Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Bylchau dros dro mewn gwaith - sut y gallant effeithio ar Gredyd Treth Gwaith

Efallai na fyddwch yn gweithio am gyfnod byr - efallai am fod gennych fwlch cyn dechrau swydd newydd. Os felly, efallai y cewch eich trin fel pe baech yn gweithio o hyd ac y byddwch yn gallu cael Credyd Treth Gwaith, yn dibynnu ar yr oriau rydych fel arfer yn eu gweithio.

Beth oedd eich oriau gwaith arferol cyn i chi fod i ffwrdd o'r gwaith?

Eich oriau gwaith arferol oedd yr oriau roeddech yn eu gweithio bob wythnos cyn i chi fynd i ffwrdd o'r gwaith.

Er mwyn cael Credyd Treth Gwaith, mae angen i chi weithio nifer ofynnol o oriau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau a ph'un a oes gennych blant.

Os nad oes gennych blant

I gael Credyd Treth Gwaith, fel arfer rhaid i chi fod yn 25 oed neu'n hŷn ac yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Ond dim ond 16 awr neu fwy yr wythnos y mae angen i chi weithio os ydych:

  • yn 16 oed o leiaf ac yn gymwys i gael taliad Credyd Treth Gwaith ychwanegol gan fod gennych anabledd
  • yn 60 oed neu'n hŷn,

Os oes gennych blant

I gael Credyd Treth Gwaith, mae angen i chi fod yn 16 oed o leiaf, ac yn gweithio'r oriau canlynol:

  • os ydych yn sengl, mae angen i chi weithio o leiaf 16 awr yr wythnos
  • os ydych yn rhan o gwpwl, mae angen i'ch oriau gwaith ar y cyd fod o leiaf 24 awr yr wythnos, gydag un ohonoch yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos

Felly os ydych yn rhan o gwpwl, ac os mai dim ond un ohonoch sy'n gweithio, mae'n rhaid i'r unigolyn hwnnw weithio o leiaf 24 awr yr wythnos.

Weithiau byddwch yn gymwys o hyd os yw eich oriau ar y cyd yn llai na 24 awr yr wythnos - dilynwch y ddolen gyntaf am fwy o wybodaeth.

Os ydych wedi eich diswyddo

Os nad oes gan eich cyflogwr unrhyw waith i'w gynnig i chi a'i fod wedi eich diswyddo, gallwch fel arfer barhau i gael Credyd Treth Gwaith. Mae hyn am rhwng pedair ac wyth wythnos.

Mae pa mor hir y gallwch barhau i gael Credyd Treth Gwaith yn dibynnu ar:

  • a yw eich diswyddiad dros dro
  • a ydych wedi eich diswyddo am gyfnod amhenodol
  • a ydych yn colli eich swydd tra eich bod wedi eich diswyddo

Os ydych ar streic

Os ydych i ffwrdd o'r gwaith ar streic, gallwch barhau i gael Credyd Treth Gwaith am y deg diwrnod cyntaf rydych ar streic. Ond mae'n rhaid eich bod chi - neu chi a'ch partner - wedi bod yn gweithio'r nifer ofynnol o oriau ar gyfer eich amgylchiadau cyn i chi fynd ar streic.

Os ydych ar streic am fwy na deg diwrnod gwaith yn olynol, ni fyddwch yn gallu cael Credyd Treth Gwaith. Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth o fewn mis. Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Ni fyddwch yn gallu hawlio Credyd Treth Gwaith hyd nes eich bod wedi mynd yn ôl i'r gwaith.

Os cewch eich gwahardd o'r gwaith

Os cewch eich gwahardd o'r gwaith tra y cynhelir ymchwiliadau i gwynion neu honiadau yn eich erbyn, gallwch barhau i gael Credyd Treth Gwaith. Ond mae'n rhaid eich bod chi - neu chi a'ch partner - wedi bod yn gweithio'r nifer ofynnol o oriau ar gyfer eich amgylchiadau cyn i chi gael eich gwahardd.

Bylchau rhwng swyddi

Os ydych rhwng swyddi am lai na phedair wythnos, bydd eich taliadau Credyd Treth Gwaith yn parhau. Ond mae hyn dim ond os byddwch chi - neu chi a'ch partner - fel arfer yn gweithio'r nifer ofynnol o oriau ar gyfer eich amgylchiadau.

Os byddwch yn gostwng eich oriau gwaith wythnosol i lai na'r oriau gofynnol neu os byddwch yn rhoi'r gorau i weithio'n llwyr, daw eich Credyd Treth Gwaith i ben. Ond ni ddaw i ben ar unwaith - byddwch yn parhau i'w gael am bedair wythnos arall o ddyddiad y newid.

Mathau eraill o absenoldeb

Absenoldeb oherwydd salwch

Os na allwch weithio oherwydd salwch neu analluogrwydd, efallai y gallwch gael Credyd Treth Gwaith o hyd.

Cyfnod mamolaeth a mabwysiadu

Os ydych ar gyfnod mamolaeth, efallai y gallwch gael Credyd Treth Gwaith am hyd at 39 wythnos. Dyma'r 26 wythnos gyntaf o gyfnod mamolaeth cyffredin a’r 13 wythnos gyntaf o unrhyw gyfnod mamolaeth ychwanegol.

Os ydych ar gyfnod mabwysiadu, efallai y gallwch gael Credyd Treth Gwaith am hyd at 39 wythnos. Dyma'r 26 wythnos gyntaf o gyfnod mabwysiadu cyffredin a’r 13 wythnos gyntaf o unrhyw gyfnod mabwysiadu ychwanegol.

Cyfnod tadolaeth

Efallai y cewch Gredyd Treth Gwaith am eich pythefnos o gyfnod tadolaeth arferol.

Gallech gymryd cyfnod tadolaeth ychwanegol os bydd eich partner yn dewis mynd yn ôl i'r gwaith. Efallai y gallwch hefyd gael Credyd Treth Gwaith yn ystod eich cyfnod tadolaeth ychwanegol - ond dim ond am y cyfnod ychwanegol a gymerwch yn y cyfnod sy'n:

  • dechrau o'r 20fed wythnos ar ôl i'ch plentyn gael ei eni neu ei leoli i'w fabwysiadu
  • dod i ben pan fyddai 39 wythnos o gyfnod mamolaeth neu fabwysiadu eich partner wedi dod i ben - pe byddai wedi dewis cymryd y 39 wythnos lawn

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU