Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Allwch chi hawlio credydau treth os ydych chi'n byw y tu allan i'r DU?

Os ydych chi'n un o Weision y Goron wedi’i leoli dramor, neu os ydych chi’n byw dramor ond yn gweithio yn y DU (gweithiwr ‘trawsffiniol’) gallech fod yn gymwys i gael credydau treth. Gallech chi hefyd fod yn gymwys os ydych chi’n byw y tu allan i’r DU, ond bod gennych chi blentyn a’ch bod yn cael budd-daliadau neu Bensiwn y Wladwriaeth gan y DU.

Os ydych chi’n un o Weision y Goron wedi’i leoli dramor

Pan fyddwch yn gweithio i Lywodraeth y DU, er enghraifft, fel gwas sifil neu fel aelod o'r lluoedd arfog rydych chi'n un o Weision y Goron. Os oes rhaid i chi weithio dramor, mae'n bosib y bydd modd i chi hawlio credydau treth, yn union fel pe baech yn byw yn y DU. Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn eich trin fel pe baech yn y DU os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n 'preswylio fel arfer' yn y DU, neu roeddech chi'n 'preswylio fel arfer' yn y DU cyn i chi gael eich lleoli dramor
  • rydych chi wedi cael eich lleoli dramor sawl gwaith heb unrhyw doriad yn y canol - ac rydych chi’n chi'n 'preswylio fel arfer' yn y DU neu roeddech chi'n 'preswylio fel arfer' yn y DU cyn y tro cyntaf i chi gael eich lleoli
  • roeddech chi yn y DU cyn i chi gael eich lleoli dramor, ac roedd eich rheswm dros fod yn y DU yn gysylltiedig â'ch lleoliad – gall hyn fod yn berthnasol i un lleoliad neu i gyfres ohonynt

Preswylio fel arfer

Mae 'preswylio fel arfer' yn golygu eich bod fel arfer yn byw yn y DU, a'ch bod yn bwriadu aros yma am y tro. Pan fydd y Swyddfa Credyd Treth yn penderfynu a ydych yn preswylio fel arfer yn y DU ai peidio, bydd yn ystyried pethau fel:

  • lle mae eich cartref sefydlog
  • lle mae eich teulu agos yn byw
  • pam y daethoch i'r DU
  • a ydych chi'n bwriadu gadael y DU yn barhaol yn y ddwy neu dair blynedd nesaf

Os yw'ch partner yn un o Weision y Goron wedi’i leoli dramor

Os yw'ch partner yn un o Weision y Goron sydd wedi’i leoli y tu allan i'r DU, efallai y bydd modd i chi hawlio credydau treth os ydych chi:

  • yn byw gyda'ch partner tra'i fod yn gweithio dramor
  • yn byw yn y DU tra mae'ch partner yn gweithio dramor

Does dim angen i chi fod yn preswylio'n arferol yn y DU yn ystod y cyfnod y byddwch gyda'ch partner, sy'n un o Weision y Goron, mewn gwlad dramor.

Os ydych chi’n weithiwr trawsffiniol

Os ydych chi'n teithio'n rheolaidd o wlad arall i weithio yn y DU, efallai y byddwch yn gallu cael Credyd Treth Gwaith. Er enghraifft, efallai eich bod yn teithio o Weriniaeth Iwerddon neu Ffrainc i weithio yn y DU. Os oes gennych chi blentyn, efallai y cewch chi Gredyd Treth Plant hefyd.

Mae'r credydau treth – a'r swm – a gewch yn dibynnu ar eich incwm a'ch amgylchiadau.

Os oes gennych chi blentyn – a’ch bod yn cael budd-daliadau neu Bensiwn y Wladwriaeth gan y DU

Os nad oes un o'r adrannau uchod yn berthnasol i chi, mae'n bosib y gallwch hawlio Credyd Treth Plant os yw’r ddau o’r canlynol yn gymwys:

  • rydych chi a’ch plentyn yn byw yn un o aelod-wladwriaethau’r UE
  • rydych chi’n cael budd-dal penodol, neu Bensiwn y Wladwriaeth, gan y DU

Bydd yn rhaid i chi gael o leiaf un o’r canlynol:

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Budd-dal Gwraig Weddw
  • Budd-dal Profedigaeth
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau
  • Lwfans Anabledd Difrifol

Os nad ydych chi’n byw yn un o aelod-wladwriaethau’r UE, ni fyddwch yn gallu cael Credydau Treth Plant. Yr eithriad i hyn yw os ydych chi (neu’ch partner) yn un o Weision y Goron wedi’i leoli dramor. Gweler yr adrannau uchod i gael rhagor o wybodaeth.

Aelod-wladwriaethau'r UE

Mae’r gwledydd canlynol, ynghyd â’r DU, yn aelod-wladwriaethau'r UE:

Yr Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Gweriniaeth Tsiec, Gwlad Belg, Gwlad Groeg, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Portiwgal, Romania, Sbaen, Slofacia, Slofenia, a Sweden.

Pa wledydd sy’n rhan o’r Deyrnas Unedig (DU)?

Mae'r DU yn cynnwys:

  • Lloegr
  • Yr Alban
  • Cymru
  • Gogledd Iwerddon

Nid yw'n cynnwys Ynys Manaw nac Ynysoedd y Sianel.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Newidiadau i gredydau treth o 6 Ebrill

Cael gwybod am y newidiadau sy’n digwydd i gredydau treth o 6 Ebrill 2012 – a sut allai eich hawl gael ei effeithio

Sut i hawlio

Ble i gael y ffurflen hawlio credydau treth a phwy ddylai wneud yr hawliad

Allweddumynediad llywodraeth y DU