Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rydych chi'ch gweithio llai na 16 awr ac mae gennych chi blant: tablau hawliau

Mae’r tabl hwn yn rhoi syniad i chi o faint o gredydau treth y gallech chi eu cael os ydych chi’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ac mae gennych chi blant. Mae’n rhoi syniad bras o’r cyfanswm y gallech ei gael ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol.

Rydych chi’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos ac mae gennych chi blant

Y symiau a ddangosir yw'r symiau gwirioneddol o gredydau treth y gallech eu cael ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol gyfan. Dechreuodd hon ar 6 Ebrill 2012 a bydd yn dod i ben ar 5 Ebrill 2013. Yr incwm blynyddol yw eich incwm ar y cyd os ydych chi’n rhan o gwpl.

Incwm blynyddol £ Un plentyn Dau blentyn Tri phlentyn
0 3,235 5,925 8,615
5,000 3,235 5,925 8,615
8,000 3,235 5,925 8,615
10,000 3,235 5,925 8,615
15,000 3,235 5,925 8,615
20,000 1,540 4,230 6,920
25,000 0 2,180 4,870
30,000 0 130 2,820
35,000 0 0 770
40,000 0 0 0

Pwy ddylai ddefnyddio'r tabl hwn?

Gallwch ddefnyddio'r tabl hwn os oes gennych chi blant ac mae un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi'n sengl ac yn gweithio llai na 16 awr yr wythnos
  • mae gennych chi bartner ac mae'r ddau ohonoch chi'n gweithio llai na 16 awr yr wythnos

Ceir tablau hawliau eraill hefyd. Os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi'n defnyddio'r tabl iawn gallwch wirio hyn drwy ddilyn y ddolen ganlynol.

Sut mae defnyddio’r tablau

Dewch o hyd i’r lefel incwm flynyddol yn y golofn gyntaf sydd agosaf at gyfanswm eich incwm eich hun ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf (incwm ar y cyd ar gyfer cyplau). Mae hyn yn cynnwys incwm o waith, rhai budd-daliadau gan y wladwriaeth (megis Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau) ac incwm arall (fel llog ar gynilion) dros £300. Mae blwyddyn dreth yn mynd o 6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol. Os yw eich incwm yn ystod y flwyddyn dreth hon yn debygol o fod fwy na £2,500 yn is, efallai y bydd angen i chi edrych ar lefel incwm blynyddol wahanol. Gweler yr adran nesaf ar sut i weithio allan pa ffigur i'w ddefnyddio.

Chwiliwch am y pennawd yn y colofnau eraill sy'n berthnasol i chi.

Lle bydd y rhes a'r golofn yn cwrdd, dyma swm arferol y dyfarniad credydau treth ar gyfer yr amgylchiadau hynny.

Dim ond canllaw yw'r wybodaeth yn y tablau. I gael gwell syniad o faint allwch chi ei gael, gallwch ddefnyddio holiadur credydau treth ar-lein mwy manwl. Dylai gymryd tua 10-15 munud i’w lenwi.

Os bydd eich incwm yn gostwng mwy na £2,500 yn ystod y flwyddyn dreth bresennol

Os yw eich incwm yn ystod y flwyddyn dreth hon yn debygol o ostwng mwy na £2,500, efallai y bydd angen i chi edrych ar lefel incwm blynyddol wahanol. Dilynwch y camau isod.

Cam un

Cymerwch eich incwm is.

Cam dau

Ychwanegwch £2,500 ato. Mae hyn am fod y Swyddfa Credyd Treth yn anwybyddu’r £2,500 cyntaf o ostyngiad mewn incwm wrth weithio allan eich taliadau.

Cam tri

Dewch o hyd i'r lefel incwm blynyddol yn y tabl sydd agosaf at eich ateb.

Er enghraifft, roedd eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf yn £30,000. Ond rydych yn amcangyfrif y bydd eich incwm yn gostwng i £18,000 ar gyfer y flwyddyn dreth hon (rhwng 6 Ebrill 2012 a 5 Ebrill 2013). Bydd angen i chi edrych ar yr incwm blynyddol o £20,000 yn y tabl.

Cyfrifir hyn fel a ganlyn:

£18,000 + £2,500 = £20,500. Felly, yr incwm agosaf yn y tabl yw £20,000.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU