Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Trafferthion wrth geisio ad-dalu eich credydau treth sydd wedi'u gordalu?

Os ydych chi wedi cael eich gordalu, bydd y Swyddfa Credyd Treth fel arfer yn gofyn i chi dalu’r arian ychwanegol yn ôl. Ond os yw hynny’n golygu na fyddwch yn gallu talu costau byw hanfodol megis biliau nwy neu drydan neu rent, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth er mwyn trafod eich opsiynau.

Os yw'ch taliadau wedi lleihau

Efallai bod y Swyddfa Credyd Treth wedi lleihau eich credydau treth er mwyn ad-dalu gordaliad. Os ydych chi'n ei chael yn anodd talu costau byw hanfodol oherwydd hyn, dylech gysylltu â nhw cyn gynted ag y bo modd er mwyn siarad am eich opsiynau. Gallwch wneud hyn drwy ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Gofynnir cwestiynau manwl i chi am eich amgylchiadau. Efallai y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn cynnig opsiwn i chi ymestyn y cyfnod ar gyfer ad-dalu'r arian drwy newid y gyfradd yr ydych

yn talu’r arian yn ôl. Os byddant yn gwneud hynny, bydd yn cymryd mwy o amser i chi dalu eich gordaliad.

Mewn amgylchiadau eithriadol, efallai y byddant yn diddymu eich gordaliad yn gyfan gwbl.

Os ydych chi wedi cael Hysbysiad i Dalu

Os oes gennych ordaliad o ddyfarniad blaenorol, bydd y Swyddfa Credyd Treth wedi anfon Hysbysiad i Dalu atoch. Bydd hwn yn gofyn i chi dalu'r swm llawn o fewn 30 diwrnod. Os nad ydych chi'n gallu gwneud hyn, gallwch drefnu i dalu'r arian yn ôl dros gyfnod o 12 mis.

Os oes arnoch angen mwy o amser i dalu o hyd, cysylltwch â'r Swyddfa Credyd Treth drwy ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth. Gallant fynd drwy'r opsiynau gyda chi ac mae'n bosib y byddant yn gallu:

  • lledaenu'r ad-daliad dros gyfnod hwy
  • symud y dyddiad y byddant yn dechrau casglu'r arian sy'n ddyledus iddynt yn ôl

Er mwyn i'r Swyddfa Credyd Treth allu gwneud penderfyniad ynghylch eich ad-daliadau, bydd angen i chi sôn wrthynt am:

  • eich amgylchiadau teuluol
  • eich incwm yn awr ac yn y dyfodol
  • eich costau byw, er enghraifft rhent, treth cyngor a biliau nwy neu drydan
  • eich cynilion, eich buddsoddiadau a'ch asedau eraill
  • eich dyledion eraill, er enghraifft ad-daliadau morgais
  • faint o amser y bydd yn ei gymryd i chi dalu'r gordaliad yn ôl
  • a ydych yn ad-dalu gordaliad blaenorol neu wedi ad-dalu un yn ddiweddar

Pan fyddant wedi gwneud eu penderfyniad, byddant yn dweud wrthych faint o arian y bydd angen i chi ei dalu'n ôl a faint o amser a gewch i'w ad-dalu.

Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosib y gallant ddweud wrthych nad oes angen i chi dalu'r gordaliad yn ôl am y tro, nes byddwch yn gallu trafod eich sefyllfa ariannol yn llawn. Er enghraifft, os ydych chi neu aelod o'ch teulu'n ddifrifol wael. Neu mae'n bosib y byddant yn diddymu eich gordaliad yn gyfan gwbl.

Os oes arnoch angen mwy o amser i dalu o hyd, cysylltwch â'r Llinell Gymorth ar gyfer Talu Credydau Treth ar 0845 302 1429 er mwyn trafod eich opsiynau.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU