Credydau treth - hawliau a chyfrifoldebau
Mae faint o gredydau treth gewch chi'n seiliedig ar yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i'r Swyddfa Credyd Treth am eich amgylchiadau. Er mwyn helpu i gael eich dyfarniad yn iawn, ac osgoi cronni gordaliadau, mae'n bwysig bod y Swyddfa Credyd Treth yn cyflawni eu cyfrifoldebau nhw a'ch bod chi yn cyflawni eich cyfrifoldebau chi.
Cyfrifoldebau'r Swyddfa Credyd Treth
Pan fydd y Swyddfa Credyd Treth yn delio â'ch credydau treth, eu nod fydd:
- rhoi'r cyngor cywir i chi ar sail yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi iddynt, os byddwch chi'n gofyn am wybodaeth
- cynnig cefnogaeth - er enghraifft, os ydych chi am iddynt egluro eich hysbysiad dyfarniad i chi, byddant yn ei egluro i chi'n fanwl
- cofnodi a defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi iddynt yn gywir pan fyddwch chi'n hawlio neu'n adnewyddu eich hawliad, er mwyn cyfrifo eich credydau treth a thalu'r swm cywir i chi.
- anfon hysbysiad dyfarniad atoch a fydd yn cynnwys yr wybodaeth rydych chi wedi'i rhoi iddynt am eich teulu a'ch incwm - os byddwch yn dweud wrthynt fod camgymeriad neu rywbeth ar goll ar eich hysbysiad dyfarniad, byddant yn ei gywiro ac yn anfon hysbysiad dyfarniad wedi'i gywiro atoch chi.
- cofnodi'n gywir yr hyn rydych chi wedi'i ddweud wrthynt am newid yn eich amgylchiadau, ac anfon hysbysiad dyfarniad newydd atoch chi cyn pen 30 diwrnod
Ni fydd y 30 diwrnod y cychwyn nes i'r Swyddfa Credyd Treth gael yr holl wybodaeth angenrheidiol gennych chi er mwyn gwneud y newid. Mae'n bwysig felly eich bod yn rhoi'r holl wybodaeth iddynt pan fyddwch yn rhoi gwybod iddynt am newid.
Eich cyfrifoldebau chi
Pan fyddwch chi'n gwneud neu'n adnewyddu hawliad credydau treth, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn disgwyl i chi:
- roi gwybodaeth gywir, gyflawn a diweddar iddynt
- rhoi gwybod iddynt am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau drwy gydol y flwyddyn er mwyn gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth sydd ganddynt yn gywir ac yn ddiweddar
- lleihau posibilrwydd cronni gordaliadau drwy ddweud wrthynt am unrhyw newidiadau yn eich incwm cyn gynted ag sy'n bosibl
Mae'r gyfraith yn dweud ei bod yn rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am rai newidiadau cyn pen mis iddynt ddigwydd – er enghraifft rhoi’r gorau i weithio. Defnyddiwch y rhestr wirio a anfonir atoch chi gyda'ch hysbysiad dyfarniad i weld beth yw'r newidiadau.
Mae rhai newidiadau nad oes angen i chi roi gwybod amdanynt cyn pen mis - er enghraifft os byddwch yn cael babi. Ond mae’n well rhoi gwybod am bob newid yn syth. Y rheswm am hyn yw os bydd newid yn debygol o gynyddu’ch taliadau credydau treth, dim ond hyd at fis y gellir ôl-ddyddio’r cynydd.
Beth i’w wneud pan gewch chi hysbysiad dyfarniad
Bob tro byddwch chi'n cael hysbysiad dyfarniad, dylech chi:
- ddefnyddio'r rhestr wirio a anfonir gyda'r hysbysiad i gadarnhau'r holl eitemau yn y rhestr
- rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth os oes unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn
- gwneud yn siŵr bod y taliadau a gewch chi gan y Swyddfa Credyd Treth bob wythnos neu bob pedair wythnos yn cyfateb i'r swm a nodir ar yr hysbysiad dyfarniad
- rhoi gwybod iddynt os cawsoch chi unrhyw daliadau nad oeddent yn cyfateb i'r hyn a ddangosir ar yr hysbysiad dyfarniad yn ystod y cyfnod lle bu gordaliad
Pethau i'w gwirio
Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am rai newidiadau cyn pen mis iddynt ddigwydd. Mae'r rhain wedi'u rhestru ar gefn y rhestr wirio, ond dyma'r prif fanylion y maent yn disgwyl i chi wneud yn siŵr eu bod yn gywir:
- a yw'r dyfarniad i chi fel unigolion neu fel rhan o gwpl
- yr oriau rydych chi'n gweithio
- a ydych chi’n cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn
- bod elfen anabledd yn dangos os oes gennych chi, neu unrhyw un arall yn eich cartref hawl iddo
- nifer ac oed unrhyw blant yn eich cartref
- costau gofal plant
- cyfanswm incwm eich cartref ar gyfer y cyfnod a ddangosir ar yr hysbysiad dyfarniad
- a yw'r taliadau credyd treth maent yn eu talu i'ch cyfrif yr un faint â'r swm a ddangosir ar eich hysbysiad dyfarniad
Ond mae’n well rhoi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth am bob newid cyn pen mis. Y rheswm am hyn yw os bydd newid yn debygol o gynyddu’ch taliadau credydau treth, dim ond hyd at fis y gellir ôl-ddyddio’r cynydd.
Os gwelwch chi gamgymeriad ar eich hysbysiad dyfarniad
Os gwelwch chi gamgymeriad ar eich hysbysiad dyfarniad dylech chi:
- roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth cyn pen mis o gael eich hysbysiad dyfarniad
- gwneud nodyn o pryd cawsoch chi eich hysbysiad dyfarniad a phryd roeddech chi wedi rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am y camgymeriad - efallai y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gofyn i chi am yr wybodaeth hon i ddangos eich bod wedi gweithredu cyn pen mis
Os nad ydych chi'n deall yr hysbysiad dyfarniad ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth cyn gynted â phosibl.