Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi neu eich partner ar gyfnod mamolaeth, tadolaeth neu fabwysiadu, efallai yr ystyrir eich bod mewn gwaith o hyd at ddibenion Credyd Treth Gwaith. Bydd yn dibynnu ar nifer eich oriau gwaith arferol cyn i chi ddechrau eich cyfnod o absenoldeb, a faint o amser y byddwch i ffwrdd o'r gwaith.
Eich oriau gwaith arferol yw'r oriau y gwnaethoch eu gweithio bob wythnos cyn i chi ddechrau eich cyfnod o absenoldeb.
I gael Credyd Treth Gwaith, mae angen i chi weithio nifer ofynnol o oriau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau a ph'un a oes gennych blant ai peidio.
Os nad oes gennych blant
I gael Credyd Treth Gwaith, fel arfer rhaid i chi fod yn 25 oed neu'n hŷn ac yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Ond dim ond 16 awr neu fwy yr wythnos y mae angen i chi weithio os ydych:
Os oes gennych blant
I gael Credyd Treth Gwaith, mae angen i chi fod yn 16 oed o leiaf, ac yn gweithio'r oriau canlynol:
Felly os ydych yn rhan o gwpwl ac mai dim ond un ohonoch sy'n gweithio, mae'n rhaid i'r unigolyn hwnnw fod yn gweithio o leiaf 24 awr yr wythnos.
Weithiau, gallwch fod yn gymwys o hyd os yw eich oriau ar y cyd yn llai na 24 awr - dilynwch y ddolen gyntaf isod i ganfod mwy.
Ystyrir eich bod yn gweithio am hyd at 39 wythnos. Hwn yw’r 26 wythnos cyntaf cyfnod mamolaeth neu fabwysiadu arferol, a 13 wythnos cyntaf unrhyw gyfnod mamolaeth neu fabwysiadu ychwanegol.
Os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Gwaith
Ar yr amod yr ystyrir eich bod mewn gwaith, gallwch barhau i gael Credyd Treth Gwaith pan fydd eich cyfnod o absenoldeb yn dechrau. Ystyrir eich bod mewn gwaith os oeddech yn gweithio'r nifer ofynnol o oriau ar gyfer eich amgylchiadau yn union cyn hynny. Er enghraifft, rydych fel arfer yn gweithio 30 awr neu fwy yr wythnos os nad oes gennych blant eisoes, ac nid yw eich babi wedi cael ei eni neu ei leoli gyda chi eto.
Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, efallai y gallwch barhau i gael Credyd Treth Gwaith os yw'r ddau beth canlynol yn gymwys:
Dilynwch y ddolen isod i ganfod nifer ofynnol yr oriau gwaith ar gyfer Credyd Treth Gwaith.
Gwneud cais am Gredyd Treth Gwaith am y tro cyntaf
Efallai y byddwch yn hawlio Credyd Treth Gwaith am y tro cyntaf tra eich bod ar gyfnod o absenoldeb. I fod yn gymwys, mae angen i chi gael eich ystyried yn rhywun sy'n gweithio. Felly, bydd angen i chi fod wedi bod yn gweithio'r nifer ofynnol o oriau ar gyfer eich amgylchiadau yn union cyn dechrau eich cyfnod o absenoldeb. Er enghraifft, os yw eich babi wedi cael ei eni neu ei leoli gyda chi, neu os oes gennych blant eisoes, fel arfer bydd angen i chi fod wedi bod yn gweithio:
Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, efallai y gallwch hawlio Credyd Treth Gwaith o hyd os yw'r ddau beth canlynol yn gymwys:
Dilynwch y ddolen isod i ganfod nifer ofynnol yr oriau y mae angen i chi eu gweithio ar gyfer Credyd Treth Gwaith.
Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Swyddfa Credyd Treth
Os na fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith yn syth ar ôl eich 39 wythnos cyntaf o gyfnod mamolaeth neu fabwysiadu, rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth. Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth. Cysylltwch o fewn mis. Os na fyddwch yn gwneud hynny, efallai y telir gormod o arian i chi y bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl, ac efallai y gofynnir i chi dalu cosb.
Ystyrir eich bod yn gweithio yn ystod eich pythefnos o gyfnod tadolaeth arferol.
Cyfnod tadolaeth ychwanegol
Efallai y byddwch yn cymryd cyfnod tadolaeth ychwanegol os bydd eich partner yn dewis dychwelyd i'r gwaith. Ystyrir eich bod yn gweithio yn ystod eich cyfnod tadolaeth ychwanegol - ond dim ond am y cyfnod ychwanegol a gymerir yn ystod y cyfnod:
Os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Gwaith
Ar yr amod yr ystyrir eich bod mewn gwaith, gallwch barhau i gael Credyd Treth Gwaith pan fydd eich cyfnod o absenoldeb yn dechrau. Ystyrir eich bod mewn gwaith os oeddech yn gweithio'r nifer ofynnol o oriau ar gyfer eich amgylchiadau yn union cyn hynny. Er enghraifft, 30 awr neu fwy yr wythnos fel arfer os nad oes gennych blant eisoes, ac nad yw eich babi wedi cael ei eni neu ei leoli gyda chi eto.
Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, efallai y gallwch barhau i gael Credyd Treth Gwaith os yw'r ddau beth canlynol yn gymwys:
Dilynwch y ddolen isod i ganfod nifer ofynnol yr oriau y mae angen i chi eu gweithio ar gyfer Credyd Treth Gwaith.
Hawlio Credyd Treth Gwaith am y tro cyntaf
Efallai y byddwch yn hawlio Credyd Treth Gwaith am y tro cyntaf tra eich bod ar gyfnod o absenoldeb. I fod yn gymwys, mae angen i chi gael eich ystyried yn rhywun sy'n gweithio. Felly, bydd angen i chi fod wedi bod yn gweithio'r nifer ofynnol o oriau ar gyfer eich amgylchiadau, yn union cyn dechrau eich cyfnod o absenoldeb.
Er enghraifft, os yw eich babi wedi cael ei eni neu ei leoli gyda chi, neu fod gennych blant eisoes, fel arfer bydd angen i chi fod wedi bod yn gweithio:
Os nad yw hyn yn berthnasol i chi, efallai y gallwch barhau i gael Credyd Treth Gwaith os yw'r ddau beth canlynol yn gymwys:
Dilynwch y ddolen isod i ganfod nifer ofynnol yr oriau gwaith ar gyfer Credyd Treth Gwaith.
Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Swyddfa Credyd Treth
Rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth os na fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith yn syth ar ôl eich cyfnod tadolaeth arferol. Hefyd, rhowch wybod iddi os byddwch yn cymryd unrhyw gyfnod tadolaeth ychwanegol y tu allan i'r cyfnod a ddangosir o dan 'Cyfnod tadolaeth ychwanegol' uchod.
Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth. Cysylltwch o fewn mis. Os na fyddwch yn gwneud hynny, efallai y telir gormod o arian y chi y bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu hawlio Credyd Treth Plant ar gyfer eich babi newydd neu blentyn a fabwysiadwyd - nid oes rhaid i chi fod yn gweithio. Efallai y gallwch hawlio o'r dyddiad y cafodd y plentyn ei leoli gyda chi neu o ddyddiad geni eich plentyn.
Dim ond hyd at fis i'r dyddiad geni neu fabwysiadu y gellir ôl-ddyddio unrhyw hawliad, felly dylech wneud cais cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn ansicr a allwch hawlio, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Credyd Treth am help a chyngor.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael Budd-dal Plant, sef taliad di-dreth y gallwch ei hawlio ar gyfer eich plentyn. Nid yw eich incwm na'ch cynilion yn effeithio arno, ac nid oes rhaid i chi fod yn cael credydau treth i'w gael.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs