Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Credydau treth pan fydd eich partner yn gadael neu pan fydd partner newydd yn symud i mewn

Os byddwch yn gwahanu oddi wrth bartner - neu y bydd partner newydd yn symud i mewn - bydd eich hawliad cyfredol am gredydau treth yn dod i ben. Efallai y bydd angen i chi wneud cais newydd yn unigol neu ar y cyd i sicrhau eich bod yn cael y taliadau credydau treth cywir. Mae angen i chi roi gwybod am y newid i'r Swyddfa Credyd Treth o fewn mis.

Dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am newidiadau i bartneriaeth

Rhaid i chi gysylltu â'r Llinell Gymorth Credyd Treth - o fewn mis - os bydd unrhyw un o'r canlynol yn gymwys:

  • rydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac wedi gwahanu o dan orchymyn llys - neu fod eich gwahaniad yn debygol o fod yn barhaol
  • rydych yn rhoi'r gorau i fyw gyda rhywun fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • rydych yn priodi neu’n ymrwymo i bartneriaeth sifil
  • rydych yn dechrau byw gyda rhywun fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am y newidiadau hyn, efallai y telir y swm anghywir o gredydau treth i chi. Mewn rhai achosion, efallai y cewch eich talu ormod (sef 'gordaliad').

Fel arfer bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw ordaliadau ac efallai y codir cosb arnoch.

Rydych wedi gwahanu oddi wrth eich partner - effaith ar gredydau treth

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, daw eich hawliad ar y cyd i ben pan fyddwch wedi gwahanu'n gyfreithiol neu ei bod yn debygol bod eich gwahaniad yn barhaol.

Os ydych wedi bod yn byw gyda rhywun fel petaech yn briod neu fel partneriaid sifil, daw eich hawliad ar y cyd i ben pan fyddwch yn rhoi'r gorau i fyw gyda'r unigolyn hwnnw.

Mae angen i chi wneud hawliad sengl os nad ydych yn rhan o bâr mwyach. Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth. Yna telir credydau treth i chi fel unigolyn sengl, ar yr amod eich bod yn gymwys o hyd.

Os na fyddwch yn gymwys mwyach, efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian na ddylech fod wedi'i gael o'r dyddiad y dylai’ch hawliad ar y cyd fod wedi dod i ben. Dyna pam y dylech roi gwybod am y newid ar unwaith.

Rydych yn dechrau byw gyda'ch partner - effaith ar gredydau treth

Os ydych eisoes yn cael credydau treth fel unigolyn sengl

Os ydych yn cael credydau treth fel unigolyn sengl, mae angen i chi wneud hawliad newydd ar y cyd os yw un o'r canlynol yn gymwys:

  • rydych yn priodi neu'n ymrwymo i bartneriaeth sifil
  • rydych yn dechrau byw gyda rhywun fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Credyd Treth i gael ffurflen hawlio.

Bydd eich hen hawliad sengl yn dod i ben ar y diwrnod y byddwch yn:

  • priodi
  • dechrau partneriaeth sifil
  • dechrau byw gyda rhywun fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Yna telir credydau treth i chi fel cwpl, ar yr amod eich bod yn gymwys o hyd.

Caiff amgylchiadau personol, fel incwm eich partner ac unrhyw oriau mae'n eu gweithio, eu hystyried pan gaiff eich taliadau newydd eu gweithio allan. Efallai y cewch fwy - neu lai - o arian.

Os na fyddwch yn gymwys mwyach, efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian na ddylech fod wedi'i gael o'r dyddiad y dylai’ch hawliad sengl fod wedi dod i ben. Dyna pam y dylech roi gwybod am y newid ar unwaith.

Yna telir credydau treth i chi fel cwpl, ar yr amod eich bod yn gymwys o hyd.

Caiff amgylchiadau personol, fel incwm eich partner ac unrhyw oriau mae'n eu gweithio, eu hystyried pan gaiff eich taliadau credydau treth newydd eu gweithio allan. Efallai y cewch fwy - neu lai - o arian.

Os na fyddwch yn gymwys i gael credydau treth mwyach, efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian a gawsoch o'r dyddiad y gwnaethoch chi a'ch partner symud i mewn gyda'ch gilydd. Dyna pam y dylech roi gwybod am y newid ar unwaith.

Os ydych eisoes yn cael credydau treth fel pâr

Efallai eich bod eisoes yn cael credydau treth fel rhan o gwpl, er enghraifft gan fod un o'r canlynol yn gymwys i chi:

  • rydych yn briod
  • rydych mewn partneriaeth sifil
  • rydych yn byw gyda rhywun fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Bydd angen i chi wneud cais o'r newydd os byddwch yn dechrau byw gyda phartner gwahanol, yn priodi â phartner gwahanol neu'n dechrau partneriaeth sifil â phartner gwahanol.

Cysylltwch â'r Llinell Gymorth Credyd Treth i gael ffurflen hawlio.

Daw eich hen hawliad i ben ar y diwrnod y byddwch yn:

  • priodi
  • dechrau partneriaeth sifil
  • dechrau byw gyda'ch gilydd fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Caiff amgylchiadau personol, fel incwm eich partner newydd ac unrhyw oriau mae'n eu gweithio, eu hystyried pan gaiff eich taliadau newydd eu gweithio allan. Efallai y cewch fwy - neu lai - o arian.

Os na fyddwch yn gymwys mwyach, efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian na ddylech fod wedi'i gael o'r dyddiad y dylai’ch hen fod wedi dod i ben. Dyna pam y dylech roi gwybod am y newid ar unwaith.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi wneud cais newydd?

Byddwch yn cael hysbysiad dyfarnu newydd yn dweud wrthych p'un a ydych yn gymwys o hyd i gael credydau treth ac os felly, faint a gewch o hyn ymlaen.

Sicrhewch fod eich manylion yn gywir ar yr hysbysiad dyfarnu newydd.

Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid

Efallai y cewch ormod o gredydau treth - gordaliad - os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid yn eich perthynas.

Po hiraf y byddwch yn ei gymryd i roi gwybod am newid yn eich perthynas, y mwyaf y gallai'r gordaliad fod.

Fodd bynnag, efallai y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn ystyried lleihau’r swm y mae'n rhaid i chi ei ad-dalu. Er mwyn i hyn ddigwydd, bydd angen i chi fod wedi gwneud cais newydd fel unigolyn sengl neu gais ar y cyd â'ch partner newydd

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gweithio allan faint y byddech wedi cael eich talu, pe byddech wedi dweud wrthi am y newid ar amser. Yna bydd yn didynnu'r swm hwnnw o'ch gordaliad.

Os ydych o'r farn bod hyn yn gymwys i chi, dylech ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Rydych wedi cael llythyr ‘Eich dyfarniad fel person sengl’

Efallai yr ydych wedi cael llythyr gan y ‘Tîm Adolygu Credydau Treth’ ynghylch eich dyfarniad credydau treth fel person sengl. Mae’r Tîm Adolygu Credydau Treth’ yn rhan o’r Swyddfa Credyd Treth.

Os byddwch yn cael un o’r llythyrau hyn bydd yn gofyn i chi ffonio’r tîm drwy ddefnyddio’r rhif ar frig y llythyr. Byddwch yn gallu siarad â chynghorydd, a fydd yn helpu i wirio eich bod chi’n cael y swm cywir o gredydau treth.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Ad-dalu gordaliad

Os oes gennych ordaliad ar hawliad ar y cyd sydd wedi dod i ben, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gofyn i chi ei ad-dalu. Gelwir hwn yn daliad uniongyrchol. Efallai y byddwch yn gymwys o hyd i gael credydau treth naill ai fel unigolyn sengl neu gyda phartner gwahanol. Ond hyd yn oed os byddwch yn gwneud hyn, ni all y Swyddfa Credyd Treth gasglu'r arian drwy leihau eich dyfarniad credydau treth newydd.

Os oedd gennych chi a'ch cynbartner hawliad credydau treth ar y cyd, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn ysgrifennu at y ddau ohonoch ynghylch unrhyw ordaliad. Byddant yn dweud wrthych faint yw'r cyfanswm sy'n ddyledus. Rydych chi a'ch cynbartner yn gyfrifol ar y cyd am ei ad-dalu.

Os ydych yn cael anhawster ad-dalu'r arian, dylech ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0845 302 1429. Efallai y gallwch dalu'r arian sy'n ddyledus gennych mewn rhandaliadau.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU