Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rydych chi wedi gwahanu ac mae gennych ordaliad credydau treth ar y cyd

Os ydych chi wedi cael gormod o gredydau treth ac wedi gwahanu oddi wrth eich partner, mae'r ddau ohonoch yn gyfrifol am dalu'r gordaliad yn ôl. Gallwch geisio cytuno rhyngoch chi beth ddylai'r ddau ohonoch ei dalu'n ôl. Ond mae help ar gael os na allwch chi fforddio i ad-dalu'r arian.

Gordalu credydau treth – sut mae hynny'n digwydd?

Pan fyddwch yn gwneud hawliad, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn cyfrifo faint i'w dalu ar sail eich amgylchiadau. Weithiau mae'n bosib y telir gormod o gredydau treth i chi, a gall hyn ddigwydd am nifer o wahanol resymau, gan gynnwys:

  • roedd incwm eich cartref yn uwch o lawer na'r hyn roeddech chi wedi'i ragweld
  • wnaethoch chi ddim adnewyddu eich credydau treth mewn pryd
  • gwnaethoch gamgymeriad ar y ffurflen yr anfonwyd i mewn gennych
  • ni ddywedoch chi wrth y Swyddfa Credyd Treth pan wnaethoch chi wahanu

Pwy sy'n gorfod talu'r arian yn ôl?

Os oedd eich hawliad yn hawliad ar y cyd, y peth cyntaf ddylech chi ei wneud yw cytuno â'ch cyn-bartner faint ddylai'r ddau ohonoch ei dalu.

Dyma'r opsiynau:

  • bod y ddau ohonoch yn talu hanner
  • bod y ddau ohonoch yn talu symiau gwahanol
  • bod un ohonoch yn talu'r cyfan

Pan fyddwch wedi dod i gytundeb gyda'ch cyn-bartner, ffoniwch y Llinell Gymorth ar gyfer Talu Credydau Treth ar 0845 302 1429 er mwyn trefnu talu'r gordaliad yn ôl.

Cewch wedyn lythyr yn cadarnhau faint mae'n rhaid i chi ei dalu'n ôl.

Os na allwch chi gytuno pwy sy'n talu beth

Efallai na fyddwch yn gallu trafod y mater gyda'ch cyn-bartner. Gall hyn fod oherwydd nad oes arnoch eisiau cysylltu â nhw neu nad ydych chi'n gwybod ble maen nhw. Hyd yn oed os ydych chi'n siarad â nhw mae'n bosib na fyddwch yn gallu cytuno ar faint ddylai'r ddau ohonoch ei dalu'n ôl.

Os bydd hyn yn digwydd, dylech gael sgwrs â'r Llinell Gymorth ar gyfer Talu Credydau Treth cyn gynted ag y bo modd. Dylech hefyd roi gwybod iddynt beth yw cyfeiriad eich cyn-bartner os ydych yn ei wybod.

Yna, gofynnir i chi dalu hanner y gordaliad yn ôl, a gofynnir i'ch cyn-bartner dalu'r gweddill. Ni ofynnir i chi dalu mwy na hanner y gordaliad yn ôl.

Ad-dalu

Ni all y Swyddfa Credyd Treth gymryd yr arian sy'n ddyledus gennych o unrhyw hawliad newydd a wnewch, oherwydd roedd y gordaliad yn deillio o hawliad a wnaed ar y cyd. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r arian fel un swm o fewn 30 diwrnod.

Os byddwch chi'n cael trafferthion wrth geisio ad-dalu'r arian

Os bydd ad-dalu’r cyfandaliad yn golygu na fyddech chi'n gallu talu eich costau byw hanfodol, megis eich rhent a'ch biliau trydan neu nwy, mae'n bosib y bydd modd i chi dalu'r arian yn ôl mewn rhandaliadau. Neu efallai y byddwch yn gallu gofyn i'r dyddiad talu gael ei ohirio am y tro a'i symud yn bellach i ffwrdd.

Mewn amgylchiadau eithriadol, os yw talu'n ôl yn broblem go iawn, mae'n bosib y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn diddymu eich gordaliad.

Beth sy'n digwydd os na fydd eich cyn-bartner yn ad-dalu ei ran ef?

Bydd y Swyddfa Credyd Treth bob amser yn ceisio gwneud yn siŵr bod y ddau ohonoch yn talu'ch rhan chi. Byddant yn cymryd pob cam posib i gael yr arian sy'n ddyledus gennych chi neu gan eich cyn-bartner yn ôl.

Y swm mwyaf y bydd yn rhaid i chi neu'ch cyn-bartner ei dalu yw hanner yr un.

Manylion cyswllt

Gallwch ffonio'r Llinell Gymorth ar gyfer Talu Credydau Treth ar 0845 302 1429.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU