Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Credydau treth os byddwch chi neu aelod o'r teulu yn y ddalfa

Os byddwch chi'n cael eich anfon i'r carchar neu sefydliad troseddwyr ifanc neu'ch remandio yn y ddalfa, neu os bydd hynny'n digwydd i rywun yn eich teulu, efallai y bydd yn effeithio ar eich credydau treth. Mae angen i chi roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosibl fel na fydd yn talu gormod i chi.

Allwch chi barhau i gael credydau treth os byddwch chi'n cael eich anfon i'r carchar neu os bydd eich partner yn cael ei anfon i'r carchar?

Os ydych yn sengl, ni fyddwch yn gallu cael Credyd Treth Gwaith:

  • os byddwch yn cael eich anfon i'r carchar
  • os byddwch yn cael eich remandio yn y ddalfa tra'n aros am dreial neu ddedfryd
  • os byddwch yn cael eich anfon i sefydliad troseddwyr ifanc

Os ydych mewn cwpl efallai y byddwch yn gallu parhau i gael credydau treth os bydd un o'r canlynol yn digwydd i chi neu'ch partner:

  • yn cael eich anfon i'r carchar
  • remandio yn y ddalfa tra'n aros am dreial neu ddedfryd
  • anfon i sefydliad troseddwyr ifanc

Os ydych mewn cwpl, dim ond os bydd yr unigolyn nad yw wedi'i anfon i'r carchar yn parhau i weithio y gallwch barhau i gael Credyd Treth Gwaith. Bydd angen iddo weithio o leiaf 16 neu 30 awr yr wythnos, yn dibynnu ar ei amgylchiadau.

Ni fydd gwaith a gyflawnir yn y carchar neu'r tu allan i'r carchar tra byddwch yn bwrw dedfryd neu ar remánd yn cyfrif fel gwaith at ddibenion Credyd Treth Gwaith. Ond bydd unrhyw dâl am y gwaith hwn yn cyfrif fel incwm pan fydd eich taliadau credydau treth yn cael eu cyfrifo.

Sut caiff eich taliadau credydau treth eu heffeithio

Bydd yr effaith ar eich taliadau credydau treth yn dibynnu ar os ydych yn sengl neu’n un o gwpl, ac os oes gennych blant.

Os ydych yn sengl

Bydd eich Credyd Treth Gwaith yn dod i ben. Os oes gennych blant, mae’n bosib y bydd eich Credyd Treth Plant yn dod i ben hefyd.

Os ydych yn un o gwpl gyda phlant

Bydd eich Credyd Treth Gwaith yn parhau.

Ond bydd eich Credyd Treth Gwaith yn dod i ben oni bai bod y person sydd heb fynd i’r carchar yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos.

Os ydych yn un o gwpl a heb blant

Bydd eich Credyd Treth Gwaith yn dod i ben oni bai bod y person sydd heb fynd i’r carchar yn gweithio. Fel arfer bydd angen iddynt weithio o leiaf 30 awr yr wythnos, oni bai ei fod yn anabl neu’n 60 oed neu hŷn.

Mae’n bosib y caiff un ohonoch eich anfon i’r carchar am fwy na 12 mis. Os felly, bydd eich credydau treth ychwanegol am gael ail oedolyn yn eich cartref yn dod i ben.

Beth sy'n digwydd i'ch credydau treth pan fyddwch yn cael eich rhyddhau o'r carchar?

Os oedd gennych chi a'ch partner hawl i gael credydau treth a'ch bod yn cael eich rhyddhau o'r carchar, rhowch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosibl. Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn adolygu eich hawl i gael credydau treth.

Os nad oedd gennych hawl i gael credydau treth tra oeddech yn y carchar, efallai y byddwch yn gallu hawlio credydau treth unwaith eto pan fyddwch yn cael eich rhyddhau, hyd yn oed os byddwch:

  • yn cael eich rhoi ar brawf
  • yn cael eich tagio'n electronig
  • yn cael eich rhyddhau ar barôl

Caiff eich plentyn ei anfon i'r carchar - beth fydd yr effaith ar eich Credyd Treth Plant?

Os bydd eich plentyn yn cael dedfryd o:

  • hyd at bedwar mis yn y ddalfa neu gyfleuster cadw, ni fydd hynny'n effeithio ar eich Credyd Treth Plant - ar yr amod eich bod yn gyfrifol amdano o hyd
  • mwy na phedwar mis yn y ddalfa neu gyfleuster cadw, ni fyddwch yn cael Credyd Treth Plant ar gyfer y plentyn hwnnw wrth iddo fwrw ei ddedfryd

Os ydych yn cael Credyd Treth Plant ar gyfer eich plant eraill, bydd hyn yn parhau.

Dylech roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosibl os bydd eich plentyn yn cael ei ryddhau o'r ddalfa neu gyfleuster cadw. Efallai y byddwch yn gallu cael Credyd Treth Plant ar gyfer eich plentyn unwaith eto ar ôl iddo gael ei ryddhau.

Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Swyddfa Credyd Treth

Os bydd un o'r canlynol yn digwydd i chi, eich partner neu'ch plentyn, rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth cyn gynted â phosibl drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth:

  • anfon i'r carchar
  • remandio yn y ddalfa tra'n aros am dreial neu ddedfryd
  • anfon i sefydliad troseddwyr ifanc
  • rhyddhau o unrhyw un o'r uchod

Os byddwch yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am y newidiadau hyn, bydd yn eich helpu i osgoi cael gormod neu ddim digon o gredydau treth.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU