar ei gyfer.

Newidiadau y dylech roi gwybod amdanynt o fewn tri mis

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth o fewn tri mis os yw eich plentyn yn 16 neu'n 17 oed, a'i fod yn gwneud y ddau beth canlynol:

  • rhoi'r gorau i addysg neu hyfforddiant sy'n cyfrif ar gyfer Credyd Treth Plant
  • cofrestru gyda gwasanaeth gyrfaoedd - fel Connexions

Sut i roi gwybod am newidiadau

Gallwch roi gwybod am newid drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth, neu ysgrifennu i'r Swyddfa Credyd Treth.

Ni allwch roi gwybod am newidiadau dros e-bost neu ar-lein ar gyfer credydau treth.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU