Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Credydau treth: newidiadau y bydd angen i chi roi gwybod amdanynt a phryd

Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar eich credydau treth. Os na fyddwch yn gwneud hynny, gallech gael gormod o gredydau treth (gordaliad) neu efallai na fyddwch yn cael popeth y mae gennych hawl iddo. Gallwch roi gwybod am newidiadau drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth neu yn ysgrifenedig, ond nid ar-lein.

Sut i roi gwybod am newidiadau

Gallwch roi gwybod am newidiadau drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth, neu ysgrifennu i'r Swyddfa Credyd Treth.

Ni allwch roi gwybod am y rhan fwyaf o newidiadau hyd nes y byddant yn digwydd mewn gwirionedd. Mae'r adrannau isod yn dweud wrthych pryd y dylech roi gwybod am bob math o newid.

Ni allwch roi gwybod am newidiadau dros e-bost nac ar-lein ar gyfer credydau treth. Yr unig eithriad i hyn yw os byddwch yn newid cyfeiriad, a'ch bod hefyd yn cael Budd-dal Plant.

Newidiadau i gyfeiriad

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosibl ar ôl i chi newid eich cyfeiriad neu rif ffôn.

Rhaid i chi aros tan eich bod yn symud - ni allwch roi manylion eich cyfeiriad newydd cyn i chi symud.

Newidiadau i gyfeiriad - os ydych hefyd yn cael Budd-dal Plant

Os ydych hefyd yn cael Budd-dal Plant, gallwch ddefnyddio ffurflen ar-lein i roi manylion eich cyfeiriad neu rif ffôn newydd. Dim ond os ydych hefyd yn cael Budd-dal Plant y dylech ddefnyddio'r ffurflen.

Caiff y manylion eu defnyddio i ddiweddaru eich cofnodion Budd-dal Plant a chredydau treth. Felly, oni bai bod gennych unrhyw newidiadau eraill i roi gwybod amdanynt, ni fydd angen i chi gysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth hefyd.

Os oes gennych newidiadau eraill i roi gwybod amdanynt, bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth o hyd i ddweud wrthi am y rhain.

Os nad ydych yn cael Budd-dal Plant, peidiwch â defnyddio'r ffurflen ar-lein - bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth

Newidiadau i fanylion banc

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosibl os byddwch yn agor cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu gwahanol.

Gallwch ddarparu manylion y cyfrif newydd hyd at 30 diwrnod cyn i chi ddechrau defnyddio'r cyfrif newydd.

Dechrau a rhoi'r gorau i weithio - neu newid swyddi

Dechrau gweithio

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth os byddwch chi neu eich partner yn dechrau gweithio - naill ai fel cyflogai neu unigolyn hunangyflogedig. Nid yw'n gwneud gwahaniaeth faint o oriau rydych yn eu gweithio, bydd angen i chi roi gwybod am hyn o hyd.

Gallwch ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth cyn i'r swydd ddechrau - ond heb fod yn fwy na saith diwrnod cyn hynny.

Cysylltwch â ni o fewn mis fan bellaf i'r dyddiad y byddwch chi neu eich partner yn dechrau gweithio.

Rhowch gyfeiriad llawn swyddfa dalu eich cyflogwr newydd yn ogystal â'i gyfeirnod treth TWE pan fyddwch yn cysylltu â’r Swyddfa Credyd Treth. Dylai ei gyfeirnod TWE fod ar eich slip cyflog diweddaraf, neu gofynnwch i'ch cyflogwr os nad ydych yn siŵr.

Rhoi'r gorau i weithio

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth os byddwch chi neu eich partner:

  • yn rhoi'r gorau i weithio yn gyfan gwbl - p'un a oeddech yn gyflogai neu'n unigolyn hunangyflogedig
  • yn ddi-waith ar hyn o bryd, a'ch bod yn disgwyl y bydd cyfnod o bedair wythnos neu fwy cyn y byddwch yn dechrau swydd arall
  • yn cael eich diswyddo am fwy na phedair wythnos - neu am gyfnod amhenodol

Cysylltwch cyn gynted â phosibl unwaith y bydd unrhyw un o'r newidiadau hyn yn digwydd, ac o fewn mis fan bellaf.

Newid swyddi

Os byddwch chi neu eich partner yn newid swyddi, dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth.

Os yw'r hen swydd wedi dod i ben, gallwch roi gwybod am y swydd newydd cyn iddi ddechrau - ond heb fod yn fwy na saith diwrnod cyn hynny.

Os bydd y bwlch rhwng y swyddi yn:

  • bedair wythnos neu fwy, rhaid i chi roi gwybod am y swydd newydd o fewn mis i'r dyddiad dechrau
  • llai na phedair wythnos, mae'n well rhoi gwybod am y swydd newydd o fewn mis - os bydd y newid yn golygu y bydd eich taliadau'n cynyddu, dim ond hyd at fis y gellir ôl-ddyddio'r swm uchaf

Ond os oes bwlch o chwe diwrnod neu lai rhwng y swyddi, peidiwch â rhoi gwybod am y swydd newydd tan iddi ddechrau. Cysylltwch cyn gynted â phosibl ar ôl i'r swydd newydd ddechrau. Mae'n well gwneud hyn o fewn mis. Y rheswm dros hyn yw os yw'r newid yn golygu y bydd eich taliadau'n cynyddu, dim ond hyd at fis y gellir ôl-ddyddio'r swm uchaf.

Rhowch gyfeiriad llawn swyddfa dalu eich cyflogwr newydd yn ogystal â'i gyfeirnod treth TWE pan fyddwch yn cysylltu â’r Swyddfa Credyd Treth. Dylai ei gyfeirnod TWE fod ar eich slip cyflog diweddaraf, neu gofynnwch i'ch cyflogwr os nad ydych yn siŵr.

Newidiadau i oriau gwaith

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth os byddwch yn gweithio llai na'r nifer ofynnol o oriau gwaith â thâl ar gyfer Credyd Treth Gwaith.

Mae'r nifer ofynnol o oriau yn dibynnu ar eich amgylchiadau, ond fel arfer bydd angen i chi weithio o leiaf:

  • 30 awr yr wythnos os nad oes gennych blant
  • 16 awr yr wythnos os oes gennych anabledd, neu os ydych yn 60 oed neu'n hŷn
  • 16 awr yr wythnos os ydych yn rhiant sengl
  • o leiaf 24 awr yr wythnos rhyngoch chi, os ydych yn rhan o gwpwl â phlant - gydag un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos

Rhowch wybod am y newid cyn gynted â phosibl unwaith y bydd yn digwydd, ac o fewn mis.

Mae angen i chi hefyd ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth o fewn mis os bydd y naill neu'r llall o'r canlynol yn digwydd:

  • roeddech chi neu'ch partner yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos, ac rydych bellach yn gweithio llai na 30 awr yr wythnos
  • rydych yn rhan o gwpwl â phlant, ac mae eich oriau gwaith ar y cyd bellach yn llai na 30 awr yr wythnos

Os ydych i ffwrdd o'r gwaith, neu os oes bwlch yn eich gwaith

Absenoldeb oherwydd salwch

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth os na fyddwch chi neu'ch partner yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl 28 wythnos cyntaf cyfnod o absenoldeb oherwydd salwch. Bydd angen i chi gysylltu o fewn mis ar ôl i'r cyfnod o 28 wythnos ddod i ben.

Cyfnod mamolaeth a mabwysiadu

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth os na fyddwch chi neu'ch partner yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl 39 wythnos cyntaf cyfnod mamolaeth neu fabwysiadu. Bydd angen i chi gysylltu o fewn mis ar ôl i'r cyfnod o 39 wythnos ddod i ben.

Cyfnod tadolaeth

Rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth os na fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl eich pythefnos o gyfnod tadolaeth arferol. Cysylltwch o fewn mis ar ôl i'r cyfnod o bythefnos ddod i ben.

Gallech gymryd cyfnod tadolaeth ychwanegol am fod eich partner wedi dychwelyd i'r gwaith. Nid oes angen i chi roi gwybod am hyn os yw o fewn y cyfnod sy'n:

  • dechrau o'r 20fed wythnos ar ôl i'ch plentyn gael ei eni neu ei leoli i'w fabwysiadu
  • dod i ben pan fyddai 39 wythnos o gyfnod mamolaeth neu fabwysiadu eich partner wedi dod i ben - pe byddai wedi cymryd y 39 wythnos llawn

Ond rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth o fewn mis os byddwch yn cymryd absenoldeb ychwanegol y tu allan i'r cyfnod hwn.

Streiciau

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth os buoch chi neu'ch partner ar streic am fwy na deg diwrnod gwaith yn olynol.

Cysylltwch o fewn mis ar ôl i chi fod ar streic am fwy na deg diwrnod.

Cael eich gwahardd o'r gwaith

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth os na fyddwch chi neu'ch partner yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl cael eich gwahardd.

Cysylltwch o fewn mis ar ôl dod i wybod na fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith.

Newidiadau mewn incwm

Efallai y byddwch yn disgwyl i'ch incwm (incwm ar y cyd i gyplau) ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol fod yn fwy neu lai nag incwm y llynedd. Mae blwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill mewn un flwyddyn i 5 Ebrill yn y flwyddyn nesaf.

Efallai y byddwch yn dechrau cael pensiwn, er enghraifft, sy'n cynyddu eich incwm. Neu gallech golli eich swydd, gan olygu y bydd eich incwm yn gostwng.

Pan fyddwch yn gwybod bod eich incwm yn newid, dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosibl. Cysylltwch cyn gynted ag y gallwch. Os yw'r newid yn golygu y bydd eich credydau treth yn gostwng, gallech fod yn cronni gordaliad y gallai fod yn rhaid i chi ei ad-dalu.

Priodi, partneriaethau sifil, byw gyda rhywun - neu'n gwahanu oddi wrth bartner

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth am newidiadau yn eich perthynas cyn gynted â phosibl ar ôl iddo ddigwydd - ac o fewn mis. Er enghraifft, os ydych yn cael credydau treth fel person sengl, ond eich bod yn dechrau byw gyda rhywun fel pe baech yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

Os ydych yn hawlio fel person sengl pan ddylech fod yn hawlio fel cwpwl, gallech fod yn cael gormod o gredydau treth. Yn yr un modd, os byddwch yn gwahanu, dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth - os na fyddwch yn gwneud hynny, efallai na fyddwch yn cael popeth sy'n ddyledus i chi.

Mae angen i chi hefyd ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth - o fewn mis - os bydd eich partner yn marw.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybodaeth fanylach am y newidiadau mewn perthynas y mae angen i chi roi gwybod amdanynt.

Newidiadau yn y teulu

Newidiadau yn ymwneud â phlant - o faban newydd hyd at 20 oed

O fewn mis ar ôl iddo ddigwydd, dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth os bydd eich plentyn:

  • yn gadael gartref i fyw gyda rhywun arall
  • yn cael ei gymryd i mewn i ofal
  • yn cael ei leoli gyda theulu i'w faethu neu ei fabwysiadu
  • wedi cael dedfryd o garchar am bedwar mis neu fwy
  • yn marw

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosibl:

  • ar ôl i chi gael babi
  • ar ôl i fabi neu berson ifanc ymuno â'ch teulu, efallai oherwydd eich bod yn maethu neu'n mabwysiadu

Os byddwch yn cael babi, neu os bydd plentyn yn ymuno â'ch teulu, gallai eich credydau treth gynyddu. Gallech fod ar eich colled os na fyddwch yn cysylltu o fewn mis, gan mai dim ond hyd at fis y gellir ôl-ddyddio unrhyw gynnydd.

Os oes gan eich plentyn anabledd

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosibl:

  • ar ôl i Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich plentyn ddod i ben
  • ar ôl i Elfen Ofal Lwfans Byw i'r Anabl ar y Gyfradd Uchaf ar gyfer eich plentyn ddod i ben
  • os nad yw eich plentyn wedi ei gofrestru'n ddall mwyach

Cysylltwch cyn gynted â phosibl, oherwydd gallech gronni gordaliad y gallai fod yn rhaid i chi ei ad-dalu.

Nid oes angen i chi gysylltu os mai dim ond tra bod eich plentyn yn yr ysbyty y bydd eich Lwfans Byw i'r Anabl (neu'r Elfen Ofal ar y Gyfradd Uchaf) yn dod i ben.

Unwaith y bydd eich plentyn yn troi'n 16 oed

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth os bydd eich plentyn yn parhau mewn addysg neu hyfforddiant sy'n cyfrif ar gyfer Credyd Treth Plant ar ôl iddo droi'n 16 oed. Er enghraifft, efallai y bydd yn mynd i goleg i ddilyn cwrs Safon Uwch, neu'n dechrau cwrs hyfforddi fel Rhaglen Dysgu Sylfaen.

Gallwch gysylltu hyd at dri mis cyn i'ch plentyn ddechrau ei gwrs. Mae'n well cysylltu o fewn mis fan bellaf ar ôl i gwrs eich plentyn ddechrau - gallech fod ar eich colled os byddwch yn oedi.
Mae'n bwysig rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Swyddfa Credyd Treth am newidiadau eraill sy'n digwydd ar ôl i'ch plentyn droi'n 16 oed. Er enghraifft, os bydd yn gadael addysg neu hyfforddiant neu'n dechrau cael budd-daliadau yn ei rinwedd ei hun.

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau y dylech roi gwybod amdanynt, a pha addysg neu hyfforddiant sy'n cyfrif tuag at Gredyd Treth Plant, dilynwch y ddolen isod.

Rydych chi neu aelod o'ch teulu yn cael eich rhoi yn y ddalfa

O fewn mis, dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth os oedd y person sydd wedi cael ei roi yn y ddalfa:

  • yn gweithio a'i fod wedi gadael ei swydd
  • yn rhiant unigol ac nad yw'n gyfrifol am unrhyw blant mwyach - er enghraifft am eu bod wedi mynd i fyw gyda rhywun arall neu wedi cael eu cymryd i mewn i ofal

Os nad yw unrhyw un o'r rhain yn berthnasol, mae angen i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosibl o hyd os byddwch chi neu'ch partner:

  • yn cael dedfryd o garchar
  • wedi cael eich cadw yn y ddalfa tra'n aros am dreial neu ddedfryd

Mae'n well gwneud hyn o fewn mis. Y rheswm dros hyn yw os yw'r newid yn golygu y bydd eich taliadau'n cynyddu, dim ond hyd at fis y gellir ôl-ddyddio'r swm uchaf.

Newidiadau o ran gofal plant

Mae eich costau gofal plant yn newid - neu rydych yn dechrau talu am ofal plant

Gallai rhai newidiadau olygu y bydd yr help rydych yn ei gael ar gyfer eich gofal plant yn dod i ben neu'n gostwng. Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth am y newidiadau hyn o fewn mis, neu gallech gael gormod o gredydau treth.

Ymhlith yr enghreifftiau mae:

  • os byddwch yn rhoi'r gorau i dalu am ofal plant
  • os bydd eich costau gofal plant cyfartalog yn gostwng £10 yr wythnos neu fwy - ac os ydych yn talu'r un faint bob wythnos, bydd y newid yn para am o leiaf bedair wythnos yn olynol
  • os byddwch yn dechrau cael help gyda chostau gofal plant o rywle arall - er enghraifft, talebau gofal plant

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosibl os:

  • byddwch yn dechrau talu darparwr gofal plant cofrestredig neu gymeradwy i ofalu am eich plentyn
  • ydych eisoes yn cael help gyda'ch costau gofal plant a bod eich costau'n cynyddu £10 neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd - ac os ydych yn talu'r un faint bob wythnos, bydd y newid yn para am o leiaf bedair wythnos yn olynol

Mae'n well gwneud hyn o fewn mis. Y rheswm dros hyn yw os bydd y newid yn cynyddu eich taliadau, dim ond hyd at fis y gellir ôl-ddyddio'r cynnydd.

Dilynwch y ddolen gyntaf isod i gael gwybodaeth fanylach am y newidiadau gofal plant y dylech roi gwybod amdanynt a sut y gallant effeithio ar eich credydau treth.

Newidiadau yn ymwneud â'ch darparwr gofal plant

Efallai eich bod chi neu eich partner yn cael taliadau credydau treth ychwanegol oherwydd eich anabledd.

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth os nad ydych yn gymwys i gael y taliadau ychwanegol hyn mwyach. Er enghraifft, os bydd eich budd-dal cymhwyso sy'n gysylltiedig â salwch neu anabledd yn dod i ben.

Cysylltwch cyn gynted â phosibl, oherwydd gallech gronni gordaliad y gallai fod yn rhaid i chi ei ad-dalu.

Newidiadau o ran eich anabledd

Efallai eich bod chi neu eich partner yn cael taliadau credydau treth ychwanegol oherwydd eich anabledd.

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth os nad ydych yn gymwys i gael y taliadau ychwanegol hyn mwyach. Er enghraifft, os bydd eich budd-dal cymhwyso sy'n gysylltiedig â salwch neu anabledd yn dod i ben.

Cysylltwch cyn gynted â phosibl, oherwydd gallech gronni gordaliad y gallai fod yn rhaid i chi ei ad-dalu.

Gadael y DU - neu golli'r hawl i fyw yn y DU

Dywedwch wrth y Swyddfa Credyd Treth o fewn mis os byddwch chi neu eich partner:

  • yn gadael y DU am byth
  • yn gadael y DU am unrhyw gyfnod a'ch bod yn disgwyl bod i ffwrdd am fwy na 52 wythnos ar yr adeg y byddwch yn gadael
  • yn mynd dramor am gyfnod byr o fwy nag wyth wythnos - neu am fwy na 12 wythnos os ydych chi neu aelod o'r teulu yn cael eich trin am salwch, neu os yw aelod o'ch teulu (neu deulu eich partner) wedi marw
  • yn colli'r hawl i fyw yn y DU

Pam ei bod mor bwysig i roi gwybod am newidiadau'n fuan

Peidio â rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am newidiadau yw un o'r prif resymau dros ordaliadau.

Os na fyddwch yn dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth yn syth pan fydd newid yn digwydd, gallech:

  • gael eich gordalu o ddyddiad y newid - a gallai fod yn rhaid i chi ei ad-dalu
  • gorfod talu dirwy o hyd at £300 os ydych wedi cael eich gordalu
  • bod ar eich colled os oedd y newid yn golygu bod gennych hawl i gael mwy o arian - fel arfer dim ond hyd at fis y gellir ôl-ddyddio cynnydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU