Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pryd i wneud cais ar y cyd neu gais unigol am gredydau treth

Fel arfer, mae'n rhaid i chi wneud cais ar y cyd os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Ond gall ceisiadau ar y cyd fod yn gymwys mewn amgylchiadau eraill hefyd. Mynnwch wybod sut mae sefyllfaoedd cydberthnasau cyffredin yn effeithio ar y math o gais y dylech ei wneud - fel byw gyda'ch gilydd, dechrau byw gyda'ch gilydd neu wahanu.

Pam ei bod yn bwysig gwneud cais yn gywir

Un o'r rhesymau mwyaf cyffredin pam bod pobl yn cael gormod o gredydau treth ('gordaliad') yw eu bod yn hawlio fel unigolyn sengl yn hytrach nag fel cwbl.

Y rheswm am hyn yw y caiff unrhyw enillion neu incwm arall sydd gan eich partner ei ystyried wrth weithio allan eich credydau treth.

Fel arfer bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw ordaliadau a gellid hyd yn oed ofyn i chi dalu cosb.

Ar y llaw arall, gallech fod ar eich colled os byddwch yn gwneud cais fel cwpl pan ddylech fod wedi gwneud cais fel unigolyn

Rydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil - ac mae'r ddau ohonoch yn y DU

Dylech wneud cais ar y cyd - oni bai bod un o'r canlynol yn gymwys. Os felly, dylech wneud cais unigol.

  • rydych wedi gwahanu o dan orchymyn llys
  • rydych wedi gwahanu ac mae hyn yn debygol o fod yn drefniant parhaus

Mae partneriaethau sifil yn gyfystyr â phriodas i gyplau o'r un rhyw.

Enghraifft o gais ar y cyd

Mae Pauline a John wedi bod yn briod ers 15 mlynedd ac mae ganddynt dri o blant. Maent wedi tyfu ar wahân ac nid ydynt yn treulio fawr ddim amser gyda'i gilydd. Mae John yn cael y rhan fwyaf o'i brydau gyda'r nos yn y dafarn ond mae'n dal i fyw gyda Pauline yn yr un cyfeiriad. Weithiau bydd John yn rhoi arian i Pauline tuag at filiau'r cartref. Mae Pauline a John wedi penderfynu na fyddant yn gwahanu hyd nes y bydd y plant yn hŷn.

Dylai Pauline a John wneud cais ar y cyd am eu bod yn dal yn briod, ac nad ydynt wedi gwahanu'n gyfreithiol nac yn barhaus.

Nid ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil - ac mae'r ddau ohonoch yn y DU

Mae p'un a fyddwch yn gwneud cais ar y cyd neu gais unigol yn dibynnu ar ffactorau fel:

  • ble mae'r ddau ohonoch yn byw
  • p'un a ydych yn byw gyda rhywun fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil ai peidio
  • os ydych mewn perthynas newydd

Mae'r adrannau canlynol yn cwmpasu rhai sefyllfaoedd cyffredin, gan gynnwys enghreifftiau a all fod yn ddefnyddiol i chi.

Rydych fel arfer yn byw gyda phartner

Dylech wneud cais ar y cyd os ydych yn byw gyda phartner fel pe baech yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Gallwch anwybyddu cyfnodau byr o amser pan fo'ch partner oddi cartref, er enghraifft, ar wyliau, yn gweithio i ffwrdd neu yn yr ysbyty.

Rydych fel arfer yn byw gyda phartner - enghraifft o gais ar y cyd

Mae Mary a Derek wedi bod yn gwpl ers ychydig fisoedd. Mae Derek yn gweithio fel gyrrwr lori pellter hir ac mae i ffwrdd sawl diwrnod ar y tro, ac yn cysgu yng nghaban ei lori yn ystod y cyfnod hwnnw. Maent yn penderfynu dechrau byw gyda'i gilydd. Dylai Mary a Derek wneud cais ar y cyd cyn gynted ag y byddant yn dechrau byw gyda'i gilydd.

Rydych yn byw ar wahân i'ch partner dros dro

Efallai eich bod yn byw ar wahân i'ch partner dros dro, er enghraifft, mae un ohonoch yn gofalu am berthynas oedrannus. Os felly, dylech wneud cais ar y cyd.

Rydych yn byw ar wahân i'ch partner dros dro - enghraifft o gais ar y cyd

Mae Hajrah yn byw yn Durham ac mae Mo yn gweithio yn Hastings. Maent yn penderfynu dechrau byw gyda'i gilydd, ac mae Mo yn symud at Hajrah, ond yn cadw ei fflat yn Hastings fel y gall aros yno pan fydd yn gweithio. Dylai Hajrah a Mo wneud cais ar y cyd pan fyddant yn dechrau byw gyda'i gilydd.

Rydych wedi gwahanu oddi wrth eich partner

Os nad ydych yn byw gyda'ch partner fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil mwyach, dylech wneud cais unigol.

Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth yn syth os byddwch yn mynd yn ôl at eich gilydd. Efallai y bydd angen i chi wneud cais newydd fel cwpl.

Mae gennych berthynas anwadal â'ch partner - enghraifft

Mae Kelly a Dean yn byw gyda'i gilydd ond maent yn ffraeo'n aml ac mae Dean yn cysgu ar soffa ei fam, yna maent yn cymodi ac mae'n dychwelyd. Ni fyddai hyn yn effeithio ar eu cais ar y cyd am eu bod yn dal i fyw gyda'i gilydd. Ond yna mae Dean yn penderfynu dod â'r berthynas i ben, ac mae'n mynd yn ôl i fyw gyda'i fam. Dylai Kelly wneud cais unigol cyn gynted ag y byddant yn penderfynu peidio â byw gyda'i gilydd mwyach.

Ychydig yn ddiweddarach, mae Kelly a Dean yn penderfynu mynd yn ôl at ei gilydd, er bod Dean yn bwriadu parhau i dreulio ambell noson yn nhŷ ei fam. Dylai Kelly a Dean wneud cais newydd ar y cyd cyn gynted ag y byddant yn dechrau byw gyda'i gilydd eto.

Mae gennych bartner newydd

Efallai eich bod wedi dechrau perthynas newydd â rhywun ac nad ydych yn siŵr sut y bydd pethau'n datblygu. Gallai fod yn berthynas achlysurol ar y cam hwn, ond gallai ddatblygu'n rhywbeth mwy parhaol.

Dylech wneud cais ar y cyd os bydd y naill neu'r llall o'r canlynol yn digwydd:

  • byddwch yn dechrau byw gyda'ch partner fel petaech yn briod neu mewn partneriaeth sifil
  • byddwch yn priodi neu'n ymrwymo i bartneriaeth sifil - hyd yn oed os nad ydych yn byw gyda'ch gilydd

Mae gennych bartner newydd - enghraifft o gais ar y cyd

Mae Gail a Barry wedi bod yn cael perthynas â'i gilydd ers tro. Mae Barry bellach yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn nhŷ Gail, ac maent yn bwyta, yn cysgu ac yn cymdeithasu gyda'i gilydd. Mae'n helpu gyda DIY ac yn rhoi arian iddi tuag at gostau bwyd a biliau. Mae'n dychwelyd at ei fam am noson bron bob wythnos er mwyn casglu ei bost a threulio amser gyda'i deulu a'i ffrindiau.

Dylai Gail a Barry wneid cais ar y cyd.

Rydych chi - neu eich partner - yn gweithio y tu allan i'r DU

Efallai eich bod yn briod neu'n bartneriaid sifil, neu'n byw gyda'ch gilydd fel petaech yn briod neu'n bartneriaid sifil, ac mae un ohonoch yn gweithio neu'n byw y tu allan i'r DU.

Mae p'un a fyddwch yn gwneud cais unigol neu gais ar y cyd yn dibynnu ar bethau fel:

  • y wlad lle rydych chi neu'ch partner yn byw neu'n gweithio
  • am faint y mae'r unigolyn sydd dramor i ffwrdd - a'r rheswm pam ei fod i ffwrdd

Mae'r adrannau isod yn disgrifio rhai sefyllfaoedd cyffredin, a all fod yn ddefnyddiol i chi. Ond i gael mwy o wybodaeth am ba fath o gais i'w wneud, dilynwch y ddolen isod.

Mae eich partner yn gweithio dramor am gyfnodau byr - enghraifft o gais ar y cyd

Mae Marie a Dave yn byw gyda'i gilydd. Mae Dave wedi dechrau gweithio fel gyrrwr bysys ac mae'n gyrru dramor, gan fynd â grwpiau ar wyliau i Ewrop. Gall Dave fod i ffwrdd am hyd at bythefnos ar y tro, ond mae fel arfer yn dychwelyd i dŷ Marie pan nad yw'n gweithio. Dylai Marie a Dave wneud cais ar y cyd.

Os bydd Dave byth i ffwrdd o'r DU am fwy nag wyth wythnos, bydd eu cais ar y cyd yn dod i ben. Dylent ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth yn syth os bydd hyn yn digwydd.

Bydd Marie wedyn yn gallu gwneud hawliad unigol – os yw’n gymwys – hyd nes y bod Dave nôl yn y DU.

Rydych chi - neu'ch partner - yn un o weision y Goron sydd wedi'i anfon dramor

Os yw un ohonoch yn un o 'weision y Goron' sydd wedi'i anfon dramor, dylech wneud cais ar y cyd. Ystyr 'gwas y Goron' yw rhywun sy'n gweithio i lywodraeth y DU, er enghraifft, fel gwas sifil neu aelod o'r lluoedd arfog.

Rydych yn teithio i’r DU neu yn ôl o’r DU i weithio

Os ydych yn teithio’n rheolaidd i’r DU neu o’r DU i weithio, rydych yn weithiwr ‘trawsffiniol’. Er enghraifft, efallai eich bod yn byw yng Ngweriniaeth Iwerddon ac yn teithio i’r DU i weithio. Neu efallai eich bod yn byw yn y DU, ond yn teithio i wlad arall, fel Ffrainc, i weithio.

Gweithwyr trawsffiniol - pryd i wneud cais unigol

Dylech wneud cais unigol os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn byw yn y DU ac nid oes gennych bartner
  • rydych yn byw mewn gwlad arall, nid oes gennych blant, ac nid yw’ch partner (os oes un gennych) yn gweithio yn y DU

Gweithwyr trawsffiniol - pryd i wneud cais ar y cyd

Dylech wneud cais os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi a’ch partner yn byw yn y DU
  • rydych yn byw mewn gwlad arall gyda phartner, rydych chi’ch dau yn gweithio yn y DU, ac nid oes gennych unrhyw blant
  • rydych yn byw mewn gwlad AEE arall neu’r Swistir, ac mae gennych blant hefyd

Hawlio fel cwpl - faint o gredydau treth y byddwch yn ei gael?

Gallech gael yr un faint o gredydau treth fel cwpl ag y byddech yn ei gael fel unigolyn sengl. Er enghraifft, os oes gennych blentyn a'ch bod yn symud i fyw gyda phartner nad yw'n gweithio.

Gallwch ddefnyddio'r tablau hawliau i gael syniad bras o'r credydau treth y gallech eu cael ar sail eich incwm ar y cyd a'ch amgylchiadau. Neu, i gael syniad gwell o faint y gallech ei gael, mae cyfrifydd ar-lein hefyd y gallwch ei ddefnyddio.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Swyddfa Credyd Treth

Rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth - o fewn mis - am unrhyw newidiadau i'ch perthynas a all effeithio ar eich credydau treth. Er enghraifft, os byddwch yn:

  • gwahanu oddi wrth eich partner, ac rydych wedi bod yn cael credydau treth fel cwpl
  • dechrau byw gyda phartner newydd, ac rydych wedi bod yn hawlio fel unigolyn sengl
  • dechrau byw gyda chynbartner eto, ac rydych wedi bod yn hawlio fel unigolyn sengl

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU