Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

'Analluogrwydd': beth mae hyn yn ei olygu o ran Credyd Treth Gwaith

Os ydych yn gwpwl â phlant, a bod un partner yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos a'r llall yn 'analluog', gallech gael Credyd Treth Gwaith. Gallech hefyd gael help gyda chostau gofal plant. Mynnwch wybod beth yw ystyr 'analluogrwydd' at ddibenion Credyd Treth Gwaith, i'ch helpu i ganfod a yw'n gymwys i chi.

Ystyr 'analluogrwydd' yn fras

Ystyr 'analluogrwydd' at ddibenion Credyd Treth Gwaith yw eich bod chi (neu eich partner) yn cael budd-daliadau penodol, neu o dan amgylchiadau penodol yn cael credydau Yswiriant Gwladol, oherwydd salwch neu anabledd.

Y budd-daliadau a'r credydau sy'n cyfrif

Os byddwch chi neu eich partner yn cael unrhyw rai o'r canlynol, cewch eich trin fel pe baech yn analluog at ddibenion Credyd Treth Gwaith:

  • Lwfans Byw i'r Anabl (hyd yn oed os yw wedi dod i ben am eich bod yn yr ysbyty)
  • Lwfans Gweini (hyd yn oed os yw wedi dod i ben am eich bod yn yr ysbyty)
  • Lwfans Anabledd Difrifol (hyd yn oed os yw wedi dod i ben am eich bod yn yr ysbyty)
  • Budd-dal Analluogrwydd ar y gyfradd uwch fyrdymor neu'r gyfradd hirdymor
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau - a'ch bod wedi bod yn cael y lwfans hwn am 28 wythnos neu fwy
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau ar ôl i chi gael Tâl Salwch Statudol - a'ch bod wedi bod yn cael y rhain am gyfanswm o 28 wythnos neu fwy
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau ar ôl i chi gael Budd-dal Analluogrwydd ar y gyfradd uchaf fyrdymor neu'r gyfradd hirdymor, neu Lwfans Anabledd Difrifol - a'ch bod wedi bod yn cael y rhain am gyfanswm o 28 wythnos neu fwy
  • credydau Yswiriant Gwladol am fod gennych allu cyfyngedig i weithio a bod eich hawl 12 mis i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau wedi dod i ben
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol gyda Lwfans Gweini Cyson (hyd yn oed os yw'r Lwfans Gweini Cyson wedi dod i ben am eich bod yn yr ysbyty)
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel gyda Lwfans Gweini Cyson neu'r Elfen Symudedd (hyd yn oed os yw'r Lwfans Gweini Cyson wedi dod i ben am eich bod yn yr ysbyty)
  • Budd-dal y Dreth Gyngor neu Fudd-dal Tai gyda Phremiwm Anabledd neu Bremiwm Uwch i Bensiynwyr
  • cerbyd o dan y Cynllun Cerbydau Annilys

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau - help i weithio allan y cyfnod cyfunol o 28 wythnos

Wrth weithio allan pa mor hir rydych wedi bod yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, gallwch ychwanegu cyfnodau ar wahân at ei gilydd. Gallwch hefyd gynnwys cyfnodau pan gawsoch fudd-daliadau penodol eraill.

Wrth edrych yn ôl a gweithio hyn allan, gallwch gynnwys unrhyw gyfnodau pan gawsoch:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau - ar yr amod nad oeddent fwy na 12 wythnos ar wahân
  • Tâl Salwch Statudol - ar yr amod nad oeddent fyw nag 8 wythnos ar wahân
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau a dalwyd ar ôl i chi gael Tâl Salwch Statudol - ar yr amod nad oeddent fwy na 12 wythnos ar wahân
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau ar ôl i chi gael Budd-dal Analluogrwydd ar y gyfradd uchaf fyrdymor neu'r gyfradd hirdymor, neu Lwfans Anabledd Difrifol - ar yr amod nad oeddent fwy na 12 wythnos ar wahân

Os oeddech yn cael Tâl Salwch Statudol, ni ddylech ond gynnwys cyfnodau pan oeddech yn bodloni'r amodau cyfrannu ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau. Mae hyn yn golygu eich bod wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol i fod yn gymwys i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, pe na baech wedi cael Tâl Salwch Statudol. Os nad ydych yn siŵr a yw hyn yn gymwys i chi, dylech ffonio'r Llinell Ymholiadau Budd-daliadau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU