Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’r tabl hwn yn rhoi syniad i chi o faint o gredydau treth y gallech chi eu cael os oes gennych chi blant ac nid ydych chi’n gweithio. Mae’n rhoi syniad bras o’r cyfanswm y gallech ei gael ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol. Defnyddiwch y tabl hwn hefyd os oes gennych chi bartner, nid oes un ohonoch yn gweithio, ac mae gennych blant.
Mae gennych chi blant un oed neu hŷn
Y symiau a ddangosir yw'r symiau gwirioneddol o gredydau treth y gallech eu cael ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol gyfan. Dechreuodd hon ar 6 Ebrill 2012 a bydd yn dod i ben ar 5 Ebrill 2013. Yr incwm blynyddol yw eich incwm ar y cyd os ydych chi’n rhan o gwpl.
Incwm blynyddol £ | Un plentyn | Dau blentyn | Tri phlentyn |
---|---|---|---|
0 | 3,235 | 5,925 | 8,615 |
5,000 | 3,235 | 5,925 | 8,615 |
8,000 | 3,235 | 5,925 | 8,615 |
10,000 | 3,235 | 5,925 | 8,615 |
15,000 | 3,235 | 5,925 | 8,615 |
20,000 | 1,540 | 4,230 | 6,920 |
25,000 | 0 | 2,180 | 4,870 |
30,000 | 0 | 130 | 2,820 |
35,000 | 0 | 0 | 770 |
40,000 | 0 | 0 | 0 |
Gallwch ddefnyddio'r tabl hwn os oes gennych chi blant ac mae un o'r canlynol yn berthnasol:
Ceir tablau hawliau eraill hefyd. Os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi'n defnyddio'r tablau iawn gallwch ddilyn y ddolen ganlynol.
Dewch o hyd i’r lefel incwm flynyddol yn y golofn gyntaf sydd agosaf at gyfanswm eich incwm eich hun ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf (incwm ar y cyd ar gyfer cyplau). Mae hyn yn cynnwys incwm o waith, rhai budd-daliadau gan y wladwriaeth (megis Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau) ac incwm arall (megis llog ar gynilion) dros £300. Mae blwyddyn dreth yn rhedeg rhwng 6 Ebrill i 5 Ebrill. Os yw eich incwm yn ystod y flwyddyn dreth hon yn debygol o fod fwy na £2,500 yn is, efallai y bydd angen i chi edrych ar lefel incwm blynyddol wahanol. Gweler yr adran nesaf ar sut i weithio allan pa ffigur i'w ddefnyddio.
Chwiliwch am y pennawd yn y colofnau eraill sy'n berthnasol i chi.
Lle bydd y rhes a'r golofn yn cwrdd, dyma swm arferol y dyfarniad credydau treth ar gyfer yr amgylchiadau hynny.
Dim ond canllaw yw'r wybodaeth yn y tablau. I gael gwell syniad o faint allwch chi ei gael, gallwch ddefnyddio holiadur credydau treth ar-lein mwy manwl. Dylai gymryd tua 10-15 munud i’w lenwi.
Os yw eich incwm yn ystod y flwyddyn dreth hon yn debygol o ostwng mwy na £2,500, efallai y bydd angen i chi edrych ar lefel incwm blynyddol wahanol. Dilynwch y camau isod.
Cam un
Cymerwch eich incwm is.
Cam dau
Ychwanegwch £2,500 ato. Mae hyn am fod y Swyddfa Credyd Treth yn anwybyddu’r £2,500 cyntaf o ostyngiad mewn incwm wrth weithio allan eich taliadau.
Cam tri
Dewch o hyd i'r lefel incwm blynyddol yn y tabl sydd agosaf at eich ateb.
Er enghraifft, roedd eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf yn £30,000. Ond rydych yn amcangyfrif y bydd eich incwm yn gostwng i £18,000 ar gyfer y flwyddyn dreth hon (rhwng 6 Ebrill 2012 a 5 Ebrill 2013). Bydd angen i chi edrych ar yr incwm blynyddol o £20,000 yn y tabl.
Cyfrifir hyn fel a ganlyn:
£18,000 + £2,500 = £20,500. Felly, yr incwm agosaf yn y tabl yw £20,000.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs