Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’r tablau hyn yn rhoi syniad i chi o faint o gredydau treth y gallech chi eu cael os ydych chi'n sengl, yn gweithio 16 awr neu ragor ac yn 25 mlwydd oed neu'n hŷn. Maent yn rhoi syniad bras o’r cyfanswm y gallech ei gael ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol. Mae'r tablau hyn hefyd yn berthnasol os ydych chi’n rhan o gwpl a’ch bod chi neu'ch partner yn gweithio a bod gan y sawl sy'n gweithio anabledd.
Y symiau a ddangosir yw'r cyfanswm o gredydau treth y gallech ei gael ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol. Dechreuodd hon ar 6 Ebrill 2012 a daw i ben ar 5 Ebrill 2013. Os ydych yn rhan o gwpwl, yr incwm blynyddol yw eich incwm ar y cyd.
Incwm blynyddol (£) |
Rydych chi'n sengl, yn 25 mlwydd oed neu'n hŷn ac yn gweithio 30 awr neu ragor yr wythnos |
Rydych chi’n rhan o gwpl, yn 25 mlwydd oed neu'n hŷn ac yn gweithio 30 awr neu ragor yr wythnos |
---|---|---|
9,550 |
1,445 |
3,500 |
10,000 |
1,245 |
3,200 |
11,000 |
835 |
2,790 |
12,000 |
425 |
2,380 |
13,000 |
15 |
1,970 |
14,000 |
0 |
1,560 |
15,000 |
0 |
1,150 |
16,000 |
0 |
740 |
17,000 |
0 |
330 |
18,000 |
0 |
0 |
Y symiau a ddangosir yw'r symiau gwirioneddol o gredydau treth y gallech eu cael ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol gyfan. Dechreuodd hon ar 6 Ebrill 2012 a bydd yn dod i ben ar 5 Ebrill 2013. Yr incwm blynyddol yw eich incwm ar y cyd os ydych chi’n rhan o gwpl.
Incwm blynyddol |
Rydych chi'n sengl, yn 16 mlwydd oed neu'n hŷn ac yn gweithio |
Rydych chi’n rhan o gwpl, yn 16 mlwydd oed neu’n hŷn |
||
---|---|---|---|---|
Rydych chi’n gweithio 16 i 29 awr yr wythnos |
Rydych chi’n gweithio 30 awr neu ragor yr wythnos |
Rydych chi’n gweithio 16 i 29 awr yr wythnos |
Rydych chi’n gweithio 30 awr neu ragor yr wythnos |
|
5,000 | 4,715 | (llai na'r isafswm cyflog) | 6,665 | (llai na'r isafswm cyflog) |
8,000 | 4,065 | (llai na'r isafswm cyflog) | 6,020 | (llai na'r isafswm cyflog) |
9,500 | 3,450 | 4,245 | 5,405 | 6,195 |
10,000 | 3,245 | 4,040 | 5,200 | 5,990 |
12,000 | 2,425 | 3,220 | 4,380 | 5,170 |
14,000 | 1,605 | 2,400 | 3,560 | 4,350 |
16,000 | 785 | 1,580 | 2,740 | 3,530 |
18,000 | 0 | 760 | 1,920 | 2,710 |
20,000 | 0 | 0 | 1,100 | 1,890 |
22,000 | 0 | 0 | 280 | 1,070 |
24,000 | 0 | 0 | 0 | 250 |
26,000 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Gallwch ddefnyddio'r tablau hyn os nad oes gennych chi blant ac mae unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn defnyddio'r tabl cywir, gallwch weld drwy ddilyn y ddolen isod.
Dewch o hyd i'r tabl uchod sy'n berthnasol i chi – bydd y penawdau'n eich helpu i ddewis.
Dewch o hyd i'r lefel incwm blynyddol yn y golofn gyntaf sydd agosaf at gyfanswm eich incwm chi ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf (incwm ar y cyd ar gyfer cyplau). Mae hyn yn cynnwys incwm o waith, rhai budd-daliadau’r wladwriaeth (fel Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau), ac incwm arall (fel llog ar gynilion) dros £300.
Mae blwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill. Os yw eich incwm yn ystod y flwyddyn dreth hon yn debygol o fod fwy na £2,500 yn is, efallai y bydd angen i chi edrych ar lefel incwm blynyddol wahanol. Gweler yr adran nesaf ar sut i weithio allan pa ffigur i'w ddefnyddio.
Dewch o hyd i'r pennawd yn y colofnau eraill sy'n berthnasol i chi.
Lle mae'r rhes a'r golofn yn cwrdd â'i gilydd, dyma'r swm nodweddiadol o gredydau treth a ddyfernir ar gyfer yr amgylchiadau hynny.
Dylech ddefnyddio'r wybodaeth yn y tablau fel canllaw yn unig. I gael syniad gwell o faint y gallai fod gennych hawl i'w gael, gallwch ddefnyddio cyfrifydd credydau treth ar-lein manylach. Dylai gymryd rhwng 10 a 15 munud i'w lenwi.
Os yw eich incwm yn ystod y flwyddyn dreth hon yn debygol o ostwng mwy na £2,500, efallai y bydd angen i chi edrych ar lefel incwm blynyddol wahanol. Dilynwch y camau isod.
Cam un
Cymerwch eich incwm is.
Cam dau
Ychwanegwch £2,500 ato. Mae hyn am fod y Swyddfa Credyd Treth yn anwybyddu’r £2,500 cyntaf o ostyngiad mewn incwm wrth weithio allan eich taliadau.
Cam tri
Dewch o hyd i'r lefel incwm blynyddol yn y tabl sydd agosaf at eich ateb.
Er enghraifft, roedd eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf yn £30,000. Ond rydych yn amcangyfrif y bydd eich incwm yn gostwng i £18,000 ar gyfer y flwyddyn dreth hon (rhwng 6 Ebrill 2012 a 5 Ebrill 2013). Bydd angen i chi edrych ar yr incwm blynyddol o £20,000 yn y tabl.
Cyfrifir hyn fel a ganlyn:
£18,000 + £2,500 = £20,500. Felly, yr incwm agosaf yn y tabl yw £20,000.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs