Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Tablau hawliau ar gyfer credydau treth - cychwyn arni

Mae faint o gredydau treth rydych chi'n gymwys i'w cael yn dibynnu ar eich amgylchiadau teuluol, yr oriau rydych chi'n gweithio a'ch incwm. Mae tablau ar gael sy'n rhoi syniad i chi o’r cyfanswm y gallech ei gael ar gyfer blwyddyn - ar sail eich incwm blynyddol yn fras.

Beth yw 'tablau hawliau'?

Mae’r tablau hawliau yn dangos i chi'r cyfanswm o gredydau treth y gallech chi ei gael, ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol gyfan. Dechreuodd hon ar 6 Ebrill 2012 a bydd yn dod i ben ar 5 Ebrill 2013.

Mae’r tablau’n cynnwys y canlynol:

  • gwahanol symiau o incwm blynyddol - mae hyn yn cynnwys incwm o waith, rhai budd-daliadau gan y wladwriaeth (megis Lwfans Ceisio Gwaith ar sail cyfraniadau), ac incwm arall (megis llog ar gynilion) dros £300
  • gwahanol fathau o amgylchiadau personol neu deuluol, er enghraifft nifer y plant sydd gennych chi neu nifer yr oriau rydych chi'n gweithio
  • y symiau credydau treth y gallech ei gael am y symiau incwm gwahanol ac amgylchiadau personol

Dim ond canllaw yw'r wybodaeth yn y tablau.

I gael gwell syniad o faint allech chi ei gael, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein. Dylai gymryd tua 10-15 munud i’w lenwi.

Pa dabl hawliau sy'n iawn i chi?

Mae pum set wahanol o dablau hawliau:

  • un set o dablau i bobl sy’n gweithio ond nid oes ganddynt blant
  • pedair set o dablau i bobl sydd â phlant – gan gynnwys pobl sy’n gweithio ac sydd ddim yn gweithio

Gallwch gael gwybod pa un i'w ddefnyddio drwy ddilyn y canllawiau isod.

Os nad oes yr un o'r tablau hawliau'n berthnasol i'ch sefyllfa chi, gallwch gael gwybod faint y gallech chi ei gael drwy lenwi cyfrifiannell ar-lein.

Rydych chi (neu eich partner) yn gweithio ond does gennych chi ddim plant

Os nad oes gennych chi ddim plant, dim ond Credyd Treth Gwaith gallwch chi ei gael. Mae tablau hawliau ar gael sy'n rhoi enghreifftiau o faint o Gredyd Treth Gwaith gallech chi ei gael os ydych chi yn:

  • sengl neu mewn cwpl ac mae un ohonoch chi'n gweithio 30 awr neu fwy yr wythnos
  • sengl neu mewn cwpl ac mae un ohonoch chi'n gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos ac mae gan yr unigolyn hwnnw neu honno anabledd

Mae’r tablau yn rhoi syniad i chi o’r cyfanswm y gallech ei gael dros flwyddyn, ar sail eich incwm blynyddol.

Mae gennych chi blant

Os oes gennych chi blant ac rydych chi neu eich partner yn gweithio, efallai byddwch chi'n gallu cael Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant.

Bydd faint gewch chi yn dibynnu ar faint o oriau rydych chi'n gweithio, eich incwm ac a oes gennych chi gostau gofal plant ai peidio.

Rydych chi'n gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos ac mae gennych chi gostau gofal plant

Efallai gallwch chi gael hyd at 70 y cant o'ch costau gofal plant yn ôl - hyd at derfynau penodol. Mae’r tablau hawliau yn rhoi enghreifftiau o faint o gredydau treth gallech chi eu cael os ydych chi’n talu am ofal plant cymeradwy neu gofrestredig.

Bydd y tablau yn rhoi syniad i chi o’r cyfanswm y gallech chi ei gael dros flwyddyn, ar sail eich incwm blynyddol.

Rydych chi'n gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos ac nid oes gennych chi gostau gofal plant

Efallai fod gennych chi blant ond nid ydych yn talu dim costau gofal plant er eich bod yn gweithio. Ceir tabl hawliau sy’n rhoi enghreifftiau o faint o gredydau treth gallech chi eu cael.

Bydd y tabl yn rhoi syniad i chi o’r cyfanswm y gallech chi ei gael dros flwyddyn, ar sail eich incwm blynyddol.

Rydych chi'n gweithio llai nag 16 awr yr wythnos ac mae gennych chi blant

Gallwch ddefnyddio tabl hawliau i gael gwybod faint o gredydau treth gallech chi eu cael os:

  • ydych chi'n sengl ac yn gweithio llai na 16 awr yr wythnos
  • mae gennych chi bartner ac mae'r ddau ohonoch chi'n gweithio llai na 16 awr yr wythnos

Bydd y tabl yn rhoi syniad i chi o’r cyfanswm y gallech chi ei gael dros flwyddyn, ar sail eich incwm blynyddol.

Nid ydych yn gweithio ond mae gennych chi blant

Gallwch ddefnyddio tabl hawliau i gael gwybod faint o gredydau treth gallech chi eu cael os:

  • ydych chi'n sengl a ddim yn gweithio
  • mae gennych chi bartner ac nid yw'r un ohonoch chi'n gweithio

Bydd y tabl yn rhoi syniad i chi o’r cyfanswm y gallech chi ei gael dros flwyddyn, ar sail eich incwm blynyddol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU