Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Problemau gyda'ch credydau treth – ble mae dechrau

Os ydych chi’n credu bod rhywbeth wedi mynd o'i le gyda'ch credydau treth, mae digon o gymorth a chyngor ar gael i’ch helpu i weld beth sydd wedi digwydd ac i ddatrys unrhyw broblemau.

Nid yw eich hysbysiad dyfarniad yn gywir

Ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth ar unwaith os oes unrhyw beth ar eich hysbysiad dyfarnu’n anghywir, ar goll neu'n anghyflawn – neu os nad ydych chi’n deall rhywbeth.

Os byddwch yn dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth bod camgymeriad ar eich hysbysiad dyfarnu, bydd y Swyddfa yn ei gywiro ac yn anfon un newydd atoch chi.

Os yw eich amgylchiadau personol yn wahanol i’r hyn sydd ar eich hysbysiad dyfarnu, efallai nad ydych chi wedi rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau. Bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth am y rhan fwyaf o newidiadau cyn pen mis iddynt ddigwydd.

Bydd angen i chi roi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau yn gyflym i sicrhau’r canlynol:

  • na fydd gormod o gredydau treth yn cael eu talu i chi (‘gordaliad’) – byddai’n rhaid i chi dalu gordaliad yn ôl
  • na fyddwch yn colli arian y mae gennych chi hawl iddo – yn aml, dim ond hyd at un mis y gellir ôl-ddyddio arian

Gallwch chi roi gwybod am newidiadau drwy ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Problemau gyda’ch taliadau

Os na fydd eich taliad yn cyd-fynd â'r swm ar eich hysbysiad dyfarniad, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth cyn gynted â phosibl. Byddan nhw’n edrych i weld a ydy’ch dyfarniad wedi cael gyfrifo’n gywir ar sail y wybodaeth a roesoch i’r Swyddfa Credyd Treth.

Os bydd eich taliadau wedi dod i ben yn llwyr, efallai mai'r rheswm am hyn yw:

  • bod eich plentyn yn 16 oed ond nid ydych chi wedi dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth ei fod yn aros mewn addysg neu hyfforddiant sy’n gymwys ar gyfer credydau treth
  • nid ydych wedi rhoi manylion cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gerdyn Swyddfa’r Post®
  • rydych chi wedi newid manylion eich cyfrif banc a heb ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth
  • rydych chi wedi newid eich cyfeiriad a heb ddweud wrth y Swyddfa Credyd
  • nid ydych wedi adnewyddu eich credydau treth

Cysylltwch â'r Llinell Gymorth Credyd Treth os oes arnoch chi angen edrych i weld pam mae eich taliadau wedi dod i ben.

Problemau a chymorth eraill y bydd efallai ei angen arnoch

Efallai y bydd angen cymorth gan y Swyddfa Credyd Treth arnoch os:

  • nad ydych chi’n fodlon gyda’u penderfyniad ynglŷn â gordaliad
  • na allwch fforddio ad-dalu gordaliad
  • byddan nhw wedi gofyn i chi dalu dirwy
  • byddan nhw’n cynnal ymholiad i'ch dyfarniad

Gordaliadau

Os nad ydych chi’n cytuno y dylech chi dalu gordaliad yn ôl, bydd gennych chi’r hawl i wrthwynebu’r penderfyniad. Os na allwch chi fforddio ad-dalu gordaliad, ffoniwch y Llinell Gymorth Taliad Credyd Treth ar 0845 302 1429

Cosbau

Efallai y rhoddir cosb i chi:

  • os nad ydych chi wedi rhoi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth am newid yn eich amgylchiadau pan ddylech chi fod wedi gwneud hynny
  • os gwnaethoch roi’r wybodaeth anghywir ar eich cais am eich bod wedi bod yn esgeulus – hynny yw, ni wnaethoch ofalu bod yr wybodaeth y gwnaethoch ei rhoi yn gywir
  • os nad ydych chi wedi rhoi’r wybodaeth neu’r dystiolaeth y mae’r Swyddfa Credyd Treth wedi gofyn amdani

Mae gennych chi’r hawl i apelio yn erbyn unrhyw gosb.

Archwiliadau credyd treth

Os bydd y Swyddfa Credyd Treth yn penderfynu edrych dros eich dyfarniad, bydd y Swyddfa’n ysgrifennu atoch chi i egluro beth fydd yn digwydd.

Bydd hefyd yn gwneud y canlynol:

  • gofyn am ragor o wybodaeth i'w helpu i ddeall eich amgylchiadau
  • edrych ar eich dyfarniad neu gais yn llawn
  • esbonio eich hawliau, er enghraifft eich hawl i apelio yn erbyn canlyniad yr archwiliad neu unrhyw gosb

Os ydych chi’n poeni am hyn, neu os nad oes gennych chi’r holl wybodaeth y gofynnir i chi amdani, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth.

Apeliadau credydau treth

Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad:

  • os byddwch yn credu bod penderfyniad yn anghywir
  • os nad yw eich dyfarniad yn ystyried newid mewn amgylchiadau
  • os yw eich dyfarniad yn cael ei leihau neu’n dod i ben
  • os nad ydych chi’n cytuno â hysbysiad cosb
  • os codwyd llog arnoch

Mae bob amser yn werth siarad â’r Swyddfa Credyd Treth am y broblem cyn i chi apelio.

Sut mae cwyno

Os nad ydych chi’n fodlon â’r gwasanaeth rydych chi wedi’i gael, gallwch chi gwyno wrth y Rheolwr Cwynion Credydau Treth. Bydd yn ceisio unioni pethau cyn gynted â phosib.

Cymorth annibynnol

Os hoffech chi gael cymorth a chyngor, gallech chi siarad â sefydliad megis Cyngor ar Bopeth neu Gyngor Cyfreithiol Cymunedol.

Gallwch chi ofyn iddyn nhw siarad â’r Swyddfa Credyd Treth ar eich rhan. Ond ni allan nhw siarad â neb heb eich caniatâd chi.

Os byddwch chi’n gofyn i rywun weithredu ar eich rhan, bydd angen i chi roi caniatâd iddyn nhw, naill ai drwy lenwi ffurflen arbennig neu drwy ysgrifennu llythyr.

Allweddumynediad llywodraeth y DU