Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Nid yw'ch teulu'n byw yn y DU - allwch chi gael credydau treth?

Os ydych chi yn y DU ond mae eich teulu'n byw mewn gwlad Ewropeaidd arall neu'r Swistir, efallai byddwch chi'n gallu cael credydau treth. Ni allwch hawlio ar gyfer plentyn y tu allan i Ewrop neu'r Swistir (un eithriad yw os ydych chi neu’ch partner yn un o Weision y Goron sy'n gweithio dramor).

Os nad yw eich partner yn y DU - ac nid oes gennych chi blant

Os ydych chi wedi dod i'r DU ac rydych chi'n gweithio, efallai bod eich partner wedi aros yn ei wlad neu ei gwlad ei hun. Yn yr achos hwn, fel rheol dim ond Credyd Treth Gwaith fel person sengl gewch chi.

Os bydd eich partner yn ymuno â chi yn y DU bydd arnoch angen rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth cyn pen un mis. Mae hyn oherwydd efallai y bydd eich taliadau credyd treth yn newid.

Os oes gennych chi bartner - a phlentyn - y tu allan i'r DU

Os ydych chi'n gweithio, fel rheol dim ond Credyd Treth Gwaith fel person sengl gewch chi.

Oherwydd bod gennych chi blentyn, efallai y cewch Gredyd Treth Plant hefyd os:

  • ydych chi'n gweithio yn y DU
  • mae gennych hawl i breswylio yn y DU
  • ydych chi'n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yma
  • ydy eich plentyn yn byw mewn gwlad yn Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir ac yn byw gyda'ch partner neu rywun arall – ac yn dibynnu arnoch chi i’w cefnogi’n ariannol

Chewch chi ddim hawlio ar gyfer plentyn sy'n byw'r tu allan i Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir. Eithriad i hyn yw os ydy eich partner yn un o Weision y Goron sy'n gweithio dramor.

Os ydy eich partner a phlentyn yn ymuno â chi yn y DU, bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Dreth o fewn un mis. Mae hyn oherwydd y mae’n bosib y bydd eich taliadau credydau treth yn newid.

Os ydy eich plentyn yn byw'r tu allan i'r DU gyda'ch cyn-bartner

Os ydych chi'n gweithio, fel rheol dim ond Credyd Treth Gwaith fel person sengl gewch chi.

Efallai byddwch chi hefyd yn gallu cael Credyd Treth Gwaith os:

  • ydych yn gweithio yn y DU
  • mae gennych hawl i breswylio yn y DU
  • ydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y DU
  • mae eich plentyn yn byw gyda'ch cyn-bartner mewn gwlad yn Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir, a'u bod yn dibynnu arnoch chi'n bennaf i'w cynnal

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn dibynnu arnoch chi mewn gwirionedd i’w cefnogi’n ariannol. Efallai byddant yn gwneud yn siŵr eich bod yn gwneud taliadau rheolaidd ar eu cyfer. Gallent hefyd wirio a ydy eich cynbartner yn gweithio neu’n cael eu budd-daliadau teulu eu hunain, oherwydd efallai y gall hyn effeithio ar faint o gredydau treth y gewch chi.

Gwledydd yn Ardal Economaidd Ewrop

Y gwledydd sydd yn Ardal Economaidd Ewrop ynghyd â'r DU yw'r Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Groeg, Gwlad Belg, Gwlad yr Iâ, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Romania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, Sweden a'r Weriniaeth Tsiec.

Mae eich partner yn cael budd-daliadau mewn gwlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop neu yn y Swistir

Os oes gennych chi blant, ac mae gwlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop yn talu budd-daliadau i'ch partner, gall y rhain effeithio ar eich credydau treth.

Bydd rhai budd-daliadau'n cael eu cyfrif fel incwm, er enghraifft budd-daliadau sy'n cael eu talu oherwydd diweithdra, ond ni fydd rhai eraill - megis budd-daliadau teulu - yn cael eu cyfri. Ond os oes gwlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop yn talu budd-daliadau teulu i'ch partner, gall hyn effeithio ar faint o Gredyd Treth Plant y cewch eich talu.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU