Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut i wrthwynebu gordaliad credydau treth

Os bydd y Swyddfa Credyd Treth yn talu gormod o gredyd treth i chi, mae’n bosib y bydd yn gofyn i chi ei dalu’n ôl. Os gwnaeth gamgymeriad neu roi cyngor anghywir i chi, gallwch ofyn i’r Swyddfa edrych ar ei phenderfyniad eto. Gelwir hyn yn ‘wrthwynebiad’.

Gwrthwynebu gordaliad

Er mwyn gwrthwynebu’ch gordaliad, gallwch lenwi ffurflen TC846, a’i dychwelyd. Gallwch gael y ffurflen drwy ddilyn y ddolen isod.

Neu gallwch ysgrifennu at:

Y Swyddfa Credyd Treth / Tax Credit Office
Preston
PR1 4AT

Yn eich llythyr, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • rhoi eich manylion i gyd i’r Swyddfa Credyd Treth
  • dweud pam eich bod yn meddwl na ddylech orfod talu’ch gordaliad yn ôl

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Ar ôl i’r Swyddfa Credyd Treth gael eich ffurflen neu’ch llythyr, bydd yn ysgrifennu atoch i ddweud:

  • y bydd yn rhoi’r gorau i adennill y gordaliad nes y bydd wedi gorffen edrych ar fanylion eich gwrthwynebiad
  • beth fydd yn digwydd nesaf

Sut bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gwneud ei phenderfyniad

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn edrych i weld a ydych chi wedi cyflawni cyfrifoldebau penodol, ac a ydy’r Swyddfa hefyd wedi gwneud hynny. Er enghraifft, bydd yn sicrhau’r canlynol:

  • bod y Swyddfa wedi rhoi’r cyngor cywir i chi, yn seiliedig ar yr wybodaeth y gwnaethoch ei rhoi iddi
  • bod y Swyddfa wedi cofnodi a defnyddio'r wybodaeth y gwnaethoch ei rhoi iddi pan wnaethoch hawlio neu adnewyddu eich hawliad, a’i bod wedi gwneud hynny yn y modd cywir, er mwyn cyfrifo eich credydau treth a thalu'r swm cywir i chi
  • eich bod wedi rhoi gwybod i’r Swyddfa am unrhyw newid yn eich amgylchiadau drwy gydol y flwyddyn er mwyn gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth sydd ganddi yn gywir ac yn ddiweddar
  • eich bod wedi rhoi gwybod i’r Swyddfa am unrhyw gamgymeriadau ar eich hysbysiad dyfarniad o fewn mis ar ôl i chi ei gael

Mae’n bosib y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn dileu rhywfaint o’ch gordaliad, neu’r gordaliad cyfan, os oeddech chi wedi cyflawni eich cyfrifoldebau chi i gyd – ond na wnaethant gyflawni eu cyfrifoldebau nhw. Er enghraifft, os na wnaethant weithredu ynghylch newid mewn amgylchiadau y gwnaethoch roi gwybod amdano o fewn mis, neu os rhoddodd gyngor anghywir i chi.

Os gwnaethoch roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth nad oeddech yn gallu sicrhau bod eich hysbysiad dyfarniad na'r taliadau banc yn gywir oherwydd amgylchiadau eithriadol, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu gordaliad yn ôl. Er enghraifft, os oeddech chi neu aelod o'ch teulu'n ddifrifol sâl yn yr ysbyty.

Os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad

Pan fydd y Swyddfa Credyd Treth wedi gwneud ei phenderfyniad, bydd yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi:

  • a yw’n mynd i ddileu rhywfaint o’r gordaliad, neu’r gordaliad cyfan
  • a fydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl

Bydd y Swyddfa Credyd Treth hefyd yn rhoi gwybod i chi’r rheswm am ei phenderfyniad.

Os nad ydych yn hapus â’i phenderfyniad, a bod gwybodaeth newydd gennych, ysgrifennwch at y Swyddfa i roi’r wybodaeth newydd iddi cyn gynted â phosib. Bydd y Swyddfa’n rhoi’r gorau i adennill y gordaliad unwaith eto, ac yn ystyried yr wybodaeth newydd.

Mae’n bosib y bydd hefyd yn adolygu achos os byddwch yn teimlo nad yw wedi ystyried hen wybodaeth y gwnaethoch ei rhoi i’r Swyddfa. Fodd bynnag, bydd yn dechrau casglu’r gordaliad yn ôl pan fydd yn edrych ar yr wybodaeth hon.

Os nad oes gennych wybodaeth newydd, ond eich bod yn anhapus o hyd gyda phenderfyniad y Swyddfa, gallwch siarad â mudiad megis Cyngor ar Bopeth neu Cyngor Cyfreithiol Cymunedol. Bydd yn eich helpu i ystyried eich opsiynau.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU