Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd eich taliadau credyd treth yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol presennol, megis a ydych yn gweithio, faint o blant sydd gennych chi a faint yw eich incwm blynyddol. Os bydd eich incwm yn isel, byddwch yn cael mwy o gredydau treth.
Pan fydd y Swyddfa Credyd Treth yn cyfrifo eich credydau treth, bydd yn edrych ar beth a elwir gan y Swyddfa yn ‘elfennau’ (neu daliadau) credyd treth y mae gennych chi’r hawl i'w cael. Mae’r elfennau’n seiliedig ar a oes gennych chi blant ai peidio, ac os ydych chi’n gweithio, faint o oriau y byddwch yn eu gweithio.
Yr elfennau Credyd Treth Plant
Mae'r tabl isod yn dangos y taliadau Credyd Treth Plant y gallech eu cael am fagu plant – cyn belled â'ch bod yn gymwys. Rhain yw’r uchafswm y gallech eu cael am flwyddyn dreth (mae blwyddyn treth yn rhedeg rhwng 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn nesaf).
Bydd y taliadau'n berthnasol ni waeth a ydych yn gweithio ai peidio. Mae’n bosib y cewch gyfuniad o elfennau, yn dibynnu ar beth ydych chi’n gymwys i’w gael.
Yr elfennau Credyd Treth Plant |
Beth mae'n ei olygu |
Uchafswm blynyddol cyfredol presennol |
---|---|---|
Yr elfen deuluol – yr elfen sylfaenol |
Dyma’r taliad sylfaenol os ydych chi’n gyfrifol am un plentyn neu ragor. |
£545 |
Yr elfen plant |
Telir hwn ar gyfer pob un o’ch plant. |
£2,690 |
Yr elfen plentyn anabl |
Taliad ychwanegol ar gyfer pob plentyn anabl sydd gennych. |
£2,950 |
Yr elfen plentyn sy’n ddifrifol anabl |
Taliad ychwanegol ar gyfer pob un o’ch plant sy’n ddifrifol anabl. Caiff ei dalu ar ben unrhyw elfen anabledd. |
£1,190 |
Yr elfennau Credyd Treth Gwaith
Mae’r tabl isod yn dangos y gwahanol daliadau Credyd Treth Gwaith y gallech eu cael os ydych chi'n gweithio. Rhain yw’r uchafswm y gallech eu cael am flwyddyn dreth (mae blwyddyn treth yn rhedeg rhwng 6 Ebrill un flwyddyn i 5 Ebrill y flwyddyn nesaf).
Mae’n bosib y cewch gyfuniad o elfennau, yn dibynnu ar beth ydych chi’n gymwys i’w gael.
Yr elfennau |
I bwy y mae’n berthnasol |
Uchafswm blynyddol cyfredol |
---|---|---|
Yr elfen sylfaenol |
Y swm sylfaenol os ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith. |
£1,920 |
Cyplau |
Caiff hwn ei dalu os byddwch yn gweneud cais ar y cyd ar ben yr elfen sylfaenol. |
£1.950 |
Yr elfen rhiant unigol |
Telir hwn os ydych chi'n unig riant sy'n magu plant ar eich pen eich hun. Caiff ei dalu ar ben yr elfen sylfaenol. |
£1,950 |
Yr elfen 30 awr |
Taliad ychwanegol os ydych chi'n gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Bydd hefyd yn berthnasol os ydych chi mewn cwpl, gydag o leiaf un plentyn, a’ch bod yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos rhyngoch. Ond mae’n rhaid bod un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr neu ragor yr wythnos. |
£790 |
Yr elfen anabledd |
Taliad ychwanegol os ydych yn gweithio ac anabledd gennych. |
£2,790 |
Yr elfen anabledd difrifol |
Taliad ychwanegol os ydych yn gweithio ac anabledd difrifol gennych. Os ydych chi’n gwpl, nid oes yn rhaid i’r un sydd â’r anabledd difrifol fod yn gweithio – cyn belled â bod un ohonoch yn gweithio. |
£1,190 |
Yr elfen gofal plant |
Taliad ychwanegol os ydych chi'n talu am ofal plant cofrestredig neu gymeradwy. |
|
Bydd yr ‘elfennau' y bydd gennych chi'r hawl i'w cael am flwyddyn yn cael eu cyfrifo, ac yna, byddant yn cael eu lleihau os bydd eich incwm yn mynd dros lefel benodol. Os bydd eich incwm yn uchel, bydd eich taliadau credyd treth yn cael eu lleihau.
Tablau hawliau ar gip
I gael syniad o’r credydau treth y gallech eu cael ar sail eich incwm, gallwch ddefnyddio tablau hawliau ‘ar gip’. Dilynwch y ddolen isod sy’n gymwys i’ch sefyllfa chi.
Dim ond canllawiau bras yw’r tablau hawliau i faint y gallech gael ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol – sy’n gorffen ar 5 Ebrill 2013. Byddant yn cael eu diweddaru am y flwyddyn dreth nesaf ar 6 Ebrill 2013.
I gael enghreifftiau o’r cyfrifiadau manwl, gweler ‘Sut y gall incwm effeithio ar daliadau credydau treth – enghreifftiau’. Mae’r enghreifftiau’n ymdrin â rhai sefyllfaoedd cyffredin, ond ni allant ddweud wrthych sut y cyfrifir eich taliadau chi. Gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Credydau Treth os hoffech ddeall eich cyfrifiadau chi yn fanwl.
Os bydd un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
bydd eich taliadau’n cael eu cyfrifo ar sail yr hyn a elwir yn ‘pro-rata’. Ffordd yw hyn o gyfrifo pa gyfran o’r elfennau credyd treth y byddwch yn gymwys i’w cael mewn cyfnod o amser.
Bydd eich incwm hefyd yn cael ei gyfrifo ar sail ‘pro-rata’. Os bydd eich incwm pro-rata dros lefel arbennig, bydd eich taliadau credydau treth yn cael eu lleihau.
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein i gyfrifo’n fras faint o gredydau treth y gallwch eu cael rhwng dyddiad heddiw a 5 Ebrill 2013.