Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Archwiliadau credyd treth

Bob blwyddyn, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn archwilio miloedd o ddyfarniadau credyd treth er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn talu'r swm cywir o gredydau treth.

Beth yw gwiriad credyd treth?

Gwiriadau credyd treth yw pan fydd y Swyddfa Credyd Treth yn gwirio’r holl wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi iddynt. Ceir dwy fath o wiriad:

  • gwiriad o’ch hawliad am y flwyddyn dreth bresennol – a elwir yn ‘archwiliad’
  • gwiriad o’ch dyfarniad am flwyddyn dreth flaenorol – a elwir yn ‘ymholiad’

Mae blwyddyn dreth yn dechrau ar 6 Ebrill un flwyddyn ac yn dod i ben ar 5 Ebrill y flwyddyn wedyn.

Os bydd y Swyddfa Credyd Treth yn penderfynu archwilio eich dyfarniad neu'ch hawliad, byddant yn ysgrifennu atoch ac yn egluro beth sy'n digwydd yn ystod y broses archwilio. Byddant hefyd yn gwneud y canlynol:

  • gofyn am ragor o wybodaeth i'w helpu i ddeall eich amgylchiadau
  • edrych ar eich dyfarniad neu'ch hawliad yn llawn
  • esbonio eich hawliau, er enghraifft eich hawl i apelio yn erbyn canlyniad yr archwiliad neu unrhyw ddirwy

Beth fydd ei angen arnoch os yw'ch hawliad yn cael ei archwilio

Mae'n bosib y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gofyn i chi am gopïau o'r canlynol:

  • datganiadau banc a chymdeithas adeiladu
  • datganiadau cardiau credyd a chardiau talu
  • datganiadau morgais neu lyfrau rhent
  • biliau Treth Cyngor
  • hawliadau am Fudd-dal Tai
  • biliau’r cartref
  • papurau cyflog neu dystiolaeth arall o'ch incwm
  • gwybodaeth am eich amgylchiadau personol

Efallai y byddant hefyd yn gofyn am wybodaeth gan bobl fel eich cyflogwr neu'ch darparwr gofal plant.

Os bydd y Swyddfa Credyd Treth yn eich gofyn am i chi am ddogfennau gwreiddiol, gan gynnwys pasbortau neu ddogfennau adnabod eraill, byddant yn eu dychwelyd yn ddiogel. Ond efallai bydd y Swyddfa Credyd Treth yn cadw unrhyw un o’r dogfennau yr ydych wedi’u rhoi iddynt os na fyddant yn credu:

  • ei bod yn ddilys
  • mai chi sy’n berchen arno mewn gwirionedd

Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn ymateb?

Os na fyddwch yn darparu'r wybodaeth erbyn y dyddiad a welir ar y llythyr, gall y Swyddfa Credyd Treth leihau neu atal eich taliadau. Efallai y byddan nhw hefyd yn codi dirwy arnoch chi.

Felly bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • dweud wrthynt os na allwch anfon yr wybodaeth y maent wedi gofyn amdani
  • egluro'r rheswm dros yr oedi wrth ddarparu'r wybodaeth

Rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth os na allwch anfon yr wybodaeth, a'r rheswm am hynny.

Beth sy'n digwydd pan rydych chi wedi anfon yr holl wybodaeth?

Mae'n bosib y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn cwtogi neu'n atal eich taliadau os canfyddant:

  • bod eich taliadau'n rhy uchel
  • na ddylent fod yn talu credydau treth i chi o gwbl

Efallai y gofynnant i chi ad-dalu'r arian y maen nhw wedi'i ordalu i chi.

Os ydyn nhw'n talu gormod i chi oherwydd i chi fod yn ddiofal neu'n anonest wrth wneud eich hawliad, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy hefyd.

Os byddant yn gweld nad ydych yn cael digon o gredydau treth, byddant yn cynyddu eich taliadau.

Gofyn i rywun eich helpu

Os oes arnoch eisiau cymorth a chyngor, gallwch siarad â:

  • mudiad megis Cyngor Ar Bopeth neu'r gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol
  • cynghorydd proffesiynol

Gallwch chi ofyn iddyn nhw siarad â’r Swyddfa Credyd Treth ar eich rhan, ond ni allan nhw siarad â neb heb eich caniatâd chi.

Os byddwch chi’n gofyn i rywun weithredu ar eich rhan, bydd angen i chi roi caniatâd iddyn nhw, naill ai drwy lenwi ffurflen arbennig neu drwy ysgrifennu llythyr a'i anfon i'r Swyddfa Credyd Treth.

Eich hawliau yn ystod archwiliad credyd

Os bydd y Swyddfa Credyd Treth yn archwilio eich credydau treth, mae gennych hawl i:

  • apelio yn erbyn y penderfyniad
  • apelio yn erbyn canlyniad yr archwiliad
  • apelio yn erbyn dirwy
  • cael eich trin yn deg – a chwyno os na chewch chi

Mwy o ddolenni defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU