Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Rydych yn gweithio 16 awr neu fwy ac yn talu am ofal plant: tablau hawliadau

Mae'r tablau hyn yn rhoi syniad i chi o'r credydau treth y gallech eu cael os ydych yn gweithio ac yn talu am ofal plant cofrestredig neu gymeradwy. Maent yn dangos yn fras y cyfanswm y gallech ei gael ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol. Bydd angen i chi weithio o leiaf 16 awr yr wythnos er mwyn defnyddio'r tablau hyn.

Mae gennych un plentyn

Y symiau a ddangosir yw'r cyfanswm o gredydau treth y gallech ei gael ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol. Dechreuodd hon ar 6 Ebrill 2012 a daw i ben ar 5 Ebrill 2013. Os ydych yn rhan o gwpwl, yr incwm blynyddol yw eich incwm ar y cyd.

Incwm blynyddol £ £90 yr wythnos mewn costau gofal plant Uchafswm gofal plant o £175
0 10,385 13,480
5,100 10,385 13,480
9,500 9,915 13,010
10,000 9,710 12,805
15,000 7,660 10,755
20,000 5,610 8,705
25,000 3,560 6,655
30,000 1,510 4,605
35,000 0 2,555
40,000 0 505
45,000 0 0

Mae gennych ddau blentyn

Y symiau a ddangosir yw'r cyfanswm o gredydau treth y gallech ei gael ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol. Dechreuodd hon ar 6 Ebrill 2012 a daw i ben ar 5 Ebrill 2013. Os ydych yn rhan o gwpwl, yr incwm blynyddol yw eich incwm ar y cyd.

Incwm blynyddol £ £150 yr wythnos mewn costau gofal plant Uchafswm gofal plant o £300
0 15,260 20,720
5,100 15,260 20,720
9,500 14,790 20,250
10,000 14,585 20,045
15,000 12,535 17,995
20,000 10,485 15,945
25,000 8,435 13,895
30,000 6,385 11,845
35,000 4,335 9,795
40,000 2,285 7,745
45,000 235 5,695
50,000 0 3,645
55,000 0 1,595
60,000 0 0

Mae gennych dri blentyn

Y symiau a ddangosir yw'r cyfanswm o gredydau treth y gallech ei gael ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol. Dechreuodd hon ar 6 Ebrill 2012 a daw i ben ar 5 Ebrill 2013. Os ydych yn rhan o gwpwl, yr incwm blynyddol yw eich incwm ar y cyd.

Incwm blynyddol £ £150 yr wythnos mewn costau gofal plant Uchafswm gofal plant o £300
0 17,950 23,410
5,100 17,950 23,410
9,500 17,480 22,940
10,000 17,275 22,735
15,000 15,225 20,685
20,000 13,175 18,635
25,000 11,125 16,585
30,000 9,075 14,535
35,000 7,025 12,485
40,000 4,975 10,435
45,000 2,925 8,385
50,000 875 6,335
55,000 0 4,285
60,000 0 2,235
65,000 0 185

Pwy ddylai ddefnyddio'r tablau hyn?

Gallwch ddefnyddio'r tabl hwn os oes un o'r canlynol yn gymwys:

  • rydych yn sengl ac yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • rydych yn rhan o gwpwl ac mae’r ddau ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos

Gallwch hefyd ddefnyddio’r tabl hwn os ydych yn rhan o gwpl, mae un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos, ac mae’r llall:

  • yn ‘analluog’ – mae hyn yn golygu ei fod yn sâl neu’n anabl ac yn cael budd-daliadau penodol, neu mewn amgylchiadau penodol yn derbyn credydau Yswiriant Gwladol
  • yn yr ysbyty neu’r carchar
  • yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr – hyd yn oed os nad yw’n cael unrhyw daliadau am ei fod yn cael budd-daliadau eraill yn lle hynny

Peidiwch â defnyddio'r tablau hyn os ydych yn rhiant unigol sy'n gweithio rhwng 16 a 29 awr yr wythnos, a bod cyfanswm eich incwm yn fwy na £5,100.

Gallwch weld faint y gallech ei gael drwy lenwi cyfrifydd ar-lein yn lle hynny - mae'n cymryd rhwng 10 a 15 munud i'w gwblhau.

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn defnyddio'r tabl cywir, gallwch weld drwy ddilyn y ddolen isod.

Sut i ddefnyddio'r tablau hyn

Dewch o hyd i'r tabl sy'n berthnasol i chi - bydd y penawdau yn eich helpu i ddewis.

Dewch o hyd i'r lefel incwm blynyddol yn y golofn gyntaf sydd agosaf at gyfanswm eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf (incwm ar y cyd ar gyfer gyplau). Mae hyn yn cynnwys incwm o waith, rhai budd-daliadau'r wladwriaeth (fel Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau), ac incwm arall (fel llog ar gynilion) dros £300.

Mae blwyddyn dreth yn rhedeg rhwng 6 Ebrill a 5 Ebrill. Os yw eich incwm yn ystod y flwyddyn dreth hon yn debygol o fod fwy na £2,500 yn is, efallai y bydd angen i chi edrych ar lefel incwm blynyddol wahanol. Gweler yr adran nesaf ar sut i weithio allan pa ffigur i'w ddefnyddio.

Dewch o hyd i'r pennawd yn y colofnau eraill sy'n berthnasol i chi. Enghreifftiau yw'r costau gofal plant a ddarperir felly defnyddiwch y costau sydd agosaf at eich costau wythnosol ar gyfartaledd.

Ble mae'r rhes a'r golofn yn cwrdd â'i gilydd, dyma'r swm nodweddiadol o gredydau treth a ddyfernir ar gyfer yr amgylchiadau hynny.

Dylech ddefnyddio'r wybodaeth yn y tablau fel canllaw yn unig. I gael syniad gwell o faint y gallai fod gennych hawl i'w gael, gallwch ddefnyddio cyfrifydd credydau treth ar-lein manylach. Dylai gymryd rhwng 10 a 15 munud i'w lenwi.

Os bydd eich incwm yn gostwng mwy na £2,500 yn ystod y flwyddyn dreth bresennol

Os yw eich incwm yn ystod y flwyddyn dreth hon yn debygol o ostwng mwy na £2,500, efallai y bydd angen i chi edrych ar lefel incwm blynyddol wahanol. Dilynwch y camau isod.

Cam un

Cymerwch eich incwm is.

Cam dau

Ychwanegwch £2,500 ato. Mae hyn am fod y Swyddfa Credyd Treth yn anwybyddu’r £2,500 cyntaf o ostyngiad mewn incwm wrth weithio allan eich taliadau.

Cam tri

Dewch o hyd i'r lefel incwm blynyddol yn y tabl sydd agosaf at eich ateb.

Er enghraifft, roedd eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf yn £30,000. Ond rydych yn amcangyfrif y bydd eich incwm yn gostwng i £18,000 ar gyfer y flwyddyn dreth hon (rhwng 6 Ebrill 2012 a 5 Ebrill 2013). Bydd angen i chi edrych ar yr incwm blynyddol o £20,000 yn y tabl.

Cyfrifir hyn fel a ganlyn:

£18,000 + £2,500 = £20,500. Felly, yr incwm agosaf yn y tabl yw £20,000.

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod am y ffigurau incwm

Mae'n werth gwybod am rai o'r pethau sy'n berthnasol i'r ffigurau incwm yn y tablau.

Ar gyfer y ffigurau incwm blynyddol o £0 a £5,100, mae'r swm o gredydau treth a ddangosir ond yn berthnasol os yw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn sengl ac yn gweithio o leiaf 16 (ond yn llai na 30) awr yr wythnos
  • rydych yn rhan o gwpwl, mae un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr a – rhyngoch chi – rydych yn gweithio o dan 30 awr yr wythnos

Ar gyfer y ffigurau incwm blynyddol o £9,500 ac uwch, mae'r symiau o gredydau treth a ddangosir ond yn berthnasol os ydych:

  • yn sengl ac yn gweithio 30 awr neu fwy yr wythnos
  • rydych yn rhan o gwpwl, mae un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr a – rhyngoch chi – rydych yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos

Os nad yw'r un o'r rhain yn berthnasol i chi, gallwch weld faint y gallech ei gael drwy ddefnyddio cyfrifydd credydau treth ar-lein manylach.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU