Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rhesymau pam y gall eich credydau treth ostwng neu ddod i ben

Gallai fod nifer o resymau pam bod eich taliadau credydau treth yn gostwng neu'n dod i ben. Efallai bod rheswm syml am hyn fel bod eich amgylchiadau wedi newid a bod y Swyddfa Credyd Treth wedi newid y swm y mae'n ei dalu i chi.

Rhesymau cyffredin pam bod eich taliadau'n newid

Y rhesymau mwyaf cyffredin pam y gallai eich taliadau fod wedi gostwng neu ddod i ben yw:

  • mae plentyn yn troi'n 16 oed, ond nid ydych wedi dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth ei fod yn aros mewn addysg llawn amser neu hyfforddiant cymeradwy
  • mae eich hysbysiad dyfarnu yn dangos eich bod wedi eich gordalu
  • rydych wedi newid manylion eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gerdyn Swyddfa'r Post® ac nid ydych wedi dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth
  • rydych wedi newid cyfeiriad ac nid ydych wedi dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth
  • nid ydych wedi rhoi unrhyw fanylion cyfrif banc i'r Swyddfa Credyd Treth
  • nid ydych wedi adnewyddu eich cais am gredydau treth
  • mae eich incwm yn rhy uchel i gael unrhyw gredydau treth o 6 Ebrill 2012
  • rydych yn gwpwl â phlant, ac nid ydych yn gweithio'r nifer ofynnol o oriau i gael Credyd Treth Gwaith o 6 Ebrill 2012
  • roeddech yn cael 'elfen 50 oed a throsodd' o'r Credyd Treth Gwaith, a ddaeth i ben ar 6 Ebrill 2012
  • mae eich incwm wedi codi mwy na £10,000, ac felly mae eich taliadau credyd treth wedi gostwng

Caiff y rhesymau eu hesbonio'n fanylach isod.

Mae plentyn yn troi'n 16 oed

Os yw eich plentyn bellach dros 16 oed, gallai eich taliadau Credyd Treth Plant fod wedi dod i ben ar ei gyfer. Gallai hyn fod am nad oedd y Swyddfa Credyd Treth yn gwybod bod eich plentyn yn aros mewn addysg llawn amser (neu ar gwrs hyfforddi cymeradwy). Mae'n bwysig iawn eich bod yn dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am gynlluniau eich plentyn. Os na wnewch unrhyw beth, daw eich taliadau ar gyfer y plentyn hwnnw i ben yn awtomatig ar 31 Awst ar ôl ei ben-blwydd yn 16 oed.

Mae eich hysbysiad dyfarnu yn dangos eich bod wedi eich gordalu

Cewch hysbysiad dyfarnu os bydd eich taliadau credydau treth yn newid. Gallai hyn ddweud bod eich taliadau'n gostwng am fod y Swyddfa Credyd Treth wedi talu gormod i chi. Gallai hyn ddigwydd os nad ydych wedi dweud wrthi am newid yn eich amgylchiadau, neu fod eich incwm wedi codi. Os yw eich taliadau wedi dod i ben am nad ydych yn gymwys i gael credydau treth mwyach, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gofyn i chi wneud taliad uniongyrchol i dalu'n ôl unrhyw ordaliad.

Rydych wedi newid eich cyfrif banc

Os ydych wedi newid manylion eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gerdyn Swyddfa'r Post® yn ddiweddar ac nad ydych wedi dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth, caiff eich taliad ei anfon i'ch hen gyfrif. Bydd angen i chi roi manylion eich cyfrif newydd i'r Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn sicrhau y caiff taliadau yn y dyfodol eu talu i'ch cyfrif cywir.

Rydych wedi newid eich cyfeiriad

Os na all y Swyddfa Credyd Treth gysylltu â chi yn y cyfeiriad sydd ganddi, gall ddod â'ch taliadau credydau treth i ben. Felly, os byddwch yn symud, bydd angen i chi roi eich cyfeiriad newydd iddi mewn da bryd.

Nid ydych wedi rhoi manylion cyfrif banc yn ôl y gofyn

Os yw eich credydau treth wedi bod yn cael eu talu i chi drwy siec arian parod, gallai eich taliadau ddod i ben os nad ydych wedi rhoi manylion cyfrif eich banc, cymdeithas adeiladu, neu gerdyn Swyddfa'r Post® i'r Swyddfa Credyd Treth. Gallai hyn ddigwydd bedair wythnos ar ôl y dyddiad y gofynnodd y Swyddfa Credyd Treth i chi am yr wybodaeth hon.

Os nad oes eisoes gennych gyfrif, mae'n rhaid i chi agor un a rhoi'r manylion i'r Swyddfa Credyd Treth.

Nid ydych wedi adnewyddu eich credydau treth

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gofyn i chi adnewyddu eich credydau treth ar ddiwedd bob blwyddyn dreth. Yna, gall sicrhau bod y swm cywir o gredydau treth wedi'i dalu i chi ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol. Bydd hefyd yn cadarnhau ei bod yn talu'r swm cywir i chi ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol.

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn anfon pecyn adnewyddu atoch, y mae'n rhaid i chi fel arfer ei gwblhau erbyn 31 Gorffennaf. Os na fyddwch yn adnewyddu eich credydau treth, bydd eich taliadau'n dod i ben. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu'n ôl unrhyw daliadau rydych wedi'u cael ers 6 Ebrill yn ogystal ag unrhyw ordaliadau.

Mae eich incwm yn rhy uchel i chi gael credydau treth o 6 Ebrill 2012

Efallai bod eich taliadau wedi dod i ben o 6 Ebrill 2012 oherwydd newidiadau i derfynau incwm credydau treth a gyhoeddwyd yn y Gyllideb ym mis Mehefin 2010.

Ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf (rhwng 6 Ebrill 2011 a 5 Ebrill 2012), roeddech fel arfer yn gallu cael rhai credydau treth, ar yr amod nad oedd eich incwm blynyddol yn uwch na'r terfyn o £41,300. Ond o 6 Ebrill 2012, gostyngodd y terfyn hwn ar gyfer y rhan fwyaf o bobl.

Mae eich terfyn incwm bellach yn dibynnu ar eich amgylchiadau chi eich hun. Ond fel canllaw bras, mae'r terfynau o 6 Ebrill 2012 oddeutu:

  • £26,000 os oes gennych un plentyn
  • £32,200 os oes gennych ddau blentyn
  • £13,000 os ydych yn sengl heb unrhyw blant
  • £18,000 os ydych yn gwpwl heb unrhyw blant

Mae'n bwysig gwybod y gall eich terfyn incwm chi fod yn wahanol. Ond os yw eich incwm yn uwch na'r symiau hyn, gellid effeithio ar eich taliadau.

Os yw eich incwm neu amgylchiadau eraill wedi newid, ond nid ydych wedi dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth, gallai wneud gwahaniaeth. Rhowch wybod am unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl, yn arbennig os:

  • yw eich incwm wedi gostwng
  • yw cyfanswm eich incwm yn debygol o ostwng ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan sy'n dechrau ar 6 Ebrill 2012
  • yw eich amgylchiadau wedi newid a'ch bod yn meddwl y dylech gael credydau treth o hyd

Mae'r rheolau oriau gwaith wedi newid i gyplau â phlant

Os ydych yn gwpwl â phlant, mae'r oriau y mae angen i chi weithio i gael Credyd Treth Gwaith wedi newid o 6 Ebrill 2012.

Cyn y dyddiad hwn, os oeddech yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, gallech gael Credyd Treth Gwaith. Ond o 6 Ebrill 2012, bydd angen i'r rhan fwyaf o gyplau â phlant weithio o leiaf 24 awr yr wythnos ar y cyd.
Mae hyn yn golygu:

  • os yw'r ddau ohonoch yn gweithio, bydd yn rhaid i'ch oriau wythnosol ar y cyd fod o leiaf 24 awr yr wythnos, gydag un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • os mai dim ond un ohonoch sy'n gweithio, mae'n rhaid i'r unigolyn hwnnw weithio o leiaf 24 awr yr wythnos

Os nad ydych yn gweithio'r oriau hyn, bydd eich Credyd Treth Gwaith fwy na thebyg wedi dod i ben ar 6 Ebrill 2012. Ond mae rhai eithriadau - dilynwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth.

Daeth yr 'elfen 50 oed a throsedd' o Gredyd Treth Gwaith i ben ar 6 Ebrill 2012

Daeth y taliad ychwanegol i bobl 50 oed a throsodd, a elwir yn 'elfen 50 oed a throsodd', i ben ar 6 Ebrill 2012. Mae hyn o ganlyniad i newidiadau a gyhoeddwyd yn y gyllideb ym mis Mehefin 2010.

Os oeddech yn cael yr elfen 50 oed a throsodd, gallai eich taliadau fod wedi gostwng o 6 Ebrill 2012.

Mae hyn hefyd yn golygu y gallai eich Credyd Treth Gwaith fod wedi dod i ben yn llwyr, oni bai eich bod yn gweithio nifer benodol o oriau. Er enghraifft, os ydych rhwng 50 a 59 oed ac nid ydych yn gyfrifol am blant, fel arfer bydd angen i chi weithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod sawl awr y mae angen i chi ei gweithio i gael Credyd Treth Gwaith.

Mae eich incwm wedi codi mwy na £10,000

Os disgwylir i'ch incwm fod fwy na £10,000 yn uwch na'r llynedd, efallai y byddwch yn cael llai o gredydau treth.

Os disgwylir i'ch incwm fod lai na £10,000 yn uwch na'r llynedd, ni fydd yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r swm o gredydau treth a gewch ar gyfer y flwyddyn bresennol. Fodd bynnag, mae'n syniad da rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am y newid o hyd. Caiff y cynnydd yn yr incwm ei ystyried:

  • yn y flwyddyn ganlynol
  • ar gyfer y taliadau a wneir i chi ar ôl mis Ebrill, ond cyn eich bod wedi adnewyddu eich cais

Os na ddywedwch wrthi am newid yn eich incwm:

  • efallai na chewch yr holl arian y mae hawl gennych i'w gael
  • gallech fod yn cronni gordaliad y bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl

Sut i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Swyddfa Credyd Treth

Gallwch roi gwybod i'r Llinell Gymorth Credyd Treth am unrhyw newidiadau.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU