Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 5 Medi 2012

Pryd gallwch chi ddisgwyl i rywun ddelio â’ch cais i adnewyddu’ch credydau treth

Gall gymryd hyd at wyth wythnos i’r Swyddfa Credyd Treth ddelio â’ch cais i adnewyddu. Yma, cewch wybod pryd fydd angen i chi gysylltu â’r Llinell Gymorth Credyd Treth, beth fydd yn digwydd i’ch taliadau yn y cyfamser, a sut cewch chi wybod bod rhywun wedi delio â’ch cais i adnewyddu.

Faint o amser y gall gymryd i brosesu eich cais i adnewyddu

Mae’n aml yn cymryd hyd at wyth wythnos i’r Swyddfa Credyd Treth ddelio â’ch cais i adnewyddu. Mae hyn oherwydd mae’n bosib bod angen edrych yn fanylach ar rywfaint o'r wybodaeth rydych chi wedi'i darparu. Os bydd y Swyddfa’n penderfynu bod angen gwneud hyn, bydd yn cysylltu â chi.

Ceisiwch ddarparu unrhyw wybodaeth y gofynnir i chi amdani cyn gynted ag y bo modd. Bydd hyn yn helpu’r Swyddfa Credyd Treth i gadarnhau pa gredydau treth y mae gennych chi’r hawl i’w cael mor fuan â phosib.

Beth fydd yn digwydd i’ch taliadau yn y cyfamser

Os gwnaethoch adnewyddu ar amser, byddwch yn dal i gael yr un taliadau tra bod yr adnewyddiad yn cael ei ddelio gyda.

Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd y rhain yn newid ar ôl i'r Swyddfa Credyd Treth gyfrifo faint y mae gennych chi'r hawl i'w gael ar ôl i chi adnewyddu.

Os na wnaethoch adnewyddu ar amser, bydd eich taliadau’n dod i ben.

Sut cewch chi wybod bod rhywun wedi delio â’ch cais i adnewyddu

Unwaith i chi adnewyddu bydd y Swyddfa Credyd Treth yn penderfynu faint mae gennych chi’r hawl iddo. Byddant yn ysgrifennu atoch ac yn rhoi gwybod i chi beth yw ei phenderfyniad. Bydd hyn fel arfer yn golygu y cewch ‘hysbysiad dyfarniad’.

Mae’n bosib y cewch nifer o hysbysiadau dyfarniad ar ôl i chi adnewyddu. Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • edrych dros bob hysbysiad dyfarniad, gan wneud yn siŵr bod y manylion yn gywir ar gyfer y flwyddyn dreth neu gyfnod y dyfarniad a ddangosir
  • dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth, drwy ffonio’r Llinell Gymorth, os yw unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn, neu os nad ydych yn deall rhywbeth

Gallwch ddefnyddio’r rhestr wirio a ddaeth gyda’ch hysbysiad dyfarniad i’ch helpu i wneud hyn.

Pryd gallwch chi ddisgwyl cael eich hysbysiad dyfarniad

Fel arfer, gallwch ddisgwyl cael eich hysbysiad dyfarniad terfynol cyn pen wyth wythnos ar ôl i chi adnewyddu neu roi gwybod am newid mewn amgylchiadau. Gall gymryd mwy o amser, er enghraifft, pe bai camgymeriadau ar y ffurflen Datganiad Blynyddol (TC603D neu TC603D2).

Os mai dim ond hysbysiad o Adolygiad Blynyddol (TC603R) a gawsoch, ac roedd popeth arno yn gywir, gallwch ei drin fel eich hysbysiad dyfarniad. Bydd eich taliadau cyfredol yn parhau.

Mae gennych chi blentyn 16 mlwydd oed sy’n mynd ymlaen at hyfforddiant neu addysg bellach

Os oes gennych chi blentyn 16 mlwydd oed, a'ch bod chi wedi rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth y bydd yn mynd ymlaen at hyfforddiant neu addysg bellach, bydd eich Credyd Treth Plant ar ei gyfer yn parhau. Mae hyn yn berthnasol cyn belled:

  • eich bod wedi rhoi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth bod eich plentyn yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant
  • â bod yr addysg neu’r hyfforddiant yn cyfrif at ddibenion Credyd Treth Plant.

Cewch hysbysiad dyfarniad arall ar ôl 1 Medi a fydd yn dangos hyn.

Os bydd cynlluniau eich plentyn ar gyfer addysg neu hyfforddiant yn newid, rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith.

Pryd ddylech chi gysylltu â'r Llinell Gymorth Credyd Treth

Os gwnaethoch adnewyddu erbyn 31 Gorffennaf (neu’r dyddiad terfynol yn eich pecyn adnewyddu), cysylltwch â’r Llinell Gymorth Credyd Treth os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw eich hysbysiad dyfarniad wedi cyrraedd, ac mae dros wyth wythnos wedi bod ers i chi adnewyddu
  • mae'r wybodaeth ar eich hysbysiad dyfarniad yn anghywir, ar goll neu’n anghyflawn

Os ydych chi wedi sylweddoli y gwnaethoch gamgymeriad wrth adnewyddu, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Credyd Treth ar unwaith.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Cross & Stitch yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU