Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rydych yn gweithio, mae gennych blant ond nid ydych yn talu am ofal plant: tabl hawliadau

Mae'r tabl hwn yn rhoi syniad i chi o'r credydau treth y gallech eu cael os ydych yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos. Mae'n dangos yn fras y cyfanswm y gallech ei gael ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol. Gallwch ddefnyddio'r tabl os oes gennych hyd at dri phlentyn, ac nid ydych yn talu am ofal plant.

Rydych yn gweithio, mae gennych blant ond nid ydych yn talu am ofal plant

Y symiau a ddangosir yw'r cyfanswm o gredydau treth y gallech ei gael ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol. Dechreuodd hon ar 6 Ebrill 2012 a daw i ben ar 5 Ebrill 2013. Os ydych yn rhan o gwpwl, yr incwm blynyddol yw eich incwm ar y cyd.

Incwm blynyddol £ Un plentyn Dau blentyn Tri phlentyn
0 7,110 9,800 12,490
5,100 7,110 9,800 12,490
9,500 6,640 9,330 12,020
10,000 6,435 9,125 11,815
15,000 4,385 7,075 9,765
20,000 2,335 5,025 7,715
25,000 285 2,975 5,665
30,000 0 925 3,615
35,000 0 0 1,565
40,000 0 0 0

Pwy ddylai ddefnyddio'r tabl hawliadau hwn?

Gallwch ddefnyddio'r tabl hwn os oes un o'r canlynol yn gymwys:

  • rydych yn sengl ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • rydych yn rhan o gwpwl, mae un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr a - rhyngoch chi - rydych yn gweithio o leiaf 24 awr yr wythnos

Gallwch hefyd ddefnyddio’r tabl hwn os ydych yn rhan o gwpl, mae un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, ac mae’r llall yn:

  • hawlio budd-daliadau anabledd penodol (er enghraifft Lwfans Gweini neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau) neu mewn amgylchiadau penodol yn derbyn credydau Yswiriant Gwladol
  • yn yr ysbyty neu’r carchar
  • gymwys am Lwfans Gofalwr – hyd yn oed os nad yw’n cael unrhyw daliadau am ei fod yn cael budd-daliadau eraill yn lle hynny

Peidiwch â defnyddio'r tabl hwn os:

  • rydych yn gweithio llai na 16 awr yr wythnos a bod gennych blant - dylech ddefnyddio tabl gwahanol
  • rydych yn rhiant sengl sy'n gweithio rhwng 16 a 29 awr yr wythnos, a bod eich incwm yn fwy na £5,100

Gallwch weld faint y gallech ei gael drwy lenwi cyfrifydd ar-lein yn lle hynny - mae'n cymryd rhwng 10 a 15 munud i'w gwblhau.

Mae tablau hawliadau eraill hefyd. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn defnyddio'r tabl cywir, gallwch weld drwy ddilyn y ddolen isod.

Sut i ddefnyddio'r tabl hwn

Dewch o hyd i'r lefel incwm flynyddol yn y golofn gyntaf sydd agosaf at gyfanswm eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf (incwm ar y cyd ar gyfer gyplau). Mae hyn yn cynnwys incwm o waith, rhai budd-daliadau'r wladwriaeth (fel Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau), ac incwm arall (fel llog ar gynilion) dros £300.

Mae blwyddyn dreth yn rhedeg rhwng 6 Ebrill a 5 Ebrill. Os yw eich incwm yn ystod y flwyddyn dreth hon yn debygol o fod fwy na £2,500 yn is, efallai y bydd angen i chi edrych ar lefel incwm blynyddol wahanol. Gweler yr adran nesaf ar sut i weithio allan pa ffigur i'w ddefnyddio.

Dewch o hyd i'r pennawd yn y colofnau eraill sy'n berthnasol i chi.

Lle mae'r rhes a'r golofn yn cwrdd â'i gilydd, dyma'r swm nodweddiadol o gredydau treth a ddyfernir ar gyfer yr amgylchiadau hynny.

Dylech ddefnyddio'r wybodaeth yn y tabl fel canllaw yn unig. Bydd y credydau treth gwirioneddol a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a gallant fod yn wahanol i'r ffigurau a roddir yn y tablau.

I gael syniad gwell o faint y gallai fod hawl gennych i'w gael, gallwch ddefnyddio cyfrifydd credydau treth ar-lein manylach. Dylai gymryd rhwng 10 a 15 munud i'w gwblhau.

Os bydd eich incwm yn gostwng mwy na £2,500 yn ystod y flwyddyn dreth

Os yw eich incwm yn ystod y flwyddyn dreth hon yn debygol o ostwng mwy na £2,500, efallai y bydd angen i chi edrych ar lefel incwm blynyddol wahanol. Dilynwch y camau isod.

Cam un

Cymerwch eich incwm is.

Cam dau

Ychwanegwch £2,500 ato. Mae hyn am fod y Swyddfa Credyd Treth yn anwybyddu’r £2,500 cyntaf o ostyngiad mewn incwm wrth weithio allan eich taliadau.

Cam tri

Dewch o hyd i'r lefel incwm blynyddol yn y tabl sydd agosaf at eich ateb.

Er enghraifft, roedd eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf yn £30,000. Ond rydych yn amcangyfrif y bydd eich incwm yn gostwng i £18,000 ar gyfer y flwyddyn dreth hon (rhwng 6 Ebrill 2012 a 5 Ebrill 2013). Bydd angen i chi edrych ar yr incwm blynyddol o £20,000 yn y tabl.

Cyfrifir hyn fel a ganlyn:

£18,000 + £2,500 = £20,500. Felly, yr incwm agosaf yn y tabl yw £20,000.

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod am rai o'r ffigurau incwm

Mae'n werth gwybod am rai o'r pethau sy'n berthnasol i rai o'r ffigurau incwm yn y tabl.

Ar gyfer y ffigurau incwm blynyddol o £0 a £5,100, mae'r swm o gredydau treth a ddangosir ond yn berthnasol os ydych:

  • yn sengl ac yn gweithio o leiaf 16 awr - ond yn llai na 30 awr - yr wythnos
  • yn rhan o gwpwl, mae un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr a - rhyngoch chi - rydych yn gweithio llai na 30 awr yr wythnos

Ar gyfer y ffigurau incwm blynyddol o £9,500 ac uwch, mae'r symiau o gredydau treth a ddangosir ond yn berthnasol os ydych:

  • yn sengl ac yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos
  • yn rhan o gwpwl, mae un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr a - rhyngoch chi - rydych yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos

Os nad yw'r oriau gwaith yn berthnasol i chi, gallwch weld y swm y gallwch ei gael drwy ddefnyddio cyfrifydd credydau treth ar-lein manylach.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU