Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Credydau treth – sut i gwyno

Mae'r Swyddfa Credyd Treth yn gwneud ei gorau i gynnig gwasanaeth da, ond mae oedi a chamgymeriadau'n digwydd weithiau. Mae gennych chithau'r hawl i gwyno am wasanaeth gwael.

Pryd i gwyno

Os ydych wedi cael profiad gwael, rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth cyn gynted ag y bo modd. Efallai y byddwch am gwyno am y pethau hyn:

  • camgymeriadau y maent wedi'u gwneud yn eich tyb chi
  • oedi afresymol
  • y ffordd y cawsoch eich trin

Mae'r Swyddfa Credyd Treth yn awyddus i ddysgu o gamgymeriadau ac i gywiro pethau cyn gynted â phosib.

Sut i gwyno – camau cyntaf

Fel cam cyntaf, dylech gysylltu â'r Rheolwr Cwynion Credydau Treth drwy:

  • ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth
  • ysgrifennu at Reolwr Cwynion yn y Swyddfa Credyd Treth
  • mynd i unrhyw un o Ganolfannau Ymholiadau Cyllid a Thollau EM

Nid yw’n bosib i anfon cwynion ynghylch credydau treth drwy e-bost.

Dywedwch bopeth y gallwch am eich cwyn, gan gynnwys:

  • beth aeth o'i le
  • pryd y digwyddodd
  • gyda phwy y gwnaethoch ddelio
  • sut yr hoffech chi ddatrys y gŵyn

Os byddwch yn ysgrifennu llythyr i gwyno, ysgrifennwch 'Cwyn/Complaint' ar frig y llythyr a chynnwys eich:

  • enw llawn a'ch cyfeiriad
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif ffôn

Bydd y Rheolwr Cwynion yn ystyried eich pryderon ac yn cysylltu â chi – fel arfer o fewn 15 diwrnod gwaith. Maent yn ceisio datrys y rhan fwyaf o gwynion ar y cam hwn.

Os hoffech gymryd eich cwyn ymhellach

Os ydych yn anhapus â'r ymateb a gewch gan y Rheolwr Cwynion, gallwch ofyn iddynt edrych ar eich cwyn unwaith eto. Byddant:

  • yn edrych o'r newydd arni, ac ar y modd yr ymdriniwyd â hi
  • rhoi penderfyniad terfynol i chi

Gallwch wneud hyn drwy lythyr neu dros y ffôn, ond ni allwch gysylltu drwy e-bost.

Os ydych dal yn anfodlon

Os ydych yn anhapus ar ôl i’ch penderfyniad gael ei edrych arno eto, gallwch ofyn i’r Dyfarnwr ymchwilio i'ch cwyn. Mae'r Dyfarnwr yn gweithredu'n deg ac yn ddiduedd ac mae ei awgrymiadau’n annibynnol.

Bydd y Dyfarnwr ond yn edrych ar eich cwyn ar ôl i chi geisio ei datrys gyda’r Swyddfa Credyd Treth.

Gallwch hefyd ofyn i Aelod Seneddol gyfeirio'ch achos at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd. Bydd yr Ombwdsmon fel arfer yn disgwyl bod eich cwyn wedi cael ei hystyried gan y Swydda Credyd Treth a’r Dyfarnwr cyn iddynt ystyried eich achos.

Gallwch hefyd ofyn i'ch Aelod Seneddol godi'ch achos gyda Gweinidogion y Trysorlys neu Gyllid a Thollau EM.

Beth i'w ddisgwyl gan y Swyddfa Credyd Treth pan rydych yn cwyno

Os oes angen i chi gwyno bydd y Swyddfa Credyd Treth:

  • yn rhoi gwybod i chi ei bod wedi cael eich cwyn, pwy fydd yn delio â hi a phryd y bydd yn ymateb
  • yn cymryd eich cwyn o ddifrif ac yn ei thrin yn gyfrinachol
  • yn eich trin chi'n wahanol i bobl eraill am eich bod wedi cwyno
  • yn gwahaniaethu yn eich erbyn am unrhyw reswm

Hawlio costau yn ôl

Mae'n bosib y gallwch hawlio costau a oedd yn deillio o gamgymeriadau'r Swyddfa Credyd Treth, megis:

  • postio
  • galwadau ffôn
  • costau teithio
  • ffioedd proffesiynol
  • taliadau ariannol

Efallai y rhoddant daliad bach:

  • os gwnaethant achosi llawer o boen meddwl i chi
  • os deliwyd â'ch cwyn mewn ffordd annerbyniol
  • os gwnaethant gymryd gormod o amser i ddelio â'ch cwyn

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU