Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Credydau treth: effaith newidiadau yn y Gyllideb o 6 Ebrill 2012

Digwyddodd newidiadau i gredydau treth o 6 Ebrill 2012. Roedd y rhain yn cynnwys terfyn incwm is ar gyfer Credyd Treth Plant. Ar gyfer cyplau (ond nid pobl sengl) sydd â phlant, mae rheolau oriau gwaith newydd ar gyfer Credyd Treth Gwaith. Mae'r cyfnod y gellir ôl-ddyddio taliadau hefyd wedi newid. Mynnwch wybod am y newidiadau hyn a'r holl newidiadau eraill, a sut y gallent fod wedi effeithio arnoch.

Mae terfyn incwm Credyd Treth Plant wedi gostwng

Mae taliadau Credyd Treth Plant yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch incwm.

Cyn mis Ebrill 2012, gallwch fel arfer fod wedi cael rhywfaint o Gredyd Treth Plant, ar yr amod nad oedd eich incwm dros y terfyn o £41,300. O 6 Ebrill 2012, mae’r terfyn hwn yn is ar gyfer y rhan fwyaf o bobl.

Mae eich terfyn incwm bellach yn dibynnu ar eich sefyllfa chi eich hun. Ond fel canllaw bras, efallai na fyddwch yn cael Credyd Treth Plant o 6 Ebrill 2012:

  • os oes gennych un plentyn, a bod eich incwm blynyddol yn fwy na tua £26,000
  • os oes gennych ddau o blant, a bod eich incwm blynyddol yn fwy na tua £32,200

Ond mae'n bwysig gwybod y canlynol:

  • canllaw bras yw hwn
  • efallai y bydd eich terfyn incwm chi yn wahanol, gan ei fod yn dibynnu ar eich amgylchiadau chi eich hun

Gallech fod yn gymwys o hyd os yw eich incwm yn uwch na'r rhain. Er enghraifft, os ydych yn talu am ofal plant cofrestredig neu gymeradwy, os oes gennych fwy nag un neu ddau o blant, os oes gennych anabledd neu os oes gan eich plentyn anabledd.

Gallwch ganfod sut y caiff eich taliadau chi eich hun eu heffeithio drwy edrych ar eich hysbysiad dyfarnu ar gyfer 6 Ebrill 2011 hyd at 5 Ebrill 2012.

Gallwch hefyd ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein i gyfrifo’n fras faint o gredydau treth y gallwch eu cael rhwng dyddiad heddiw a 5 Ebrill 2013.

Cyplau â phlant - rheolau oriau gwaith newydd ar gyfer Credyd Treth Gwaith

Cyn mis Ebrill 2012, roedd cyplau a oedd yn gyfrifol am blant, gydag un partner yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, yn gallu cael Credyd Treth Gwaith.

O 6 Ebrill 2012, mae’r rheolau ar gyfer cyplau â phlant wedi newid. Ni fydd pobl sengl sy’n gyfrifol am blant (er enghraifft rhieni sengl) yn cael eu heffeithio gan y rheolau newydd.

Os ydych chi’n gwpl â phlant, fel arfer bydd angen i’ch oriau gwaith ar y cyd fod o leiaf 24 awr er mwyn bod yn gymwys bellach.

Mae hyn yn golygu:

  • os yw'r ddau ohonoch yn gweithio, bydd yn rhaid i'ch oriau gwaith ar y cyd fod o leiaf 24 awr yr wythnos, gydag un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • os mai dim ond un ohonoch sy'n gweithio, mae'n rhaid i'r unigolyn hwnnw weithio o leiaf 24 awr yr wythnos

Os nad yw’r un o'r rhain yn gymwys, bydd eich Credyd Treth Gwaith wedi dod i ben o 6 Ebrill 2012. Ond mae rhai eithriadau i'r rheolau newydd, a rhestrir y rhain isod.

Os yw unrhyw un o’r eithriadau yn gymwys i chi, ffoniwch y Linell Gymorth Credyd Treth yn syth – efallai y gallwch gael Credyd Treth Gwaith o hyd.

Os yw un ohonoch yn 60 oed neu drosodd

Byddwch yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith cyn belled â bod yr unigolyn sy'n 60 oed neu drosodd yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos.

Os yw un ohonoch yn cael Credyd Treth Gwaith ychwanegol oherwydd anabledd

Byddwch yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith os yw'r ddau o'r canlynol yn gymwys i'r unigolyn anabl:

  • mae'n gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • mae'n gymwys ar gyfer 'elfen anabledd' Credyd Treth Gwaith

Os yw un ohonoch yn sâl neu’n anabl, yn glaf mewnol yn yr ysbyty neu yn y carchar

Byddwch yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith os yw un ohonoch yn gweithio 16 awr yr wythnos neu fwy, a bod y llall:

  • yn ‘analluog’ – mae hyn yn golygu ei fod yn sâl neu’n anabl ac yn cael budd-daliadau penodol, neu mewn amgylchiadau penodol yn derbyn credydau Yswiriant Gwladol
  • yn glaf mewnol yn yr ysbyty
  • yn y carchar - yn bwrw dedfryd o garchar neu wedi'i remandio yn y ddalfa tra'n aros am dreial neu ddedfryd

Os mae gan un ohonoch hawl i gael Lwfans Gofalwr

Byddwch yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith os yw un ohonoch yn gweithio 16 awr yr wythnos neu fwy, ac mae gan y llall hawl i gael Lwfans Gofalwr. Bydd hyn yn golygu un o’r canlynol:

  • maent yn cael eu talu Lwfans Gofalwr
  • maent yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr, ond nad ydynt yn cael unrhyw daliadau oherwydd maent yn cael budd-daliadau eraill yn lle

Os bydd hyn yn berthnasol i chi, gallech hefyd gael cymorth bellach gyda chostau gofal plant cofrestredig neu gymeradwy. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Mae eich incwm yn gostwng - newid i'r ffordd y mae'n effeithio ar eich taliadau

Cyn mis Ebrill 2012, os gostyngodd eich incwm blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, yn aml roeddech yn gallu cael credydau treth ychwanegol ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol. Mae blwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill mewn un flwyddyn i 5 Ebrill yn y flwyddyn nesaf.

O 6 Ebrill 2012, os bydd eich incwm yn gostwng, efallai na fydd yn effeithio ar eich taliadau tan y flwyddyn ganlynol. Ond bydd hyn yn dibynnu ar faint y mae eich incwm wedi gostwng.
Dylech bob amser roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am eich incwm is newydd i helpu i sicrhau eich bod yn cael yr hyn y mae gennych hawl iddo.

Os yw eich incwm yn gostwng yn ystod y flwyddyn dreth bresennol £2,500 neu lai

Ni fydd eich taliadau yn newid ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol - os yw pob un o'ch amgylchiadau eraill yn aros yr un fath. Ond bydd y Swyddfa Credyd Treth yn defnyddio ffigur eich incwm newydd i weithio allan faint i'w dalu i chi y flwyddyn nesaf.

Os yw eich incwm yn gostwng mwy na £2,500 yn ystod y flwyddyn dreth bresennol

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn ailgyfrifo eich credydau treth. Ond bydd yn anwybyddu'r £2,500 cyntaf o'r gostyngiad. Bydd yn ystyried swm llawn y gostyngiad wrth weithio allan faint i'w dalu i chi y flwyddyn nesaf.

Newidiadau i'r cyfnod y gellir ôl-ddyddio taliadau

Gwneud cais newydd am gredydau treth

Cyn mis Ebrill 2012, roedd y Swyddfa Credyd Treth yn gallu talu credydau treth am hyd at dri mis cyn y dyddiad yr oeddent yn cael eich ffurflen gais. Gelwir hyn yn 'ôl-ddyddio' eich cais.

O 6 Ebrill 2012, cafodd y cyfnod hwn ei ostwng i fis. Bellach, pan fydd y Swyddfa Credyd Treth yn cael eich cais, dim ond hyd at fis y byddant yn gallu ei ôl-ddyddio.

Mae'r newid hwn yn golygu y gallech golli arian os byddwch yn oedi cyn gwneud cais. Er enghraifft, os cewch fabi ar 1 Mehefin, ond na fydd eich cais yn cyrraedd tan 1 Awst, dim ond o 1 Gorffennaf y bydd eich taliadau'n dechrau. Byddwch yn colli taliad ar gyfer mis.

Rhoi gwybod am newidiadau

Cyn mis Ebrill 2012, os oedd newid yn golygu yr oedd eich taliadau yn codi, fel arfer cafodd y swm uwch ei ôl-ddyddio am hyd at dri mis.

O 6 Ebrill 2012, cafodd y cyfnod hwn ei ostwng i fis. Bellach, os ydych yn rhoi gwybod am newid sy'n golygu bod eich taliadau yn codi, dim ond hyd at fis y caiff y swm uwch ei ôl-ddyddio.

Er mwyn sicrhau y caiff eich taliadau uwch eu hôl-ddyddio i'r dyddiad cynharaf posibl, dylech roi gwybod am bob newid o fewn mis.

Os cewch yr 'elfen 50 oed a throsodd' – mae hwn wedi dod i ben

Os oeddech yn cael swm ychwanegol y Credyd Treth Gwaith, sef yr 'elfen 50 oed a throsodd', daeth hwn i ben o 6 Ebrill 2012.

Mae hyn yn golygu y gallai eich taliadau fod wedi gostwng o 6 Ebrill 2012.

Mae'r newid hwn hefyd yn golygu y gallai eich Credyd Treth Gwaith fod wedi dod i ben yn llwyr, oni bai eich bod yn gweithio nifer penodol o oriau. Ceir esboniad o hyn yn yr adran nesaf.

Os ydych yn 50 oed neu drosodd - newidiadau i oriau gwaith

Cyn mis Ebrill 2012, os oeddech yn cael yr 'elfen 50 oed a throsodd', dim ond o leiaf 16 awr yr wythnos yr oedd angen i chi eu gweithio er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith.

Gan fod yr elfen 50 oed a throsodd wedi dod i ben, o 6 Ebrill 2012 efallai mae eich taliadau wedi dod i ben yn llwyr os nad ydych yn gweithio nifer penodol o oriau. Os byddwch yn cynyddu nifer yr oriau rydych yn eu gweithio, efallai y bydd gennych hawl i gael Credyd Treth Gwaith unwaith eto.

Bydd angen i chi weithio'r oriau canlynol i fod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith bellach.

Os nad ydych yn gyfrifol am blant

Bydd angen i chi - neu eich partner os oes un gennych - weithio o leiaf:

  • 30 awr yr wythnos
  • 16 awr yr wythnos - os ydych yn 60 oed neu drosodd, neu os oes gennych hawl i 'elfen anabledd' Credyd Treth Gwaith

Os ydych yn gyfrifol am blant

Byddwch yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith os yw un o'r canlynol yn gymwys:

  • rydych yn sengl ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • rydych mewn cwpl ac yn bodloni'r rheolau oriau newydd ar gyfer cyplau - gweler yr adran uchod

Cyfraddau credydau treth

Mae newidiadau wedi bod i rai o gyfraddau (neu 'elfennau') credydau treth. Un o’r newidiadau hyn yw bod uchafswm elfen plant y Credyd Treth Plant wedi codi o £2,555 i £2,690.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod beth yw’r cyfraddau credydau treth newydd.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU