Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os yw eich incwm dros swm arbennig, bydd eich taliadau credydau treth yn cael eu lleihau. Mae’r canllawiau hyn yn rhoi rhai enghreifftiau i chi o sut y mae hyn yn gweithio. Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon yn seiliedig ar gyfraddau credydau treth a throthwyau incwm i fyny at 5 Ebrill 2013. Caiff ei ddiweddaru ar 6 Ebrill 2013.
Os yw eich incwm dros £15,860, bydd yr elfennau yr ydych yn gymwys i’w derbyn yn cael eu lleihau mewn trefn benodol. Bydd yr elfen blant, gan gynnwys unrhyw symiau ychwanegol os oes gan eich plenty anabledd, yn cael ei lleihau’n gyntaf – ar gyfradd o 41 y cant. Ond dim ond os bydd eich incwm yn lleihau’r elfennau plant i ddim y caiff yr elfen deulu ei lleihau.
Defnyddir eich incwm gros – hynny yw, cyn i dreth ac Yswiriant Gwladol gael eu didynnu.
Enghraifft
Mae gennych fabi newydd ac rydych yn ennill £20,000 y flwyddyn rhyngoch eich dau.
Mae gennych hawl i dderbyn yr ‘elfennau’ credyd treth canlynol:
Mae hyn yn rhoi cyfanswm o £3,235.
Mae eich incwm yn uwch na’r trothwy o £15,860 felly bydd eich taliadau’n cael eu lleihau fel a ganlyn:
Cam 1
Yn gyntaf, mae’r elfen blant yn cael ei lleihau ar gyfradd o 41 y cant.
I gyfrifo hyn, dylech dynnu £15,860 o’ch incwm o £20,000.
Felly £20,000 - £15,860 = £4,140.
Cam 2
Yna lluoswch £4,140 gyda 41 y cant.
Felly £4,140 x 41% = £1,697.40.
Cam 3
Nesaf, tynnwch £1,697.40 o’r elfen blant o £2,690.
Felly £2,690 - £1,697.40 = £992.60.
Yr elfen blant wedi’i lleihau y gallwch ei derbyn am y flwyddyn yw £992.60 neu tua £19 yr wythnos.
Cam 4
Os oedd yr elfen blant wedi’i lleihau yn ddim, byddai’r elfen deulu’n cael ei lleihau nesaf. Fodd bynnag, oherwydd bod dal gennych hawl i gael swm o elfen blant, bydd yr elfen deulu yn aros yn £545.
Cyfanswm y taliad credyd treth
Cyfanswm y credydau treth y mae gennych hawl iddynt am y flwyddyn yw:
Mae hyn yn rhoi cyfanswm o £1,537.60 y gallwch ei hawlio am y flwyddyn, neu tua £30 yr wythnos.
Os yw eich incwm dros £6,420, bydd eich taliadau credydau treth yn cael eu lleihau – ar gyfradd o 41 y cant.
Defnyddir eich incwm gros – hynny yw, cyn i dreth ac Yswiriant Gwladol gael eu didynnu.
Enghraifft
Rydych yn sengl heb blant, yn gweithio 30 awr yr wythnos ac yn ennill £9,500 y flwyddyn.
Mae gennych hawl i dderbyn:
Sef cyfanswm o £2,710.
Mae eich incwm yn fwy na’r trothwy o £6,420 felly bydd eich taliadau’n cael eu lleihau fel a ganlyn:
Cam 1
Mae’r elfen sylfaenol yn cael ei lleihau ar gyfradd o 41 y cant.
I gyfrifo hyn, yn gyntaf tynnwch £6,420 o’ch incwm o £9,500.
Felly £9,500 - £6,420 = £3,080.
Cam 2
Yna lluoswch £3,080 gyda 41 y cant.
Felly £3,080 x 41 y cant = £1,262.80.
Cam 3
Nesaf tynnwch £1,262.80 o’r cyfanswm credydau treth y mae gennych hawl iddynt - £2,710.
Felly £2,710 - £1,262.80 = £1,447.20.
Cyfanswm y taliad credyd treth
Cyfanswm y Credyd Treth Gwaith y mae gennych hawl iddo am y flwyddyn yw £1,447.20 – neu tua £28 yr wythnos.
Bydd eich taliadau credydau treth yn cael eu lleihau os yw eich incwm dros £6,420 – ar gyfradd o 41 y cant.
Defnyddir eich incwm gros – hynny yw, cyn i dreth ac Yswiriant Gwladol gael eu didynnu.
Enghraifft
Rydych wedi priodi, gyda phlentyn, ac yn gweithio 37 awr yr wythnos ac yn ennill incwm o £18,000 y flwyddyn. Felly hyn fydd uchafswm y credyd treth y gallwch ei dderbyn:
Mae hyn yn rhoi cyfanswm o £7,895.
Mae eich incwm yn fwy na’r trothwy o £6,420 felly bydd eich taliadau’n cael eu cyfrifo fel a ganlyn:
Cam 1
Yn gyntaf tynnwch £6,420 o’ch incwm o £18,000.
Felly £18,000 - £6,420 = £11,580.
Cam 2
Nesaf, lluoswch £11,580 gyda 41 y cant. Felly £11,580 x 41 y cant = £4,747.80.
Cam 3
Nesaf, tynnwch £4,747.80 o’ch credydau treth o £7,895.
Felly £7,895 - £4,747.80 = £3,147.20.
Cyfanswm y taliad credyd treth
Felly cyfanswm y taliad credyd treth y byddwch yn ei dderbyn am y flwyddyn yw £3,147.20 – neu tua £61 yr wythnos.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs