Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 5 Medi 2012

Rhoi'r gorau i gredydau treth

Efallai eich bod wedi cael llythyr gan y Swyddfa Credyd Treth yn dweud y bydd eich credydau treth yn dod i ben o fis Ebrill 2012, oni bai eich bod yn cysylltu â nhw. Neu efallai na fyddwch am gael credydau treth mwyach. Darllenwch i weld beth mae rhoi'r gorau i gredydau treth yn ei olygu i chi a sut i wneud hynny.

Pwy all roi'r gorau i gredydau treth?

Gall unrhyw un roi'r gorau i gredydau treth. Efallai bod gennych resymau personol dros roi'r gorau i gredydau treth, neu efallai eich bod wedi cael llythyr (TC1015) gan y Swyddfa Credyd Treth yn egluro:

  • bod cyfanswm eich incwm blynyddol yn rhy uchel i gael taliadau credydau treth nawr - neu ei fod yn debygol o fod yn rhy uchel i gael unrhyw daliadau o fis Ebrill 2012
  • y bydd eich hawliad credydau treth yn dod i ben o fis Ebrill 2012 - oni bai eich bod yn cysylltu â'r swyddfa

Beth yw'r terfynau incwm ar gyfer credydau treth?

Ar hyn o bryd, mae'r terfyn incwm ar gyfer cael taliadau credydau treth yn tua £42,000 i'r rhan fwyaf o bobl.

O 6 Ebrill 2012, bydd eich terfyn incwm yn dibynnu ar eich sefyllfa chi eich hun. Ond fel canllaw bras, efallai na fyddwch yn gallu cael unrhyw daliadau credydau treth os yw eich incwm yn fwy na tua:

  • £26,000 os oes gennych un plentyn
  • £32,200 os oes gennych ddau blentyn
  • £13,000 os ydych yn sengl ac nad oes gennych unrhyw blant
  • £18,000 os ydych yn rhan o gwpwl ac nad oes gennych unrhyw blant

Gallech fod yn gymwys o hyd o 6 Ebrill 2012 os yw eich incwm yn uwch na'r rhain. Er enghraifft, os ydych yn talu am ofal plant cofrestredig neu gymeradwy, yn anabl, neu â mwy nag un neu ddau o blant.

Beth i'w ystyried cyn penderfynu rhoi'r gorau i gredydau treth

Os byddwch yn penderfynu eich bod am roi'r gorau i gredydau treth, bydd y canlynol yn digwydd:

  • daw eich hawliad i ben, a bydd angen i chi wneud cais newydd os bydd eich amgylchiadau'n newid - er enghraifft os bydd eich incwm yn gostwng neu os byddwch yn cael babi newydd
  • byddai unrhyw gais newydd ond yn cael ei ôl-ddyddio hyd at fis (mwy weithiau os ydych yn gymwys i gael elfen Anabledd y Credyd Treth Gwaith)

Gallai unrhyw oedi wrth wneud eich cais newydd olygu eich bod yn colli allan ar daliadau y gallai fod gennych hawl i'w cael.

Mae parhau gyda chredydau treth yn golygu:

  • bydd eich hawliad yn parhau, hyd yn oed os nad ydych wedi bod yn cael unrhyw daliadau
  • ni fydd angen i chi wneud cais newydd os bydd eich amgylchiadau'n newid, er enghraifft os bydd eich incwm yn gostwng - dim ond rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am y newid fyddai angen i chi ei wneud
  • efallai y bydd gennych hawl i gael arian ychwanegol ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan os bydd eich amgylchiadau'n newid neu os bydd eich incwm yn gostwng - er enghraifft os byddwch yn colli eich swydd

Rydych yn gymwys i gael elfen Anabledd y Credyd Treth Gwaith ar hyn o bryd

Efallai eich bod yn gymwys i gael elfen Anabledd y Credyd Treth Gwaith ar hyn o bryd, hyd yn oed os nad ydych yn cael unrhyw daliadau credydau treth. Bydd eich hysbysiad dyfarnu diweddaraf yn dweud wrthych beth rydych yn gymwys i'w gael.

Os yw hyn yn berthnasol i chi a'ch bod am roi'r gorau i gredydau treth, mae angen i chi wybod:

  • bydd angen i chi wneud cais newydd am gredydau treth os bydd eich amgylchiadau'n newid yn ddiweddarach
  • bydd unrhyw gais newydd ond yn cael ei ôl-ddyddio hyd at fis (mwy weithiau os ydych yn gymwys i gael yr elfen Anabledd)
  • efallai na fyddwch yn gymwys i gael yr elfen Anabledd pan fyddwch yn gwneud y cais newydd - yn enwedig os oes bwlch o wyth wythnos neu fwy rhwng rhoi'r gorau i gredydau treth a gwneud cais newydd

Os byddwch yn penderfynu parhau gyda chredydau treth, gallwch fod yn gymwys i gael yr elfen Anabledd o hyd - cyhyd â bod eich amgylchiadau yn aros yr un fath.

Beth i'w wneud os bydd y Swyddfa Credyd Treth yn dweud wrthych y bydd eich hawliad credydau treth yn dod i ben o fis Ebrill 2012

Efallai eich bod wedi cael llythyr (TC1015) gan y Swyddfa Credyd Treth yn dweud y canlynol wrthych:

  • bod eich incwm yn rhy uchel i gael taliadau credydau treth nawr - neu ei fod yn debygol o fod yn rhy uchel i gael unrhyw daliadau o fis Ebrill 2012
  • bydd eich hawliad yn dod i ben o fis Ebrill 2012 - oni fyddwch yn cysylltu â ni erbyn y dyddiad a ddangosir yn y llythyr

Os ydych wedi cael un o'r llythyrau hyn, bydd angen i chi:

  • benderfynu p'un a ydych am i'ch hawliad barhau - hyd yn oed os na fyddwch yn cael unrhyw daliadau
  • cysylltu â'r Llinell Gymorth Credyd Treth, neu ysgrifennu i'r Swyddfa Credyd Treth, erbyn y dyddiad a ddangosir yn y llythyr os byddwch am i'ch hawliad barhau

Dylech gysylltu ar unwaith os yw eich amgylchiadau wedi newid ond nad ydych wedi dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth - gallech gael rhai taliadau o hyd. Er enghraifft, efallai eich bod wedi cael babi newydd neu fod eich incwm wedi gostwng, neu efallai eich bod yn meddwl y bydd eich incwm yn gostwng.

Dim ond canllaw yw'r terfynau incwm ar gyfer credydau treth a nodir yn y llythyr. Os bydd eich incwm yn gostwng, hyd yn oed os yw'n dal i fod yn uwch na'r terfynau a nodir yn y llythyr, gallech gael rhai taliadau credydau treth o hyd.

Mae hyn oherwydd y bydd y terfyn incwm ar eich cyfer yn dibynnu ar eich amgylchiadau eich hun.

Mae'n arbennig o bwysig eich bod yn cysylltu ar unwaith os bydd un o'r rhain yn berthnasol:

  • rydych yn credu y bydd cyfanswm eich incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2011-12 yn llai na chyfanswm eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth 2010-11
  • rydych yn credu y bydd cyfanswm eich incwm yn gostwng ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13 yn ei chyfanrwydd

Mae blwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn nesaf.

Os na fyddwch yn cysylltu â'r Llinell Gymorth neu'r Swyddfa Credyd Treth mewn pryd

Os na fyddwch yn cysylltu erbyn y dyddiad a nodir yn y llythyr, bydd y canlynol yn digwydd:

  • daw eich hawliad i ben ar 5 Ebrill 2012
  • byddwch yn cael ffurflen Adolygiad Blynyddol (TC603R) gyda chyfarwyddiadau yn dweud wrthych beth y mae angen i chi ei wneud

Mae'n bwysig dilyn y cyfarwyddiadau a ddaw gyda'r ffurflen Adolygiad Blynyddol fel y gall y Swyddfa Credyd Treth sicrhau ei bod wedi talu'r swm cywir ar gyfer eich hawliad hyd at 5 Ebrill 2012.

Beth i'w wneud os byddwch yn penderfynu rhoi'r gorau i gredydau treth am reswm arall

Gallwch roi'r gorau i gredydau treth unrhyw bryd am eich rhesymau personol eich hun. Gallwch wneud hyn drwy:

  • gysylltu â'r Llinell Gymorth Credyd Treth
  • ysgrifennu i'r Swyddfa Credyd Treth

Bydd angen i chi gysylltu erbyn 31 Gorffennaf os ydych am i'ch hawliad ddod i ben ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol. Os byddwch yn cysylltu ar unrhyw adeg arall, bydd eich hawliad yn parhau hyd ddiwedd y flwyddyn dreth bresennol. Er enghraifft, os byddech yn cysylltu ym mis Medi 2012, byddai eich hawliad yn parhau hyd 5 Ebrill 2012, pan fyddai'n dod i ben.

Os ydych am i'ch hawliad ddod i ben ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, efallai y gofynnir i chi ad-dalu unrhyw arian na ddylech fod wedi'i gael ers 6 Ebrill.

Newid eich meddwl am roi'r gorau i gredydau treth

Unwaith y byddwch wedi rhoi'r gorau i gredydau treth, bydd angen i chi wneud cais newydd os byddwch am gael credydau treth eto.

Angen mwy o help?

Gallwch gael mwy o help gan unrhyw un o'r canlynol:

  • y Llinell Gymorth Credyd Treth
  • cynghorydd annibynnol, er enghraifft y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu Wasanaeth Hawliau Lles yr Awdurdod Lleol
  • unrhyw un sy'n gweithredu ar eich rhan - efallai y byddai o gymorth i chi ddangos unrhyw lythyr a anfonwyd atoch

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Cross & Stitch yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU