Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Sut i gyfrifo credydau treth am gyfnodau byr - enghraifft

Mae’r enghraifft hon yn dangos sut y mae credydau treth yn cael eu cyfrifo os ydych yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant am ran o’r flwyddyn, neu os yw’ch amgylchiadau yn newid. Mae’n seiliedig ar gyfraddau a therfynau’r credydau treth i fyny at 5 Ebrill 2012. Caiff ei ddiweddaru ar 6 Ebrill 2012.

Rydych yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant

Am ddiben yr enghraifft hon, rhain yw eich amgylchiadau:

  • rydych yn ddau riant sengl sydd wedi bod yn hawlio credydau treth ar eich pen eich hunain ond rydych yn awr yn cyd-fyw
  • mae’r ddau ohonoch yn gweithio 16 awr yr wythnos
  • mae gan bob un ohonoch blentyn o dan 16 oed
  • mae eich costau gofal plant rhyngoch yn £2,480 y flwyddyn
  • mae eich incwm blynyddol ar y cyd yn £27,500
  • rydych yn gwneud hawliad newydd am gredydau treth fel cwpl mewn cartref newydd

Mae gennych hawl i dderbyn credydau treth am y cyfnod rhwng 2 Mai 2011 ac 31 Awst 2011 – cyfanswm o 122 o ddiwrnodau.

Cam un – cyfrifo eich incwm am y cyfnod hwn

Mae eich incwm blynyddol ar y cyd yn £27,500. Y trothwy blynyddol cyn bod eich credydau treth yn cael eu gostwng yw £6,420. Oherwydd nid ydych yn gymwys i gredydau treth am flwyddyn llawn, mae’r ddau ffigwr hyn yn cael eu cyfrifo dros y cyfnod lleiaf ar sail ‘pro-rata’.

Y trothwy incwm – sut i gyfrifo ar sail pro-rata

Mae’r trothwy incwm yn cael ei gyfrifo ar sail pro-rata am y 122 diwrnod fel a ganlyn:

£6,420 ÷ 366 x 122 = £2,140.

Mae hyn yn rhoi trothwy incwm pro-rata o £2,140.

Eich incwm – sut i gyfrifo ar sail pro-rata

Bydd eich incwm am y cyfnod o 122 diwrnod hefyd yn cael ei gyfrifo ar sail pro-rata fel a ganlyn:

£27,500 ÷ 366 x 122 = £9,166.67

Cam dau – cyfrifo faint o gredydau treth y mae gennych hawl i’w derbyn

Pe bai gennych hawl i dderbyn credydau treth am flwyddyn gyfan, byddai’r mwyaf y gallech ddisgwyl ei dderbyn yn cynnwys:

  • elfen sylfaenol y Credyd Treth Gwaith o £1,920
  • elfen cwpl y Credyd Treth Gwaith o £1,950
  • elfen 30 awr y Credyd Treth Gwaith o £790
  • elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith (70 y cant o £2,480) o £1,736
  • elfen blant y Credyd Treth Plant (£2,555 am bob plentyn) o £5,110
  • elfen deulu'r Credyd Treth Plant o £545

Cyfrifo faint y mae gennych hawl iddo am ran o’r flwyddyn

Gan mai ond am 122 diwrnod y mae gennych hawl i gredydau treth, mae pob swm yn cael ei leihau. Am bob elfen, ar wahân i’r elfen gofal plant, mae’n cael ei gyfrifo fel hyn:

  • rhannwch y swm blynyddol am bob elfen gyda 366
  • talgrynnwch y ffigur hwn i fyny i’r geiniog agosaf i gael y gyfradd ddyddiol
  • lluoswch y gyfradd ddyddiol gyda 122 - dyma nifer y diwrnodau y mae gennych hawl iddynt

Mae elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith yn cael ei chyfrifo’n wahanol, fel hyn:

  • rhannwch y swm blynyddol gyda 52
  • talgrynnwch y ffigur hwn i fyny i’r £1 agosaf i gael y gyfradd wythnosol
  • lluoswch y gyfradd wythnosol gyda 52
  • rhannwch hwn gyda 366
  • lluoswch hwn gyda nifer y diwrnodau yn y cyfnod
  • lluoswch hwn eto gydag 70 y cant
  • talgrynnwch y ffigur hwn i fyny i’r geiniog agosaf

Yr uchafswm credydau treth y mae gennych hawl i’w derbyn

Dyma’r uchafswm credydau treth y gallwch ei dderbyn am y cyfnod o 122 diwrnod:

Elfen Cyfradd ddyddiol Yr uchafswm y gallwch ei gael
Elfen sylfaenol y Credyd Treth Gwaith £5.25 £640.50
Elfen cwpl y Credyd Treth Gwaith £5.33 £650.26
Elfen 30 awr y Credyd Treth Gwaith £2.16 £263.52
Elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith - £582.40
Elfen blant y Credyd Treth Plant (mae’r swm a ddangosir am ddau o blant) £13.97 £1,704.34
Elfen deulu’r Credyd Treth Plant £1.49 £181.78
Cyfanswm £4,022.80

Cam tri – cyfrifo faint y gallwch ei gael

Os yw eich incwm dros y trothwy pro-rata, mae’r elfennau yr ydych yn gymwys ar eu cyfer yn cael eu lleihau mewn trefn arbennig.

Beth sy’n cael ei leihau gyntaf?

Yr elfennau Credyd Treth Gwaith, ar wahân i ofal plant, sy’n cael eu lleihau gyntaf.

Yn yr enghraifft hon, yr elfennau Credyd Treth Gwaith y byddai gennych hawl iddynt yw:

  • elfen sylfaenol o £640.50
  • elfen cwpl o £650.26
  • elfen 30 awr o £263.52

Mae hyn yn gyfanswm o £1,554.28 y byddai gennych hawl iddo.

Sut y mae’r elfennau hyn yn cael eu lleihau

Mae’r elfennau sylfaenol, cwpl a 30 awr yn cael eu hadio at ei gilydd a’u lleihau fel a ganlyn:

Y camau ar gyfer cyfrifo Swm (£)
Yr incwm am y cyfnod 9,166.67
Llai y trothwy incwm am y cyfnod -2,140
Yr incwm sydd dros y trothwy incwm 7,026.67
Lluosi gyda 41% (y gyfradd a ddefnyddir i leihau’r elfennau Credyd Treth Gwaith – ar wahân i’r elfen gofal plant) 2,880.93
Cyfanswm yr elfennau sylfaenol, cwpl a 30 awr ar ôl eu lleihau 2,880.93

Yr elfennau a fyddai’n ddyledus i chi

Mae’r swm wedi’i leihau o £2,880.93 yn uwch na’r £1,554.28 y byddai gennych hawl iddo.

Mae hyn yn golygu na fyddwch yn derbyn yr elfen sylfaenol, yr elfen ail oedolyn na’r elfen 30 awr.

Beth yw’r ail beth sy’n cael ei leihau?

Yr ail beth sy’n cael ei leihau yw elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith. Y mwyaf y gallwch ddisgwyl ei dderbyn yw £582.40 (fel sy’n cael ei gyfrifo yng ngham 2).

Sut y mae swm wedi’i leihau elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith yn cael ei gyfrifo

Mae swm elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:

Y camau ar gyfer cyfrifo Swm (£)
Yr incwm am y cyfnod 9,166.67
Llai y trothwy incwm am y cyfnod -2,140
Yr incwm sydd dros y trothwy incwm 7,026.67
Lluosi gyda 41% (y gyfradd a ddefnyddir i leihau elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith) 2,880.93
Llai y Credyd Treth Gwaith sy’n ddyledus i chi ar wahân i’r elfen gofal plant -1,554.28
Y gwahaniaeth 1,326.65

Swm elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith sy’n ddyledus i chi

Mae’r gwahaniaeth o £1,326.65 yn uwch na’r £582.40 y byddai gennych hawl iddo.

Mae hyn yn golygu na fyddwch yn derbyn elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith.

Beth yw’r trydydd peth i gael ei leihau?

Y trydydd peth i gael ei leihau yw elfennau plant y Credyd Treth Plant.

Yn yr enghraifft hon, nid yw elfen deulu’r Credyd Treth Plant yn cael ei lleihau oherwydd bod eich incwm blynyddol yn llai na £40,000.

Y trothwy incwm ar gyfer y Credyd Treth Plant

Oherwydd bod yr holl Gredyd Treth Gwaith wedi’i leihau i nil, ni ddefnyddir y trothwy incwm o £2,140 a gyfrifwyd yng ngham un. Felly defnyddir trothwy incwm newydd. Y trothwy hwn yw’r uchaf o’r symiau canlynol:

  • y trothwy incwm o £15,860 ar gyfer y Credyd Treth Plant – wedi’i addasu ar gyfer y cyfnod (sef 122 diwrnod yn yr achos hwn)
  • y swm a ddefnyddiwyd i leihau elfennau blaenorol y Credyd Treth Gwaith yn nil

Mae trothwy incwm y Credyd Treth Plant yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:

£15,860 ÷ 366 x 122 = £5,286.67

Mae’r swm a ddefnyddiwyd i leihau elfennau’r Credyd Treth Gwaith yn nil yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn:

Y camau ar gyfer cyfrifo Swm (£)
Elfennau gwaith y Credyd Treth Gwaith 1,554.28
Yn ogystal ag Elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith 582.40
Cyfanswm 2,136.68
Rhannu hyn gyda 41% 5,211.41
Yn ogystal â Throthwy incwm y Credyd Treth Gwaith +2,140
Cyfanswm 7,351.41

Oherwydd bod £7,351.41 yn uwch na’ch trothwy incwm Credyd Treth Plant (5,286.67), defnyddir y trothwy incwm o £7,351.41.

Sut mae eich elfennau Credyd Treth Plant yn cael eu lleihau

Drwy ddefnyddio’r trothwy incwm newydd o £7,351.41, mae’r elfennau plant yn cael eu lleihau fel a ganlyn:

Y camau ar gyfer cyfrifo Swm (£)
Yr incwm am y cyfnod 9,166.67
Llai y trothwy incwm newydd am y cyfnod -7,351.41
Yr incwm sydd dros y trothwy incwm 1,815.26
Lluosi gyda 41% 744.26
Swm elfen blant y Credyd Treth Plant y mae gennych hawl iddo (fel y cyfrifwyd yng ngham dau) 1,704.34
Llai y swm wedi’i leihau -744.26
Swm elfen blant y Credyd Treth Plant sy’n ddyledus 960.08

Swm y Credyd Treth Plant sy’n ddyledus i chi

Mae’r symiau canlynol yn ddyledus i chi:

  • £960.08 – am yr elfen blant
  • £181.78 – am yr elfen deulu

Cyfanswm o £1,141.86.

Cam pedwar – crynodeb o’r swm sy’n ddyledus i chi

Yr elfennau y mae gennych hawl iddynt Y mwyaf y gallwch ddisgwyl ei dderbyn Y swm wedi’i leihau y mae gennych hawl i’w dderbyn Swm net sy’n ddyledus
Elfennau gwaith y Credyd Treth Gwaith £1,554.28 £2,880.93 Nil
Elfennau gofal plant y Credyd Treth Gwaith £582.40 £1,326.65 Nil
Elfennau plant y Credyd Treth Plant £1,704.34 £744.26 £960.08
Elfen deulu’r Credyd Treth Plant £181.78 Nil £181.78
Cyfanswm y taliad sy’n ddyledus £1,141.86

I gysylltu â’r Swyddfa Credydau Treth

Os oes angen mwy o help arnoch, gallwch ffonio’r Llinell Credydau Treth.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU