Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Enghreifftiau o newidiadau i gredydau treth yn sgîl y Gyllideb

Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos sut y gallai'r newidiadau a wneir i gredydau treth fod wedi effeithio ar daliadau o 6 Ebrill 2012. Ni fyddant yn rhoi gwybod i chi faint sydd gennych hawl i'w gael, ond efallai y bydd yn rhoi syniad bras i chi o sut y gallai'ch credydau treth fod wedi cael eu heffeithio.

Newid mewn terfyn incwm Credyd Treth Plant - enghraifft sy'n dangos yr effaith ar daliadau

Rydych yn briod, mae gennych blentyn ac mae'r ddau ohonoch yn gweithio 37 awr yr wythnos, gydag incwm ar y cyd o £27,000 y flwyddyn. Nid ydych yn talu am ofal plant cofrestredig neu gymeradwy.

Taliadau hyd at 5 Ebrill 2012

Yn yr enghraifft hon, roedd eich incwm yn rhy uchel i gael unrhyw daliadau Credyd Treth Gwaith, nac elfen plant Credyd Treth Plant. Ond byddwch wedi cael elfen deuluol sylfaenol Credyd Treth Plant o hyd o £545 am y flwyddyn - tua £10 yr wythnos.

Taliadau newydd o 6 Ebrill 2012

Gydag un plentyn, nid ydych yn debygol o gael unrhyw daliadau Credyd Treth Plant os yw'ch incwm yn fwy na tua £26,000.

Felly, pe bai eich amgylchiadau yn aros yr un fath, ni fyddai gennych hawl i unrhyw daliadau credydau treth o 6 Ebrill 2012. Ond pe bai eich amgylchiadau'n newid, gallai wneud gwahaniaeth.

Taliadau newydd o 6 Ebrill 2012 - os ydych wedi cael babi newydd

Yn yr un enghraifft, os ydych yn cael babi newydd, byddech yn gymwys o hyd i gael taliadau credydau treth o 6 Ebrill 2012. Oherwydd eich incwm, cewch gredydau treth ar gyfradd ostyngol. Cyn gweithio allan y gostyngiad, £10,585 fyddai uchafswm y credydau treth y gallech eu cael o 6 Ebrill 2012. Mae hyn yn cynnwys:

  • elfen deuluol sylfaenol Credyd Treth Plant - £545
  • elfen plant Credyd Treth Plant - £5,380 (ar gyfer dau o blant)
  • elfen sylfaenol Credyd Treth Gwaith - £1,920
  • elfen cwpl Credyd Treth Gwaith - £1,950
  • elfen 30 awr Credyd Treth Gwaith - £790

Caiff y cyfanswm o £10,585 ei ostwng oherwydd eich incwm. Mae eich incwm yn rhy uchel i gael unrhyw daliadau Credyd Treth Gwaith. Ond oherwydd bod gennych ddau o blant bellach, mae eich terfyn incwm ar gyfer taliadau Credyd Treth Plant yn uwch.

Eich taliadau Credyd Treth Plant dros y flwyddyn fyddai £2,158, gan gynnwys yr elfen sylfaenol o £545. Mae hwn tua £41 yr wythnos.

Cyplau: enghraifft sy'n dangos sut y gall y rheol oriau gwaith newydd effeithio ar daliadau

Rydych yn briod ac mae gennych un plentyn. Rydych yn gweithio 16 awr yr wythnos ac nid yw eich partner yn gweithio. Mae gennych incwm blynyddol ar y cyd o £13,000.

Taliadau hyd at 5 Ebrill 2012

Yn yr enghraifft hon, byddwch wedi cael Credyd Treth Plant, a swm gostyngol o Gredyd Treth Gwaith. Byddai eich taliadau dros y flwyddyn wedi bod £4,278 - tuag £81 yr wythnos.

Taliadau newydd o 6 Ebrill 2012

Nid yw eich partner yn gweithio, ac nid ydych yn bodloni unrhyw un o'r eithriadau - fel bod yn 60 oed neu drosodd, neu'n anabl. Felly ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith o 6 Ebrill 2012. Yn eich sefyllfa chi, er eich bod yn gweithio 16 awr yr wythnos, bydd angen i'ch oriau gwaith ar y cyd fod o leiaf 24 yr wythnos er mwyn bod yn gymwys. Dim ond Credyd Treth Plant y byddwch yn gymwys i'w gael.

Y mwyaf o gredydau treth y gallech eu cael o 6 Ebrill 2012 fyddai cyfanswm o £3,235, sy'n cynnwys:

  • elfen deuluol sylfaenol Credyd Treth Plant - £545
  • elfen plant Credyd Treth Plant - £2,690
  • Gydag incwm ar y cyd o £13,000, byddwch yn gymwys i gael y swm cyfan o £3,235 - tua £62 yr wythnos.

Mae hyn tua £19 yr wythnos yn llai na’r hyn yr oeddech yn ei gael yn flaenorol.

Mae eich incwm yn lleihau £2,500 neu lai - enghraifft sy'n dangos yr effaith ar daliadau

Rydych yn sengl, yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos, a bob amser wedi cael incwm blynyddol o £12,000.

Taliadau hyd at 5 Ebrill 2012

Cawsoch gredydau treth gwerth £424 ar gyfer y flwyddyn - tuag £8 yr wythnos.

Taliadau newydd o 6 Ebrill 2012

Ym mis Mai 2012, rydych yn amcangyfrif y bydd eich incwm ar gyfer y flwyddyn yn gostwng i £10,000 - sef gostyngiad o £2,000.

Gan fod y gostyngiad hwn yn llai na £2,500, ni fydd yn effeithio ar eich taliadau credydau treth tan y flwyddyn nesaf.

Mae hyn yn golygu mai £12,000, ac nid £10,000, fydd yr incwm a gaiff ei ystyried wrth gyfrifo eich taliadau newydd o 6 Ebrill 2012.

Bydd eich taliadau credydau treth ar gyfer y flwyddyn tua'r un peth.

Caiff eich incwm newydd o £10,000 ei ystyried pan gaiff eich taliadau eu cyfrifo ar gyfer blwyddyn nesaf, gan ddechrau ar 6 Ebrill 2013.

Mae eich incwm yn lleihau mwy na £2,500 - enghraifft sy'n dangos yr effaith ar daliadau

Rydych mewn cwpl, mae un ohonoch yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos ac nid oes gennych blant. Rydych bob amser wedi cael incwm blynyddol ar y cyd o £17,000.

Taliadau hyd at 5 Ebrill 2012

Cawsoch gredydau treth gwerth £325 ar gyfer y flwyddyn - tua £6 yr wythnos.

Taliadau newydd o 6 Ebrill 2012

Ym mis Mai 2012, rydym yn amcangyfrif y bydd eich incwm ar gyfer y flwyddyn yn gostwng i £13,000 - sef gostyngiad o £4,000.

Gan fod y gostyngiad hwn yn fwy na £2,500, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn ystyried eich incwm is wrth gyfrifo eich taliadau. Ond bydd yn anwybyddu'r £2,500 cyntaf o'r gostyngiad.

Mae hyn yn golygu mai £15,500, yn hytrach na £13,000, fydd yr incwm a gaiff ei ystyried ar gyfer eich taliadau newydd o 6 Ebrill 2012.

Bydd eich taliadau credydau treth ar gyfer y flwyddyn yn codi i £945 - tua £18 yr wythnos.

Caiff eich incwm newydd o £13,000 ei ystyried pan gaiff eich taliadau eu cyfrifo ar gyfer blwyddyn nesaf, gan ddechrau ar 6 Ebrill 2013.

Newidiadau os ydych yn 50 oed neu'n hŷn - enghraifft sy'n dangos yr effaith ar daliadau

Rydych yn sengl, yn 51 oed ac yn gweithio 30 awr yr wythnos. Dychwelsoch i’r gwaith yn 2011, ar ôl cael Lwfans Ceisio Gwaith am chwe mis. Eich incwm blynyddol yw £10,000.

Taliadau hyd at 5 Ebrill 2012

Cawsoch Gredyd Treth Gwaith gwerth £3,275 ar gyfer y flwyddyn - tua £62 yr wythnos. Mae hyn yn cynnwys y swm ychwanegol, sef yr 'elfen 50 oed a throsodd'.

Taliadau newydd o 6 Ebrill 2012

Daeth yr elfen '50 oed a throsedd' i ben o 6 Ebrill 2012. Os yw’ch amgylchiadau wedi aros yr un fath, bydd eich credydau treth yn gostwng i £1,247 - tua £23 yr wythnos.

Os ydych yn gweithio llai na 30 awr yr wythnos

Yn yr un enghraifft, os ydych yn gweithio llai na 30 awr yr wythnos, ni fyddwch yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith o 6 Ebrill 2012.

Mae hyn am fod angen i chi weithio 30 awr yr wythnos os ydych yn 25 oed neu'n hŷn, oni bai bod unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gyfrifol am blentyn neu blant
  • rydych yn 60 oed neu'n hŷn
  • rydych yn gymwys i gael 'elfen anabledd' Credyd Treth Gwaith

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU