Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Credydau treth – pa waith papur ddylech chi ei gadw?

Rhag ofn y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gwirio eich manylion, mae'n syniad da i chi gadw gwaith papur penodol yn ddiogel. Mae hefyd yn ddefnyddiol i chi gadw eich llythyrau a’ch hysbysiadau dyfarnu gan y Swyddfa Credyd Treth – rhag ofn y bydd angen i chi apelio, er enghraifft. Yma cewch fwy o wybodaeth, gan gynnwys beth sy'n digwydd os byddwch chi'n colli eich gwaith papur.

Dogfennau y dylai pawb sy’n cael credydau treth eu cadw

Ar ôl i chi wneud, neu adnewyddu, eich hawliad credydau treth, efallai y bydd angen i'r Swyddfa Credyd Treth wirio eich manylion. Os bydd hyn yn digwydd, maent yn argymell i chi gadw'r gwaith papur canlynol.

Gwaith papur y cartref

Mae’r Swyddfa Credyd Treth yn argymell i chi gadw:

  • cyfriflenni cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
  • datganiadau morgais
  • cytundebau rhent
  • biliau treth cyngor
  • biliau cyfleustodau fel nwy, trydan, dŵr a ffôn, gan gynnwys ffonau symudol

Dogfennau personol

Mae’r Swyddfa Credyd Treth yn argymell i chi gadw:

  • cardiau meddygol y GIG
  • pasbort – os oes gennych un
  • tystysgrifau geni
  • gwaith papur ynghylch budd-daliadau eraill rydych chi’n eu cael, fel hysbysiadau dyfarnu
  • manylion llawn unrhyw incwm arall rydych chi, eich partner, neu’ch plant yn ei gael
  • manylion incwm a gwariant eich cartref
  • cofnodion o unrhyw arian rydych wedi’i gyfrannu at gynllun pensiwn cofrestredig
  • cofnodion o unrhyw roddion cymorth rhodd i elusen

Mae’n syniad da i chi gadw mathau eraill o waith papur hefyd. Darllenwch yr adrannau isod i gael gwybod beth arall mae’r Swyddfa Credyd Treth yn argymell i chi ei gadw.

Os ydych yn gweithio i gyflogwr

Os ydych chi’n gweithio i gyflogwr, mae'r Swyddfa Credyd Treth yn argymell i chi gadw'r canlynol rhag ofn y bydd angen iddynt wirio eich hawliad credydau treth:

  • eich holl dystysgrifau P60
  • unrhyw dystysgrifau P45 sydd gennych
  • unrhyw ffurflenni P11D rydych wedi'u cael, sy'n dangos costau a buddion trethadwy
  • slipiau cyflog
  • contractau cyflogaeth
  • os ydych chi’n aelod o gynllun aberthu cyflog – unrhyw waith papur rydych wedi’i gael ynghylch y cynllun, neu newidiadau i’ch contract cyflogaeth

Os ydych yn hunangyflogedig

Os ydych chi’n hunangyflogedig, mae'r Swyddfa Credyd Treth yn argymell i chi gadw'r canlynol rhag ofn y bydd angen iddynt wirio eich hawliad credydau treth:

  • eich Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw
  • manylion unrhyw archebion neu apwyntiadau rydych wedi’u derbyn neu eu gwneud
  • copïau o unrhyw hysbysebion rydych wedi’u gosod
  • manylion yr oriau rydych wedi’u gweithio bob wythnos
  • anfonebau rydych wedi’u hysgrifennu ar gyfer unrhyw waith a wnaed

Mae’n bwysig gwybod y ceir arweiniad gwahanol ar gyfer yr hyn y mae angen i chi ei gadw ar gyfer eich ffurflen dreth. At ddibenion busnes, mae’n debyg y bydd rhaid i chi gadw mwy o ddogfennau, ac am gyfnod hwy. I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.

Os oes gennych blant

Os oes gennych chi blant, mae'r Swyddfa Credyd Treth yn argymell i chi gadw'r canlynol rhag ofn y bydd angen iddynt wirio eich hawliad credydau treth:

  • pasbort eich plentyn, os oes ganddo un
  • tystysgrif geni eich plentyn, neu ei dystysgrif mabwysiadu
  • gwaith papur ynghylch y Budd-dal Plant
  • unrhyw ddogfennau sy’n dangos ble mae’ch plentyn yn byw – er enghraifft cardiau apwyntiadau ysbyty neu ddeintydd, neu gardiau meddygol
  • llythyrau neu adroddiadau gan ysgol eich plentyn yn cadarnhau ei fod yn mynychu’r ysgol
  • dogfennau’r Awdurdod Addysg i gadarnhau bod eich plentyn yn mynychu ysgol benodol, neu ar restr aros ar gyfer ysgol
  • unrhyw ddogfennau sy'n dangos bod eich plentyn mewn addysg neu hyfforddiant ar ôl iddo droi’n 16 oed
  • unrhyw ddogfennau sy’n dangos bod eich plentyn wedi cofrestru ar gyfer gwaith, addysg neu hyfforddiant gyda chorff cymeradwy – er enghraifft, gwasanaeth gyrfaoedd neu Connexions

Os ydych yn talu am ofal plant

Os ydych chi’n talu am ofal plant, mae'r Swyddfa Credyd Treth yn argymell i chi gadw'r canlynol rhag ofn y bydd angen iddynt wirio eich hawliad credydau treth:

  • eich contract â’ch darparwr gofal plant
  • unrhyw anfonebau gan eich darparwr gofal plant
  • unrhyw anfonebau am daliadau i’ch darparwr gofal plant

Os ydych wedi dod i'r DU o dramor

Os ydych chi’n hawlio credydau treth ac wedi dod i'r DU o dramor, mae’r Swyddfa Credyd Treth yn argymell i chi gadw'r canlynol:

  • unrhyw ddogfennau gan y Swyddfa Gartref
  • unrhyw ddogfennau ynghylch y Cynllun Cofrestru Gweithwyr sydd gennych
  • unrhyw Ddogfennau Awdurdodi Gweithwyr sydd gennych

Pam ddylech gadw eich gwaith papur?

Bob blwyddyn, mae’r Swyddfa Credyd Treth yn gwirio miloedd o hawliadau credyd treth i wneud yn siŵr eu bod yn talu’r swm cywir o gredydau treth.

Os bydd y Swyddfa Credyd Treth yn penderfynu gwirio eich hawliad, byddant yn gwirio’r holl wybodaeth rydych wedi’i rhoi iddynt. Byddant yn ysgrifennu atoch ac yn egluro beth sy’n digwydd a beth mae arnynt ei angen gennych chi. Fel rhan o’r broses wirio, gallent ofyn i chi am waith papur neu ddogfennau penodol, megis y rheini sydd wedi'u rhestru uchod.

Os bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gofyn am ddogfennau gwreiddiol, byddant yn eu dychwelyd yn ddiogel i chi. Ond os byddant yn credu nad yw unrhyw un o'r dogfennau a roddoch yn gopïau dilys, efallai y byddant yn eu cadw.

Eich gwaith papur a’ch hysbysiadau dyfarnu credydau treth

Yn ogystal â’r dogfennau uchod, mae’n ddefnyddiol i chi gadw unrhyw hysbysiadau dyfarnu neu lythyrau eraill y bydd y Swyddfa Credyd Treth yn eu hanfon atoch. Chi sydd i benderfynu am faint y byddwch yn eu cadw, ond mae’n syniad da eu cadw cyhyd ag y byddwch chi'n cael credydau treth.

Bydd y rhain yn ddefnyddiol pan fydd y Swyddfa Credyd Treth yn gofyn i chi ‘adnewyddu’ eich hawliad credydau treth bob blwyddyn. Gallent hefyd eich helpu os ydych chi’n meddwl bod rhywbeth wedi mynd o’i le gyda'ch credydau treth neu, er enghraifft, os ydych chi am apelio.

Am faint y dylech gadw’ch gwaith papur?

At ddibenion credydau treth, mae’n syniad da i chi gadw’r dogfennau sydd wedi’u rhestru ar y dudalen hon am y flwyddyn dreth gyfredol ac o leiaf y ddwy flwyddyn dreth cyn hynny (mae blwyddyn dreth yn dechrau ar 6 Ebrill un flwyddyn ac yn dod i ben ar 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol).

Ond mae’n bwysig gwybod efallai y bydd angen i chi gadw rhai dogfennau am fwy o amser at ddibenion treth neu fusnes – er enghraifft, tystysgrifau P60 neu gofnodion busnes os ydych chi’n hunangyflogedig.

Mae’r swyddfa Credyd Treth hefyd yn argymell i chi gadw eich hysbysiadau dyfarnu credydau treth (a llythyrau eraill y byddant yn eu hanfon atoch) cyhyd ag y byddwch chi'n cael credydau treth.

Rydych wedi colli eich gwaith papur

Os bydd eich ffurflen dreth yn cael ei gwirio ac nad oes gennych chi’r gwaith papur angenrheidiol, rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith. Bydd y manylion cyswllt ar y llythyr y maent wedi’i anfon atoch.

Efallai y bydd rhaid i chi ofyn am gopi arall o'r gwaith papur. Er enghraifft, os gofynnwyd i chi am ddatganiad banc a chithau wedi ei golli, efallai y bydd rhaid i chi gysylltu â’ch banc. Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn dweud wrthych a ydynt yn dymuno i chi wneud hyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU