Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 5 Medi 2012

Pryd fydd angen i chi adnewyddu eich hawliad credydau treth

Os oes Datganiad Blynyddol wedi cael ei anfon atoch, dylech adnewyddu eich hawliad credydau treth cyn gynted â phosib. Po gynharaf y byddwch yn adnewyddu, y cynharaf y gall y Swyddfa Credyd Treth gyfrifo eich taliadau ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf. Yma, cewch wybod pryd fydd angen i chi adnewyddu a beth i'w wneud os mai dim ond ffurflen Adolygiad Blynyddol sydd wedi'i hanfon atoch.

Nid ydych chi wedi cael eich pecyn adnewyddu eto

Gallwch ddisgwyl i’ch pecyn gyrraedd rhwng 17 Ebrill 30 Mehefin. Nid yw’r Swyddfa Credyd Treth yn anfon yr holl becynnau'r un amser, ac efallai na fydd eich un chi yn cyrraedd tan ddiwedd y cyfnod hwn.

Mae angen i chi adnewyddu erbyn 31 Gorffennaf neu ba bynnag ddyddiad a ddangosir ar eich pecyn.

Os na fyddwch yn derbyn eich pecyn erbyn 30 Mehefin, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Credyd Treth. Byddant yn anfon y ffurflenni angenrheidiol atoch.
Ni allwch gael pecyn adnewyddu ar-lein.

Os ydych chi wedi cael ffurflen Datganiad Blynyddol

Dylech ddarparu'r wybodaeth ar gyfer y Datganiad Blynyddol (TC603D neu TC603D2) cyn gynted â phosib, ac yn sicr ddim hwyrach na 31 Gorffennaf. Os oes gennych chi ddyddiad terfynol gwahanol, bydd y dyddiad hwn yn eich pecyn adnewyddu.

Po gynharaf y byddwch yn adnewyddu, y cynharaf y gall y Swyddfa Credyd Treth:

  • sicrhau ei bod wedi talu’r swm cywir i chi ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf
  • sicrhau eich bod yn cael eich talu y swm cywir o arian ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf

Mae blwyddyn dreth yn dechrau ar 6 Ebrill un flwyddyn ac yn dod i ben ar 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Os byddwch yn gohirio adnewyddu, gallai gormod o gredydau treth gael eu talu i chi ('gordaliad'), a bydd rhaid i chi eu talu yn ôl. Gallai hyn gronni po fwyaf y byddwch yn gohirio adnewyddu.

Amcangyfrif eich incwm

Dylech adnewyddu o hyd, hyd yn oed os na allwch chi ddarparu manylion eich incwm gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf. Gallwch wneud hyn drwy ddarparu amcangyfrif o’ch incwm. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi ddarparu manylion eich incwm gwirioneddol ryw dro eto, fel arfer erbyn 31 Ionawr. Edrychwch ar Gam C eich hysbysiad o Adolygiad Blynyddol i weld a oes dyddiad terfynol gwahanol wedi’i roi i chi.

Os mai dim ond hysbysiad o Adolygiad Blynyddol a gawsoch

Ni fydd angen i chi adnewyddu os mai dim ond hysbysiad o Adolygiad Blynyddol (TC603R) a gawsoch. Bydd eich hawliad yn cael ei adnewyddu’n awtomatig. Ond bydd angen i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth ar unwaith (ac erbyn 31 Gorffennaf fan bellaf) os yw’r canlynol yn wir:

  • mae eich amgylchiadau wedi newid
  • mae eich incwm yn wahanol i’r hyn a gaiff ei ddangos yn yr hysbysiad
  • mae camgymeriadau yn yr hysbysiad, neu fanylion ar goll

Bydd eich pecyn adnewyddu yn dweud wrthych a fydd angen i chi gysylltu â’r Llinell Gymorth erbyn dyddiad terfynol gwahanol.

Os byddwch yn methu’r dyddiad terfynol ar gyfer adnewyddu neu roi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Os anfonwyd ffurflen Datganiad Blynyddol atoch (TC603D neu TC603D2)

Mae angen i chi ymateb erbyn 31 Gorffennaf, neu’r dyddiad terfynol yn eich pecyn adnewyddu. Os nid ydych yn, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn:

  • dod â'ch taliadau credyd treth i ben
  • anfon datganiad atoch yn dangos a oes gormod, neu ddim digon, o gredydau treth wedi’u talu i chi

Yna, bydd gennych chi 30 diwrnod arall i ddarparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn y pecyn adnewyddu. Os na fyddwch yn darparu'r wybodaeth o fewn 30 diwrnod, fel arfer, bydd rhaid i chi wneud hawliad newydd am gredydau treth.

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gofyn i chi ad-dalu unrhyw ordaliadau o’r flwyddyn dreth ddiwethaf – ac unrhyw daliadau a wnaed i chi ers 6 Ebrill.

Os anfonwyd hysbysiad Datganiad Blynyddol (TC603R) yn unig atoch (TC603D neu TC603D2)

Os na wnaethoch roi wybod am newid neu unrhyw wybodaeth anghywir ar eich hysbysiad erbyn y dyddiad terfynol, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Credyd Treth ar unwaith. Gall hyn helpu i osgoi gordaliad gynyddu.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Cross & Stitch yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU